Diwrnod Barddoniaeth Cenedlaethol: Gŵyl Insta-gerddi'r Stamp - Morwen Brosschot

Beth sy'n apelio am Instagram fel cyfrwng i gyhoeddi cerddi byrion a delweddau?

Roeddwn i'n ei weld yn gyfle i arbrofi a rhannu efo pobol o'r un anian a diddordebau tebyg; i fod yn greadigol mewn lle cyfyng; i gyfuno delweddau a geiriau; a dangos fod y geiriau eu hunain yn gallu creu patrwm neu ddelwedd.

Pwy sy'n eich ysbrydoli fel bardd? Oes yna rai sy'n eich ysbrydoli i gyhoeddi trwy'r cyfryngau cymdeithasol yn benodol?

Mae gwaith pob bardd a ddarllenais erioed wedi cael dylanwad, a gwaith a ddarllenais flynyddoedd yn ôl yn cael dylanwad pellach neu ei werthfawrogi o'r newydd ar wahanol gyfnodau mewn bywyd. Mae gen i restr hirfaith o feirdd - ond yn lleol? Christine Evans yn un yn bendant. Yng nghyswllt Instagram, mi gychwynais roi cynnig ar gerddi byrion ar ôl bod yn gwrando ar John Rowlands yn darllen ei waith, a dwi'n hoff o waith Michael McClintock ar y wê.

Ydych chi'n teimlo fod cyfryngau fel Instagram yn gyfle i farddoniaeth gyrraedd cynulleidfa newydd a gwahanol? A welwn ni fwy o hyn?

Ydi yn bendant. Mae'n wych fod mwy o bobol yn rhannu eu gwaith fel hyn. Mae gan bawb rhywbeth i'w ddweud, neu angen ei fynegi, yn y bôn ac mae creadigrwydd yn rhywbeth y dylem fod yn ei feithrin o'r cychwyn cynta i roi lle i blant fynegi eu hunain, ac i fagu hyder yn eu gallu eu hunain i greu ym mha bynnag ffordd neu gyfrwng sy'n dod yn naturiol iddynt. O ran y Gymraeg mae'n un ffordd arall o'i gwneud yn fwy gweledol. Mae'n agor cil y drws i bobol gyfrannu a mentro a fuasai fel arall ddim yn gwneud, a hynny yn Gymraeg boed o'n gocosaidd neu'n aruchel neu rywle yn y canol!

Sut gall natur sgwaryn Instagram ddylanwadu ar a chryfhau eich proses greadigol?

Dwi'n meddwl fod y sgwaryn yn eich gorfodi i fod yn greadigol mewn lle cyfyng; i roi sylw i'r manylion, i fod yn gryno, ac i wneud i bob gair gyfri gan ganolbwyntio ar yr hanfodion. Meddwl tu allan i'r bocs mewn bocs! Ffordd arall o hogi sgiliau a datblygu.

Dywedwch air neu ddau am y gerdd yr ydych wedi ei chyfrannu i'r Ŵyl.

Hon oedd fy ymgais gynta ar ôl bod yn gwrando ar John Rowlands yn darllen ei haiku a'i gerddi byrion. Roeddwn wedi bod yn meddwl ers tro cyn hynny am greu cerdd am rosydd diflanedig Llŷn, llawer ohonynt wedi eu llyncu gan ffermydd cyfagos ac wedi eu haredig allan o fodolaeth. Ond mewn llawer i le gwelir sypiau o rug gwydn ar y cloddiau yma ac acw yn arwydd o'r hyn a fu. Eisiau crisialu hyn oeddwn i heb fod yn hirwyntog, yn oreiriog a sentimental.

Dilynwch Ŵyl Insta-gerddi'r Stamp yma ar y wefan ac ar ein cyfrif instagram: https://www.instagram.com/cylchgrawn_y_stamp/

Previous
Previous

Diwrnod Barddoniaeth Cenedlaethol: Gŵyl Insta-gerddi'r Stamp - Morgan Rhys Powell

Next
Next

Ysgrif: Paith Dystopia - Morgan Owen