Cerdd: Haul - Osian Owen

Haul

Ym Mhrâg y diwrnod hwnnw dychmygaf fod yr haul

mewn ffrwgwd â’r cymylau, a bod yr haul wedi curo.

Dychmygaf dy fod dithau ar y bont yn syllu ar

y Vlatva’n bragu’n gwrw budur.

A dychmygaf, mai yn fanno y penderfynaist

roi’r mymryn lleiaf o eli haul ar gongol pella’r cerdyn post.

Roedd yr haf yn prysur losgi’n ddim,

a’r nosweithiau marwor yn troi’n lludw.

Fe syllais i’r fflamau wrth iddynt boeri gloynnod byw i’r nos

a gofyn tybed a oeddet tithau’n holi amdanaf?

A neb yn dy glywed, â strydoedd Prâg yn llawn o fiwsig?

Cyrhaeddodd yr amlen, ac fe’i daliais yn dynn dynn fel darn o aur

at fy mynwes, yn gwadu’r oglau melys

ei ryddid i ddianc yn filiynau gloynnod byw i’r nos.

Ychydig a wyddwn bryd hynny

fod sws yn medru oeri

a bod eli haul, gwaetha’r modd,

yn sychu.

Osian Owen

Previous
Previous

Cerdd: Gêm – Matthew Tucker

Next
Next

Dangosiad arbennig: 'Diolch am eich sylwadau, David' - BITW