Cerdd: Gêm – Matthew Tucker
Mewn ymateb i erthygl yn The Sun (25/3/19) – 'UK’s blade epidemic is fuelled by gangs’ sick score game KNIFE POINTS'
Llun: Sonia Sevilla ,Wikimedia Commons: https://commons.wikimedia.org/wiki/File:Gas_st_-_Taha_kindergarten-_Nishapur_(16).JPG
Gêm
Pa les yw troi lladd yn gêm
ganol dydd i’n plantos ni?
Troi corff yn darged
a’i ddarnio’n barthau o bwyntiau
i gyfri’r sgôr wedi’r gêm.
Gweld rhyw gorff yn dlws ar lawr,
ac inc coch y gwaed yn dianc
yn gyfres o farciau tali ohono.
A phwy a ŵyr a ddaw chwiban
i ddarfod hwyl y gêm hon?
Matthew Tucker