Ysgrif: Diogelu Ysgolion Cymraeg - Angharad Dafis

Mewn penderfyniad deifiol, mae Comisiynydd y Gymraeg wedi canfod fod Cyngor Abertawe wed torri Mesur y Gymraeg pan gaewyd Ysgol Felindre, drwy esgeuluso effaith hynny ar y Gymraeg fel iaith gymunedol. Ni fydd hynny’n newid y ffaith, serch hynny, fod ysgol wedi ei chau - a bellach wedi ei gwerthu.

Cryfder cymunedau megis Felindre yw eu gwendid hefyd. Mae brogarwch yn golygu fod pob ysgol yn gweithredu ar ei liwt ei hunan. Mae angen sicrach trefn i ddiogelu ein hysgolion Cymraeg rhag cau.

Wrth gau ysgolion gwledig yng Nghymru, anwybyddir mai cau ysgolion Cymraeg a wneir yn aml. Mae rhywun yn rhyfeddu ein bod wedi creu sefyllfa yn ein gwlad lle bo gofyn byth a hefyd gyfiawnhau’r rheswm dros fodolaeth ysgolion Cymraeg. Ai am fod ein diwylliant lleiafrifol o dan warchae parhaus yr ydym wedi caniatáu i hyn ddigwydd, ac wedi ei normaleiddio? Ar adeg pan fo bywyd ar y blaned yntau dan fygythiad cynyddol mae angen trin ysgolion Cymraeg eu hiaith â dyledus barch. Yn sicr nid drwy eu cau mae gwneud hynny. Mae gofyn newid meddylfryd tuag at y sefydliadau cenedlaethol hyn drwy eu diogelu a’u gwneud yn gynaladwy i’r dyfodol. Os ydym am gofleidio sloganau megis ‘Miliwn o Siaradwyr!’, ni ddylem golli golwg chwaith ar werth defnyddwyr y Gymraeg lle bynnag y bônt yn byw a dylid gochel rhag y perygl o’u gwthio i ryw dir neb o ebargofiant diffaith.

Ysgol Gynradd Gymraeg Felindre ar werth, Llun: Angharad Dafis

Mae modd yn hytrach adeiladu ar seilwaith ysgolion sydd yno’n barod, ie, er mwyn gwneud yn siŵr fod canrannau siaradwyr y Gymraeg yn y gymuned ehangach yn rhai iach ond cyn bwysiced hefyd er mwyn sicrhau ansawdd bywyd ieithyddol ei defnyddwyr. Ac oni fyddai’n gwneud synnwyr felly i leoli ysgolion newydd nid yn unig mewn ardaloedd hynod boblog ond mewn ardaloedd lle mae’r Gymraeg yn iaith hyfyw er mwyn troi meddylfryd gwarchodol yn feddylfryd adeiladol?

Onid yw’n hen bryd mewn gwirionedd gwyrdroi’r ymosodiad cenedlaethol traws-bleidiol sydd wedi bod ar waith ers tro i gau ysgolion Cymraeg dan gochl ad-drefnu addysg? Hyd yn oed os nad dyna’r bwriad (ac mae rhywun yn amau hynny weithiau) dyna yn sicr ydy’r effaith.

Ar hyn o bryd cyfyngir unrhyw ymgais i wrthsefyll y ffansi hwn i raddau helaeth iawn i’r lleol yn yr ystyr fod yr holl bwysau i wleidydda dros eu raison d’être yn syrthio ar egni gwirfoddol cefnogwyr ysgolion Cymraeg unigol.

Mae’r pwysau yn anghymesur gan mai’r ysgolion unigol i bob pwrpas sy’n gorfod cyflwyno achos dros gadw’r ysgol ar agor – nid yr awdurdodau addysg dros gau.

Daw Dafydd a Goliath i’r meddwl.

Mae gan yr awdurdodau addysg lleol fantais o rwydwaith cenedlaethol proffesiynol – o ddefnyddio swyddogion addysg i gyflawni eu dibenion. Mae hynny’n cynnwys creu prototeipiau ar sut i gynnal ymgynghoriadau sy’n llawn jargon cyffredinol generig os diystyr. Nid yw’r ymgynghoriadau hynny yn rhoi gofod i’r lleol a’r unigryw ac nid oes neb mewn gwirionedd yn craffu fel mater o drefn i weld a gynhaliwyd pob ymgynghoriad yn deg a thryloyw nac i weithredu ar sail hynny.

