Ysgrif a ffotograffiaeth: 1 car, 2 ddyn, siwrne eithafol (rhan 2) - Garmon Roberts

Yr ail o gyfres o flogiau a ffotograffau gan Garmon Roberts, a fuodd yn mudo ar draws cyfandiroedd yr haf hwn, fel rhan o rali hynod hynod...

O’r 18fed o Orffennaf tan ddechrau mis Medi 2019, roeddwn i yn gyrru trwy'r Balkans a Thwrci hefo Rhys, mewn gobaith o gyrraedd Mongolia yn ein car bach ni erbyn mis Medi. Dyma brofiad anghredadwy, agoriad llygaid, anodd ar y cefn a phoeth (difaru peidio dod a char efo air con)! Dyma dri llun i grynhoi rhai o brofiadau gorau’r daith.

Clychau Bosnia

Dengys y llun cyntaf Eglwys a ddyluniwyd yn y steil pensaernïol moderniaeth sosialaidd. Roedden ni’n gyrru trwy gefn gwlad bendigedig Bosnia a Herzegovina pan welon ni’r Eglwys yng nghanol y coed a’r mynyddoedd gwyrdd. Cymeron ni cwpwl o luniau, ond oherwydd y scaffolding tybiwn byddai ddim modd mynd mewn. Er, gan fod y drws ar agor, roedd modd gweld y llawr gwaelod o leiaf. Daeth dyn i mewn, ac roeddwn ni ar fin gadael, yn disgwyl iddo daflu ni mas, ond roedd e'n ddigon hapus i roi taith breifat i ni. Erbyn i ni ddringo o leiaf dwsin llawr, roedd y clychau dim ond tua 10 troedfedd uwch ein pennau, gydag ysgol beryglus yn arwain atynt. Cynigodd y ceidwad i ni ddringo'r ysgol, a heb or-feddwl, aethon ni fyny.

Wrth frig yr Eglwys roedd yr olygfa yn arbennig o wyrdd, ond roedd y llawr yn serth iawn efo dim rhwystrau a’r clychau enfawr jest uwch ein pennau. Pwyntiodd y ceidwad at y clychau, felly estynnais i ganu'r gloch. Dim ond wrth i’r dyn bwyntio at ei oriawr sylweddolais fod hi’n amser i’r clychau ganu'n swyddogol. Siglodd y clychau enfawr yn ffyrnig ac atseiniodd y sŵn byddarol drwy'r cymoedd gwyrdd wrth i ni eistedd ar y llawr simsan yn cuddio’n clustiau. Dyma brofiad na fuaswn yn ei gael nôl adre yn arferol, ond diolch i gyfeillgarwch y dyn hwn o Fosnia, a pha mor llac ydy rheolau diogelwch adeiladau y wlad, roedd yn ddiwrnod bythgofiadwy.

Y llyn hallt

Doedd gen i ddim syniad fod 'na lynnoedd halen yn Nhwrci, er, nid y llyn y gellir cerdded arni a greodd yr argraff fwyaf, ond y llyn pinc! Mae yna ficrobau a bacteria yn y dŵr, oherwydd y lefel halen uchel, sy’n creu pigment ac yn achosi i'r llyn i droi’n binc. Roedd yr effaith yma’n arallfydol, ond wrth gymryd llun sylweddolais fy mod i'n rhy bell i ffwrdd i'w ddal. Rhoddais y camera mewn i bâr o finociwlars i greu effaith lens zoom a gwelais fod siâp cylch y lens yn neud i’r ffrâm edrych fel planed, a llinellau’r tirwedd ar draws y sffêr yn ymdebygu i'r cylchoedd o gwmpas planedau. Dyma fy nghreadigaeth innau allan o’r tirwedd estron hwn.

Cappadocia

Y trydydd llun ydy'r un fwyaf estron. Does nunlle cweit fel canol Twrci. Ers canrifoedd mae pobol wedi bod yn cerfio cerrig cromen i greu cynefinoedd, ac yn y cartrefi bach yma oedd y troglodytes yn byw am oes. Mae rhai wedi’u hadnewyddu i mewn i westai ‘glampio’ a rhai yn adfeiliedig. Pob bore gyda'r wawr mae twristiaid yn eu cannoedd yn hedfan mewn balŵns, a'r diwrnod hwn mudais at dop y bryn i edrych ar yr olygfa ysblennydd.

Ym mhost nesaf y blog mi fyddwn ni'n croesi'r môr Caspian i Durkmenistan ac yn gyrru trwy Uzbekistan a mynyddoedd y Pamir, Tajikistan.

Dilynwch @teamralirwdins ar gyfryngau cymdeithasol i weld lluniau a hanesion o'r daith.

Previous
Previous

Adolygiad: Paentiadau Newydd yn 85 Oed - Mary Lloyd Jones

Next
Next

Adolygiad: Y Lle Celf 2019