Diwrnod Barddoniaeth Cenedlaethol: Gŵyl Insta-gerddi'r Stamp - Llio Maddocks

Beth sy’n apelio am Instagram fel cyfrwng i gyhoeddi cerddi byrion a delweddau?

I fi, mae Instagram yn le i fod yn gwbl arbrofol. I ddechrau, dydi Mam na Dad ar Instagram, felly dwi’n teimlo fel mod i’n gallu bod mor anaddas a budur a dwi isio! Dwi hefyd yn licio’r ffaith bod fy ngherddi i’n ymddangos ar feeds bobl fyddai ella byth yn prynu cyfrol o farddoniaeth, felly dwi’n twyllo bobl i ddarllen cerddi bron iawn.

Mae Instagram yn gyfrwng parod hefyd, hynny yw, does dim angen aros i gyhoeddi rhywbeth. Os dwi’n meddwl am gerdd, dwi’n gallu ei phostio o fewn rhai munudau a’i dangos i’r byd. Mae’n gadael i mi ysgrifennu am bethau sy’n berthnasol i mi yr eiliad honno, a dwi’n gallu cyhoeddi pethau heb feddwl gormod, sy’n gadael i mi fod lot mwy gonest ac agored.

Pwy sy’n eich ysbrydoli fel bardd? Oes yna rai sy’n eich ysbrydoli i gyhoeddi drwy’r cyfryngau cymdeithasol yn benodol?

Dwi’n wrth fy modd efo Wendy Cope. Mae pob cerdd ganddi hi mor blaen, mae hi’n defnyddio iaith cwbl arferol, ond yn creu cerddi mor arbennig o eiriau pob dydd. Mae’n gas gen i ddarllen cerdd heb ddeall y synnwyr – dwi’n meddwl bod lot o feirdd yn ei gorwneud hi ac yn trio swnio’n rhy glyfar. Dwi’n trio sgwennu yn union fel taswn i’n siarad; dwi isio i bawb allu deall fy mhenillion, ac o hynny gobeithio eu denu nhw at ragor o farddoniaeth gwahanol.

Dwi wedi gwirioni efo’r cyfrif @henbapurnewydd ar y funud, fel lot o Gymry ar Instagram. Dwi’m yn siŵr os mai celf neu cerddi ydyn nhw (a pha ots?) ond maen nhw’n boenus o berthnasol, llawn gwirionedd a hiwmor.

A ydych yn teimlo bod cyfryngau fel Instagram yn gyfle i farddoniaeth gyrraedd cynulleidfa gwbl newydd a gwahanol? A fyddwn yn gweld mwy o feirdd yn troi at y cyfrwng yn y blynyddoedd nesaf?

Heb os, mae Instagram yn cyrraedd cynulleidfa sydd weithiau’n gwbl newydd i farddoniaeth. Mae beirdd fel Rupi Kaur wedi gwneud instapoetry yn mainstream, a dwi’n nabod llwyth o bobl sy’n rhannu cerddi Brian Bilston ar Facebook a Twitter na fyddai byth yn darllen cerddi’r goron! Ond be sy’n gyffredin am gerddi ar y cyfryngau cymdeithasol, yn fy marn i, ydi eu bod nhw i gyd yn berthnasol ac yn hawdd i’w deall, ac mae hynny’n gymysgedd sy’n eu gwneud nhw’n berffaith ar gyfer eu rhannu.

Sut gall natur sgwaryn Instagram ddylanwadu ar a chryfau eich proses greadigol?

Dwi’n licio cerddi byrion, dealladwy a phwrpasol, ac mae’r sgwaryn bach yn gorfodi beirdd i greu cerdd fer ble mae pob gair yn bwysig. Mae’r her o greu cerdd sydd mond tua 10 llinell wastad yn apelio, achos mae hi mor anodd esbonio syniad cyflawn mewn cyn lleied o eiriau. Sgenai ddim llawer o fynadd chwaith, felly falla mai dyna pam dwi’n licio’r arddull yma – dwi’n hoples ar ddarllen cerdd sy’n hirach na tudalen!

Mae’n debyg mai eiliadau’n unig fydd pobl yn eu treulio’n darllen cerdd ar Instagram felly mae angen iddi fod yn ddealladwy’n syth. Does na ddim airs and graces, dim ond deud dy ddeud yn blwmp ac yn blaen a dyna ni. Dwi’n dueddol i siarad yn reit blaen, ac felly fel’na dwi’n sgwennu hefyd, sy’n berffaith ar gyfer Instagram. Mae pobl yn gallu gwario oriau yn dadansoddi cerddi mewn cyfrolau, ond mae Instagram yn lot mwy cyflym. Mae’n raid i ti ddal sylw’r darllenwr, ond dim ond am ambell eiliad cyn iddyn nhw sgrolio i ffwrdd.

Dywedwch rhyw air neu ddwy am y gerdd yr ydych wedi ei chyfrannu i’r Ŵyl.

Dyma’r cyntaf o gyfres newydd o gerddi gen i o’r enw ‘Stwff ma hogia ‘di ddeud wrtha fi’, sy’n ymateb i stwff ma hogia 'di ddeud wrtha fi.

Dilynwch Ŵyl Insta-gerddi'r Stamp yma ar y wefan ac ar ein cyfrif instagram: https://www.instagram.com/cylchgrawn_y_stamp/

Previous
Previous

Adolygiad: Salacia - Mari Ellis Dunning

Next
Next

Diwrnod Barddoniaeth Cenedlaethol: Gŵyl Insta-gerddi'r Stamp - Hywel Griffiths