Diwrnod Barddoniaeth Cenedlaethol: Gŵyl Insta-gerddi'r Stamp - Hywel Griffiths

Beth sy'n apelio am Instagram fel cyfrwng i gyhoeddi cerddi byrion a delweddau?

Mae diddordeb wedi bod gen i mewn cyfuno barddoniaeth a chelfyddyd weledol ers amser hir – mae enghreifftiau da iawn lle mae hyn wedi cael ei wneud yn effeithiol iawn yn Gymraeg (e.e. cyfrolau Iwan Llwyd ac Iwan Bala). Er nad ydw i’n artist gweledol o fath yn y byd, mi fuaswn yn hoffi arbrofi mwy gyda hyn yn y dyfodol, yn enwedig gyda ffotograffau. Yn weledol, mae’r hyn dwi wedi ei wneud hyd yn hyn ar Instagram yn eitha sylfaenol, gyda’r gerdd yn bwysicach na’r ddelwedd, ond cawn weld be allai wneud yn y dyfodol. Penderfynais ddechrau cyhoeddi cerddi ar Instagram fel ymarferiad mewn cyfathrebu gwyddoniaeth – #scicomm – ac felly roedd cael lle i ysgrifennu ‘esboniad’ neu gyd-destun yn apelio hefyd. Mae maint y gynulleidfa botensial yn apelio’n fawr hefyd wrth gwrs.

Pwy sy’n eich ysbrydoli fel bardd? Oes yna rai sy’n eich ysbrydoli i gyhoeddi drwy’r cyfryngau cymdeithasol yn benodol?

Yn gyffredinol, mae gormod i’w rhestru! Mae Sam Illingworth (@sam_illingworth) o Brifysgol Met Manceinion yn gwneud llawer iawn o waith cyfathrebu gwyddoniaeth trwy farddoniaeth. Dwi hefyd yn mwynhau darllen barddoniaeth Hollie McNish ar Twitter (@holliepoetry) – cryno, crafog a doniol iawn.

A ydych yn teimlo bod cyfryngau fel Instagram yn gyfle i farddoniaeth gyrraedd cynulleidfa gwbl newydd a gwahanol? A fyddwn yn gweld mwy o feirdd yn troi at y cyfrwng yn y blynyddoedd nesaf?

Ydw, dwi’n meddwl bod modd cyrraedd cynulleidfaoedd newydd. Dwi’n meddwl bod cynulleidfaoedd newydd a gwahanol i farddoniaeth Gymraeg yng Nghymru o hyd, a dwi’n grediniol bod y cyfryngau cymdeithasol yn ffordd effeithiol o godi ymwybyddiaeth o farddoniaeth a fydd wedyn yn denu pobl at ddigwyddiadau byw a chyfrolau, gobeithio. Dwi’n siwr y bydd y symudiad tuag at gyhoeddi ar gyfryngau cymdeithasol yn parhau ac yn datblygu, ond pwy a wyr ar ba gyfrwng? O ran technoleg/platffformau digidol ac ati, dwi wastad yn teimlo mod i rhyw flwyddyn ar ei hol hi o hyd! Pwy a wyr be fydd y cyfrwng poblogaidd nesa!

Sut gall natur sgwaryn Instagram ddylanwadu ar a chryfau eich proses greadigol?

Dim ond englynion dwi wedi eu cyhoeddi yn sgwaryn Instagram hyd yma. Dwi’n meddwl ei fod yn naturiol yn benthyg ei hunan i gerddi ar fesurau byrion fel yr englyn ond falle y gwna i arbrofi gyda mesurau eraill yn dyfodol. Dwi’n meddwl ei fod ychydig bach fel y gynghanedd ei hunan – cyfyngiad ychwanegol sydd, o’i ddefnyddio’n iawn yn eich galluogi chi i fod yn rhydd yn greadigol hefyd!

Dywedwch rhyw air neu ddwy am y gerdd yr ydych wedi ei chyfrannu i’r Ŵyl.

Mae’r englyn yma yn dilyn patrwm y gwnes i ddechrau ynghynt eleni sef #englyniongwyddonol – englynion yn ymateb i straeon gwyddonol o fy maes i (daearyddiaeth a gwyddorau daear) er mwyn trio codi ymwybyddiaeth ohonynt. Yn benodol, mae’r englyn yn ymateb i waith gan Alexander Koch o UCL ac eraill sy’n awgrymu bod diboblogi brodorol yn yr Americas yn dilyn y coloneiddiad Ewropeaidd wedi bod yn ffactor a arweiniodd at yr Oes Ia Fach yn fyd-eang yn y 1500au a’r 1600au. Y theori yw bod cynifer o bobl wedi marw drwy glefydau newydd, rhyfela a chaethwasiaeth (Y ‘Great Dying’, fel bod amaeth wedi dirywio a choed wedi tyfu eto yn ei le. Tynnodd hyn garbon o’r atmosffer, gan arwain at yr oeri byd-eang. Cafodd y stori gryn sylw, yn un peth oherwydd ei bod wedi dangos dylanwad dynoliaeth ar hinsawdd fyd-eang cyn y Chwyldro Diwydiannol. Mae’r cymariaethau gyda sefyllfa heddiw yn boenus o amlwg hefyd yn fy marn i, o ran y cyswllt rhwng coloneiddio, imperialaeth, cyfalafiaeth a byd natur.

Dilynwch Ŵyl Insta-gerddi'r Stamp yma ar y wefan ac ar ein cyfrif instagram: https://www.instagram.com/cylchgrawn_y_stamp/

Previous
Previous

Diwrnod Barddoniaeth Cenedlaethol: Gŵyl Insta-gerddi'r Stamp - Llio Maddocks

Next
Next

Diwrnod Barddoniaeth Cenedlaethol: Gŵyl Insta-gerddi'r Stamp - Sara Louise Wheeler