Cerdd: Prexit - Llio Heledd Owen

Llio Heledd Owen o Brifysgol Aberystwyth oedd enillydd Cadair Eisteddfod Ryng-golegol Aberystwyth eleni. Y testun oedd 'Agor', a braint i'r Stampwyr yw cael rhannu'r gerdd fuddugol â'n darllenwyr. 'Cyfres o englynion ydyn nhw yn sôn am gymdeithas gyfoes sy’n rhy barod i godi muriau a ffiniau'.

Prexit

Yma erioed yn fy mro – ni welais

Drigolion yn syrthio,

Tref hen glen heb ddrws ar glo,

A’r rheswm? Pawb a’i groeso.

Trysor oedd drysau agored – heb os,

Pawb yn byw’n ddiniwed

 gras, bythol barch at gred,

Annwyl oedd ein cymuned.

Nawr daeth oes ddudew a newid – distaw,

Di-dostur, di-ofid

A hunanol gynhenid

Yw’n hil, yn werin ddi-hid.

Am Ewrop bu’r camarwain – a mudo

Fel Madog ar adain

 braw, yn dianc fel brain,

Ac wele – nefoedd celain.

Pobol hiliol â’u waliau – yn ofer

Fe dyfwn ein muriau,

I estron codwn rwystrau,

I’r rhain yn awr mae sarhau.

Dinas wag heb ddrws ar agor – a’i llef

Yn llafar, pob brodor

Yn chwerw fel carcharor

Mewn cell ymhell dros y môr.

Yn welw llwyd-liwiau welaf – hen dref

Yn drist a meddyliaf

Bod gwayw bywyd gaeaf

Yn hir, ond gwn y daw haf.

-----

Llun: Heathrow Border Control gan Ungry Young Man, Trwydded https://creativecommons.org/licenses/by/2.0/legalcode

Previous
Previous

Ysgrif: Diogelu Ysgolion Cymraeg - Angharad Dafis

Next
Next

Cerdd: Traeth Cariadon - James Horne