Ysgrif: Paith Dystopia - Morgan Owen

Nid America mo’r Cymoedd, a gwahanol yw patrwm ein pydru fan hyn. Efallai nad pydru yw’r gair cywir: daeth adeiladau i lawr, strydoedd cyfan hyd yn oed, ond codwyd eraill yn eu lle; crëwyd diffeithdiroedd, dim ond iddynt fagu cnwd o grawcwellt a throi’n baith ôl-ddiwydiannol rhyfedd. Ger ffiniau gogleddol Merthyr, ceir tirlun sydd, er gwaethaf hurtni ymddangosiadol y gymhariaeth, yn ‘Orllewin Gwyllt’ i mi. Yn ychwanegol at debygrwydd gweledol rhannol y ddau le hyn – y prairie Americanaidd a’r paith ôl-ddiwydiannol – onid oes yma gyffin hefyd? Frontier? Gwahanol iawn yw eu hanes, yn amlwg, ond pery swyn y cyffelybiad, er nad heb ambell ddwysbigiad.

Yn un peth, cyffelybu amseroedd anghymharus ydw i: mae gen i brofiad uniongyrchol o’r paith ôl-ddiwydiannol hwn, a rhywbeth eithaf diweddar ydyw, tra bo’r cyffinwlad Americanaidd, y Gorllewin Gwyllt fel y daeth ataf i drwy gyfrwng llên a ffilm, yn greadigaeth delfryd a diwylliant poblogaidd. A chryn anghofio bwriadol hefyd. Ond pan oeddwn yn blentyn a welai’r tir o amgylch Dowlais fel paith y ffilmiau prynhawniau Sul, nid oeddwn yn gwybod yn amgenach. Dim ond yn ddiweddarach y tarfwyd ar y dychmygion a’r cymariaethau diniwed hyn pan ddychwelswn yn aeddfetach, a chylch fy ngwybodaeth yn ehangach, a phan gafwyd rhagor byth o newid ar y dirwedd o ganlyniad i’r lofa frig anferthol a ddaeth i’r ardal, sef Ffos-y-Frân. Uwchlaw hyn oll, y peth sy’n hawlio fy sylw yw dychmygolrwydd y lle hwn. O’r cychwyn cyntaf un, daeth ffuglen a phrofiad ynghyd fan hyn; hanes uniongyrchol a rhyw realiti benthyg. Mae’n parhau i niwlo’r ffiniau, ond mae gwedd dywyllach arno y dyddiau hyn.

Y profiadau cyntaf a gefais o’r dirwedd dyllog hon oedd mynd trwyddi. Rhaid oedd ei chroesi er mwyn cyrraedd Bargod, tref y mae un hanner o’m teulu yn hanu ohoni, ar hyd hewl gul, anwastad. Prin yr oedd yn ddigon llydan i un car. Ar y daith honno eid heibio hen bontydd i nunlle, defaid straglog a rhigolau lle bu cledrau’r trenau glo. Lle’r oedd ceir ar antur unnos wedi rhwygo’r pridd tenau, gellid gweld y düwch ar y wyneb; ac yn aml byddai sgerbydau llosg yr un ceir yn nodi stop eu terfysg gwibiol. Bob hyn a hyn, ceid tomen o sbwriel a adawyd i bydru. Cyfatebai adfail yr hen olchfa lo yn ei ganol, a’r cytiau dur rhydlyd yma a thraw, i ghost towns y diwylliant Americanaidd ei ogwydd a gyrhaeddodd ddinodedd Merthyr fy magwraeth. Synhwyrwn ryw saib, fel pe bai rhywbeth newydd orffen heb seremoni na galar. Heb imi eto ymdrochi yn hanes yr ardal hon – fy ardal i – rhaid oedd imi dynnu ar fythau benthyg i esbonio’r mannau anghyfannedd hyn.

Y lle cyfannedd cyntaf a welid wedi mentro i’r paith oedd Fochriw. Byth oddi ar y teithiau cyntaf hynny, cynysgaeddwyd Fochriw ag arwyddocâd annisgwyl imi – mwy nag sy’n briodol i bentref mor ddiarffordd a distadl ei olwg. Wrth nesu at ael y llwyfandir sy’n gwahanu Cwm Taf a Chwm Rhymni, bydd rhywun yn tybio ei fod wedi hen adael y trefi a’r pentrefi olaf yn bell tu ôl iddo, a dyna pryd mae Fochriw yn ymbresenoli – nid fel rhith, ond fel her i’r diffeithwch. I dymheru ar lymder y darlun a chyffroi a llwyr-ddrysu fy meddwl glas, ceid hefyd batshynnau o redyn a grug, a charneddau ac olion claddfeydd cyn-hanesyddol. Hyn oll yn gymysg â’r llymder a’r pydredd ôl-ddiwydiannol. Gallaf weld nawr taw ffynhonnell y dryswch, a’r gofid a barai hynny imi, oedd y modd yr oedd cynifer o ffiniau’n cael eu gwyro. Dysgais yn ddiymwybod sut mae storïau’n llywio’r byd, beth bynnag yw eu perthynas â’r stori fwy parchus honno a elwir yn hanes.

