Cyfweliad: Cymodi - Brennig Davies

Daeth Brennig Davies i'r brig eleni yng nghystadleuaeth y Goron yn eisteddfod yr Urdd, gyda'i stori fer ‘Digwyddodd, Darfu’ - stori am ddynes sy'n dod o hyd i lwynog gwyllt. Mi fuodd y Stamp yn holi Brennig am hyn a'r llall ag arall ...

Beth wyt ti’n wneud o ddydd i ddydd?

Ar hyn o bryd rwy’n paratoi at f’arholiadau diwedd blwyddyn, felly lot o adolygu, yn anffodus! Pan ga' i saib, rwy’n mwynhau darllen, loncian, a gwylio teledu.

Tase ti yn cael dy alltudio i ynys bellennig, beth fyddai'r 5 peth fyse ti yn mynd efo ti?

Llyfr da, ffôn i gysylltu ag adre’, anifail anwes, ac yna pen a phapur er mwyn 'sgwennu!

Be ddaru sbarduno ti i fynd am y goron eleni?

Fe dderbyniais gerdyn trwy’r post dros yr Haf gan un o’m hathrawon o’r ysgol, Miss Heledd Lewis, yn annog i mi geisio - hi sydd i ddiolch am hyn i gyd.

Pa awduron wyt ti’n hoffi eu darllen, ac sydd wedi dylanwadu ar dy waith di?

Rwy’n dwlu ar Dylan Thomas a’i ffordd o drin geiriau, ac ysbrydolwyd fy ffugenw ‘Fleur de Taf’ gan y bardd Hedd Wyn (a gystadlodd am y Gadair ym 1917 fel ‘Fleur de Lis’).

Be ydi dy broses sgwennu di? Oes yna amser penodol pan fyddi di’n sgwennu? Cerddoriaeth fyddi di’n wrando arni?

Rwy’n dueddol o feddwl am syniad am sbel, ac yna ysgrifennu’n eithaf cyflym, fel llif, pan rwy’n gosod pen ar bapur- fydda i wedyn yn mynd nôl i gywiro’r gwallau i gyd, a newid pethau sydd angen eu newid! Dwi ddim fel arfer yn gwrando ar gerddoriaeth tra’n 'sgwennu, achos rwy’n gweld bod e’n tynnu’n sylw gormod, ond mae’n helpu llawer pan rwy’n chwilio am ysbrydoliaeth am straeon newydd.

Yn lle fyddi di’n cadw’r goron? Wyt ti wedi bod yn gwisgo hi rownd y tŷ, wrth hwfro ayyb?

Rwy’n credu bod Mam a Dad wedi ffeindio lle ar gyfer y Goron yn y 'stafell fyw, sy’n gyfleus os oes rhywun am ei gwisgo wrth wneud y gwaith tŷ!

Wyt ti erioed wedi mabwysiadu anifail gwyllt?

I’m mhen-blwydd dwy flynedd yn ôl, ges i gi bach fel anrheg (beagle) sy’n mwynhau cyfarth lot a rhedeg trwy’r tŷ, felly ydw, rwy’n teimlo fy mod wedi mabwysiadu anifail gwyllt.

-----

Gallwch ddarllen darn Brennig, a holl feirniadaethau a darnau llenyddol buddugol Eisteddfod yr Urdd Caerdydd ar Fro yng nghyfrol y Cyfansoddiadau, sydd ar gael gan bob llyfrwerthwr gwerth ei halen.

O.N. Prynwch stwff Y Stamp tra 'dach chi yno.

Previous
Previous

Cyfweliad: Sgidie, Sgidie, Sgidie - Mared Roberts

Next
Next

Cerddoriaeth: Cwmwl Tystion- Tomos Williams