Cyfweliad: Sgidie, Sgidie, Sgidie - Mared Roberts

Mared Roberts ddaeth yn fuddugol yng nghystadleuaeth y Fedal Ddrama yn yr Urdd eleni, gyda'i drama 'Sgidie, sgidie, sgidie', drama yn ymdrin â digartrefedd yng Nghymru. Y Stamp aeth ati i holi'r cwestiynau pwysig iddi.

Beth wyt ti’n ei wneud o ddydd i ddydd?

Dwi’n gweithio’n llawn amser ar hyn o bryd yn cyfieithu, ac yn gwneud amrywiaeth o bethau gyda’r nos, gan gynnwys trio gwneud amser i sgwennu peth.

Tase ti yn cael dy alltudio i ynys bellennig, be fuasai’r 5 peth fyse ti yn mynd efo ti?

W, am gwestiwn!

1. Piano

2. Geiriadur

3. Ffotograffau

4. Pad sgwennu

5. Sôs coch

Be ddaru sbarduno ti i fynd am y Fedal Ddrama eleni?

Bod yn rhan o Ŵyl Hanes Cymru i Blant y llynedd. Wedi ysgrifennu drama un cymeriad am y diwydiant gwlân, roedd gweld y ddrama’n dod yn fyw yn rhoi cymaint o wefr ac yn gwneud y cyfan yn werth chweil. Dyna’r ddrama gyntaf imi ei sgwennu, felly ro’n i chwant rhoi cynnig arall ar sgwennu un, a dyma hi.

Pa awduron neu ddramodwyr wyt ti’n hoffi eu gwaith, ac sydd wedi dylanwadu ar dy waith di?

Heb os, mae Phoebe Waller-Bridge yn dalent cyffrous ar hyn o bryd. Es i i weld Fleabag ar lwyfan y llynedd, a gwych oedd gweld sut roedd un cymeriad yn gallu bod yn sawl cymeriad ar yr un pryd. O ran awduron, dwi wedi darllen llenyddiaeth mewn sawl iaith felly mae’n anodd dewis awduron penodol. Dwi’n meddwl bod fy ngwaith yn goncocshyn o ddylanwadau gwahanol.

Be ydi dy broses sgwennu di? Oes yna amser penodol pan fyddi di’n sgwennu? Cerddoriaeth fyddi di’n wrando arno?

Maen nhw’n dweud ein bod ni’n fwy creadigol gyda’r nos, a dwi’n dueddol o sgwennu tan oriau man y bore. Dwi’n gwrando ar gerddoriaeth wrth i’r syniadau gyniwair yn fy mhen am sbel – er mwyn teimlo rhywbeth – ac yna dwi’n mynd ati i deipio mewn tawelwch.

Taset ti’n cael dewis unrhyw actor yn y byd i chwarae rhan Leah (prif gymeriad y ddrama) mewn cynhyrchiad, pwy fyse ti’n castio?

Rhywun fel Anne Hathaway o bosib, ond dwi ddim yn siŵr a fyddai ei hacen Geredigion gystal ag Elen Morgan, a wnaeth jobyn gwych ohoni yn fy marn i.

Pobol y Cwm neu Rownd a Rownd?

Rownd a Rownd

-----

Gallwch ddarllen drama Mared, a holl feirniadaethau a darnau llenyddol buddugol Eisteddfod yr Urdd Caerdydd ar Fro yng nghyfrol y Cyfansoddiadau, sydd ar gael gan bob llyfrwerthwr gwerth ei halen.

O.N. Prynwch stwff Y Stamp tra 'dach chi yno.

Previous
Previous

Ymateb: Llyfr y Flwyddyn 2019 - Casi Dylan, Eurig Salisbury, @mwnaimwnai

Next
Next

Cyfweliad: Cymodi - Brennig Davies