Er fy mod yn hanu o gefndir dosbarth gweithiol hollol nodweddiadol o flaenau’r Cymoedd, roedd rhywbeth am Fochriw o hyd yn fy nghythryblu a’m cyfareddu. Safai yno ynghanol dinistr a dellt amser gyda’i strydoedd teras clos yn glynu wrth y llethrau; roedd yn ddistyllad o hynny o ddelwedd oedd gennyf o’r Cymoedd yn blentyn. Mae Merthyr a gweddill yr ardal ehangach mewn safle tebyg, ond yr hyn oedd yn hynodi Fochriw oedd ei bod hi wedi ei llwyr amddifadu o gyd-destun wrth i rywun yn ei chyrchu o gyfeiriad Merthyr, a hithau’n ynys o ddynoliaeth ynghanol y paith, heb gyswllt â’r byd heblaw am yr hewlydd nodwyddaidd. Mae’n bentref ar ddisberod. Un ddelwedd a lywodraethai’r cymysgedd o adfeiliedigrwydd a dyfalbarhad bywyd oedd y dafarn wag, salŵnaidd a’i ffenestri dan gaeadau, The Rising Sun. Canolbwynt hen gymuned ar goll ymysg y pydredd a’r diffeithwch. Ac wrth gwrs, cyfrannai swyn ei henw at ffilmigrwydd y darlun; nid rhyfedd fy mod y pryd hynny’n gweld y cyfan fel golygfa ffilm a rewyd, heb yr olyniaeth amseryddol a fyddai’n gwneud synnwyr ohono, a heb gyfeiriad at y dyfodol chwaith. Dyna yn wir yw craidd yr ymdeimlad rhyfedd: stasis. Yr unig beth sy’n symud yn ei flaen yw’r datod graddol. Efallai fod peth ystumio wedi bod arni yn fy meddwl, a minnau heb fod ar gyfyl y pentref ers peth amser, ond mae’r ddelwedd hon sydd gen i ohoni yn hollol real hyd heddiw yn fy mhen, gan frigo yn fy mreuddwydion weithiau. Mae wedi magu arwyddocâd myth imi. Daeth yn arwyneb: yn sgrin.

Ond er bod cynifer o olion diwydiant a’r bywyd cymdeithasol a ddaeth yn ei sgil i’w canfod ar y paith, mae pobl yn absennol bellach. Dyna pam y mae hi mor hawdd rhamantu yn ei gylch, am fod y dioddefaint a’r cyni dynol dan gêl. Heb fod lladmeryddion byw a all gyfleu sut oedd byw ar y cyffin, try’n set ffilmiau heb yr actorion. Mae’r tirlun yn awgrymu rhyw gymaint, ond heb y bobl, aros rydym o hyd y plot; ac ni all natur gamu i’r rôl chwaith, am fod y tir yn anial. Dyma lwyfan diymadferthedd. Rydym yn tynnu’n gryf ar fyth y rhuthro tua blaenau’r Cymoedd a’r bywyd mentrus, doed-a-ddelo a gafwyd yno, ond gan anghofio’r gwir ddioddefaint. Dim ond anghofiant all egluro sut gallwn grwydro ymysg yr adfeilion heb deimlo i’r byw anobaith y sefyllfa: nyni heddiw yn consurio mythau cenedlaethol America o weddillion y gormes ar ein cymdeithas, am fod y stori ddethol a’i thwyll yn haws, am nad yw’n galw neb ohonom i’r gad. Haws breuddwydio na myfyrio a gweithredu.

Buwyd mor hir yn disgwyl rhywbeth yn yr ardal hon, ac fe ddaeth yn rhith y gorffennol: glofa agored anferthol. Ond mae’r gorffennol a ddychwelodd yn ein hyrddio tuag at ddyfodol hollol gaotig wrth i’r byd gynhesu. Nid yw’r lofa wedi llyncu’r paith yn gyfan; erys hwnnw o hyd yn ei lymder adfeiliog. Wrth i’r glo a grefir o’r tir fan hyn gyfrannu at y diraddio amgylcheddol, efallai fod y paith yn rhagolwg o’r hyn sy’n ein haros yn gyffredinol. Dyna’r wedd gyfredol ar fy Ngorllewin Gwyllt: gwrthdrawiad rhwng y lled-ramant yn ei erwinder a’i orwelion ffilmig, ac arswyd graddfa anhygoel y mwyngloddio heddiw sydd yn bygwth diffeithdiroedd gwaeth byth.

Euthum i’r paith yn ddiweddar am y tro cyntaf ers blynyddoedd – y tro cyntaf ers imi droi’n oedolyn. Nid oeddwn yn gwybod a fyddai’r lofa – y ceuedd du anferthol ac arallfydol o lwm – wedi dileu tir fy atgofion am y cyffin gwyllt. Roedd peth o’r paith ar ôl ar yr olwg gyntaf, a pheth ychwaneg hyd yn oed lle roedd ambell fan a gloddiwyd wedi ei ‘adfer’ drwy dirlunio’r gwastraff mwyngloddio a’i hadu. Bûm yn tywys pobl eraill ar yr achlysur hwn nad oeddent wedi ymweld â’r lle hwn, a rhyfeddasant at yr olygfa, a threwais innau ar ddisgrifiad addas ohono yng nghwrs ein trafodaeth: paith dystopia. Pam felly? Uwch rhuo’r peiriannau o’n hamgylch, wrth i’r trên glo gyrraedd yr olchfa, roeddwn wrthi’n chwilio yn y tir diffaith am olion fy atgofion ymysg y dinistr newydd, ac am olion hŷn cyn-hanesyddol y carneddau a’r claddfeydd; am atseiniau fy nychmygion Gorllewin Gwyllt-aidd yn blentyn a hanes y bobl a lafuriodd yn y lle garw hwn. Dyna lle’r oeddwn, ynfytyn yn drysu’i hun yng ngwyll y llwch glo, a’r tir wedi pylu o’r diwedd nes nad oedd yn sgrin y gallwn daflunio fy nghof arno, na fy nyheadau chwaith. Chwyddodd ffiniau’r diffeithwch.

Previous
Previous

Diwrnod Barddoniaeth Cenedlaethol: Gŵyl Insta-gerddi'r Stamp - Morwen Brosschot

Next
Next

Adolygiad: Paentiadau Newydd yn 85 Oed - Mary Lloyd Jones