Cerddi: Ein Tad, Noddfa - Sion Tomos Owen
Da ni wastad yn ddiolchgar o gael cerdd (neu bump) yn slei bach dros e-bost a felly ddaeth rhain gan Sion Tomos Owen draw. Dwy gerdd deimladwy sy'n bodoli ar wahân ond sydd hefyd hefo rhyw arlliw o gysylltiad (a ddim jesd am i ni'r golygyddion eu gosod nhw ar yr un dudalen.) Mwynhewch!
Ein Tad...
Dyn
mewn oed
yn d a t o d
botymau bach,
poeri pechodau
yna’n clymu
tafodau
fesul
un,
mewn oes
lle doedd neb
yn cwestiynu
cyfnodau tywyll
a thawelwch
byddarol
dynion
Duw.
Noddfa
(Llosgwyd capel Noddfa, Treorci i lawr gan fandaliaid yn 1986 ac adeiladwyd llys henoed yn ei le)
Ei dannedd yn cnoi dim
mewn ceg â gwên gwyn,
â chrynu yn y gofyn;
“Wyt ti’n dal i ganu?”
Sylfaen ei diniweidrwydd newydd,
yn cuddio yn mrychni boche ei ŵyr
yn fud styfnig ei arddegau
â thlysni unawd yn orchwyl pell o’i wefus,
Ond y disgwyl yn y cwestiwn
yn hongian fel mwclis ei famgu,
yn chwilio gwynebau am gnewyllyn o obaith
i weld y cyfarwydd yma eto,
â’i ffydd ynghlwm i’w chapel
sydd nawr yn ei chaethiwo.
Heb ddim ond cricmalau ei chof
a salm
uwchben y drws
i ddynodi ddistawrwydd bore Sul,
Cyn y gymanfa
I godi’r to cyn i’r fflamau lyfu.
Does dim organ bellach
dim ond morfilgan salwch
yn atsain lle oedd y festri
cyn crwydro’r coridorau magnolia
ac ‘amen’ gwan.
“Hawdd dweud,
anodd gwneud,”
mae’n sibrwd bellach,
yn gyndyn,
o’i sedd yn nghornel ei hatgofion,
a ffawd ei chrefydd yn ei chadw yma
cyn ffarwelio.