Adolygiad: Paentiadau Newydd yn 85 Oed - Mary Lloyd Jones

Aeth ein hadolygydd draw i Oriel Martin Tinney, Caerdydd i weld sioe newydd gan un o artistiaid mwyaf arwyddocaol Cymru.

Mae’r artist Mary Lloyd Jones yn enwog am yr ymdriniaeth gyfoes o hanes yn ei gwaith, wrth blethu symbolau o’r henfyd gyda’i dehongliad unigryw o dirwedd Cymru. Mae ei gwaith yn ein gorfodi i ailystyried tirlun hynod gyfarwydd – Cymru a’i mynyddoedd a’i hafonydd ac olion ei diwydiant. Llunia dirluniau haniaethol lle mae lliwiau, gweadau a haenau annisgwyl yn serennu. Yn hyn o beth, nid darlun arwynebol a geir o lecyn penodol, ond ymgais efallai i fynegi rhywbeth dyfnach am y profiad o fod mewn lle.

A hithau’n dathlu ei phen-blwydd yn 85 mlwydd oed ag arddangosfa nodedig yn Oriel Martin Tinney Caerdydd y mis hwn, mae ei gwaith, a hi ei hun, mor sionc ag erioed; parhâ i lenwi gofodau gwyn â lliwiau annisgwyl, gan gyfuno’r profiad syml o fod ynghanol tirlun anial Gorllewin Cymru gyda brwdfrydedd ei dychymyg chwareus. Mae gweld arddangosfa gan Mary Lloyd Jones bob tro’n bleser pur, yn ddihangfa o brysurdeb ein byd arwynebol, yn esgus i rythu ar lymder a bywiogrwydd tirlun sy’n anadlu o fewn awyrgylch clinigol gysurus yr oriel gelf.

Des i’n ymwybodol o waith Mary wrth astudio ei phaentiadau yng ngofod oeraidd y dosbarth celf yn yr ysgol, mewn lluniau, mewn catalogau. Wrth edrych yn ôl, yr hyn sy’n fy nharo yw bod gwaith Mary yn mynd yn groes i holl ethos y dull o ddysgu celf oedd ar waith yn yr ysgol, oedd yn pwysleisio y dylem dreulio oriau lu yn crymanu dros bapur a phensil yn cyflawni’r broses o greu ‘brasluniau arsylwadol’ (creu darluniau oedd yn edrych yn union fel y byd go iawn). Roedd marciau cyntefig, egnïol, bras ac estron Mary Lloyd Jones yn anathema i hyn oll, yn taenu gwylltineb y wlad dros ddesgiau dof, sefydliadol ysgol yn un o ardaloedd trefol tlotaf Abertawe. Roeddwn innau’n ferch ifanc ansicr oedd yn gwneud darluniau bychan, manwl, mewnblyg, yn ceisio plygu i ofynion y cwricwlwm a’r glasoed, oedd ill dau yn pwyso’n llethol arnom i gydymffurfio fel pobl ifanc, ac yn effeithio ar y ffordd yr oeddem yn mynegi ein hunain. Felly roedd gweld marciau greddfol a lliwiau bydol artist benywaidd ar waith mewn paentiadau ar bapur, ar gynfas, ar ddarnau enfawr o ddefnydd, yn agoriad llygad, ac yn rhyddhad. Nid ymgais i lynu’n slafaidd at gyfleu arwyneb tirlun delfrytgar a welais ym mhaentiadau Mary, ond ymgais i chwarae gyda lliwiau a siapau er mwyn archwilio cymhlethdod y profiad o fod, a bodoli, mewn tir glas, ymhell o rwymau arferol cymdeithas.

Wrth grwydro’r arddangosfa sy’n bywiocáu waliau slic y Martin Tinney, mae’n werthfawr treulio amser yn sylwi ar y lliwiau sy’n cael eu cyfuno ym mhaentiadau Mary: melynfrown y pridd, glas y môr ym Medi, yr emrallt, y pinc millenial, y piwsiau bygythiol, a choch rhydlyd yr oesoedd. Daw’r talpiau haniaethol hyn ynghyd, drwy ryw ryfedd wyrth, i greu cydbwysedd trawiadol mewn lliw a ffurf, ac ymdeimlad o dirlun. Serch hynny, gogoniant gwaith Mary Lloyd Jones yw nad oes modd, ac na ddylid, diffinio’n union beth sydd ger ein bron; gellir gweld elfennau gwahanol o fywyd gwyllt bob tro yr edrychwn ar ei phaentiadau a’i harsylwadau o’r byd naturiol – rhaeadrau, blodau, caeau, cerrig, afonydd, pyllau dŵr, coedlannau, symbolau cyntefig, wynebau hyd yn oed. Wrth beidio â chreu darlun disgrifiadol, manwl-gywir o’r olygfa a welir mewn gofod gwyllt, mae Mary yn cyfleu rhywbeth mwy arwyddocaol. Mae’n cyfleu, trwy liwiau ysgytwol a bywiogrwydd cyfansoddiad, ran o’r teimlad emosiynol, presennol o fod mewn tirwedd naturiol.

Nid oes angen deall iaith i brofi grym y gweledol: a dyma un o’r pethau sy’n rhoi gwefr wrth edrych ar waith celf barddonol Mary Lloyd Jones – trosglwydda neges weledol ynghylch ffurfiant pobloedd: hanes, iaith a llais ardal benodol – sydd yn ddealladwy i bawb a fyn edrych ar y tirlun drwy lygaid yr artist. Trosglwydda’r ysgythriadau syniad o ysbryd cyntefig i’r gwyliwr, gosodir hanes ein cyndeidiau yn symbolau ar wedd y tirlun, symbolau sy’n ein hatgoffa yn y presennol lliwgar o’n craidd ffurfiannol, a gobaith creu gweledigaeth ar gyfer y dyfodol.

Yn wahanol i draddodiad paentio tirluniau Cymru, gwrthoda Mary Lloyd Jones ddarlunio Cymru fel iwtopia anghyffyrddadwy, annistrywiedig, wrth iddi ddefnyddio marciau, lliwiau a geiriau dynol yn ei gwaith. Wele baent sy’n cynnig rhywbeth amgenach na darlun rhamantaidd o’n gwlad, paent sy’n datgan bodolaeth, paent sy’n dweud “mai Cymraes odw i”. Dyma artist bytholwyrdd, oren a phinc.

Mae'r arddangosfa i'w gweld yn Oriel Martin Tinney, Caerdydd tan ddydd Iau, y 26ain o Fedi, felly brysiwch draw!

Previous
Previous

Ysgrif: Paith Dystopia - Morgan Owen

Next
Next

Ysgrif a ffotograffiaeth: 1 car, 2 ddyn, siwrne eithafol (rhan 2) - Garmon Roberts