Mae’r awdurdodau addysg hwythau yn medru manteisio ar y ffaith fod rhestr o weinidogion a chyrff arolygu a mesurau a chodau yn bodoli i warchod yn ymddangosiadol fuddiannau ysgolion dan fygythiad ac ymelwa ar yr un pryd ar y realiti fod y rheiny hefyd yn endidau ar wahân – heb unrhyw rym pellgyrhaeddol i ddylanwadu ar y penderfyniad i gau – a heb neb yn siarad â’i gilydd i sicrhau fod cyfiawnder yn cael ei weinyddu.

Daw ticio bocsys i’r meddwl.

Hyd yn oed os yw’r diffygion ym mhroses Cyngor Sir yn niferus a’r seiliau addysgol a ieithyddol dros gau yn rhai hynod wantan, a’r diffygion hynny’n cael eu cydnabod gan gyrff swyddogol megis y corff arolygu ysgolion Estyn a Chomisiynydd y Gymraeg fel ei gilydd, nid oes gan y naill na’r llall rym statudol i wneud dim yn ei chylch y tu hwnt i ddatgan iddi fod yn wallus.

Yn achos y rhai sydd wedi hunanynysu o fewn byncyr y llywodraeth ganolog megis Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg wedyn, mae mater cau ysgolion bychain yn amlwg wleidyddol sensitif ac mae cadw pen i lawr a gweddïo i'r broblem ddiflannu yn dipyn haws na throchi dwylo yn y cawdel, er gwaetha’r ffaith y gellid dadlau’n gryf fod ymwrthod â gwneud hynny yn golygu eu bod yn methu hefyd yn eu swyddogaethau fel gweinidogion y Gymraeg ac Addysg.

Ymhellach mae’r drefn bresennol yn egsbloetio’r ffug ddeicotomi rhwng addysg ar y naill law a’r Gymraeg ar y llall heb gydnabod fod buddiannau’r naill ynghlwm wrth y llall yn ôl meini prawf y corff arolygu ysgolion Estyn – ond gan ddefnyddio’r cyfryw ffug ddeicotomi er mwyn osgoi cyfrifoldeb am y naill na’r llall.

Maes chwarae gwag Ysgol Gynradd Gymraeg Felindre, Llun: Angharad Dafis

Am fod trefn statudol y safonau hithau yn sylfaenol wan o safbwynt gwarchod buddiannau ysgolion llai o faint, ac am fod Cynghorau yn barod i eithrio trigolion ardaloedd teneuach eu poblogaeth o’u dyletswyddau i drethdalwyr, mae awdurdodau addysg yn cael rhwydd hynt i gyflawni eu dibenion unllygeidiog.

A yw’r drefn statudol bresennol wedi ei theilwra i warantu nad yw ysgolion Cymraeg dan fygythiad yn cael cam?

Ac a all unrhyw gorff, gweinidog, côd, mesur, corff arolygu ysgolion achub felly unrhyw ysgol dan y drefn bresennol?

Y gwir yw nad oes yr un swyddog cyflogedig na’r un corff na’r un sefydliad yn bodoli ar lefel genedlaethol â’r swyddogaeth ganolog o sicrhau fod ysgolion Cymraeg y mae awdurdodau addysg â’u bryd ar eu cau yn cael cyfiawnder.

A yw pobol sy’n gwirioneddol boeni am ddyfodol y Gymraeg yn ein cymunedau yn barod i orffwys ar ei rhwyfau a bodloni i’r drefn ddiffygiol a’r methdaliad sydd ohoni barhau?

Dyma achos i bawb sy’n hidio cocsen am ddyfodol y Gymraeg i gywilyddio yn ei gylch.

*

Dyma ddolen i fideo o berfformiad byw gan ddisgyblion Ysgol Felindre ar droad y mileniwm yn olrhain hanes brwydr Merched Beca yn y Parsel Mawr:

https://www.youtube.com/watch?v=qRw5BgHQWtE

Previous
Previous

Ysgrif: Ymateb Byd-Eang i COV-19 – Model ar Gyfer Ymateb i Newid Hinsawdd? - Seran Dolma

Next
Next

Cerdd: Prexit - Llio Heledd Owen