Cerdd: Llanw - Jacob Morris

Daeth y gerdd hon yn drydydd am gadair Eisteddfod Ryng-golegol Abertawe eleni; a'n braint stampus felly yw ei chyhoeddi a llongyfarch ei hawdur yn wresog yn yr un gwynt.

Llanw

Oedi wnawn ni.

Ystyried, pwyllo,

cyn i’n cledrau glosio.

Sgwrs fud ein bysedd simsan,

sy’n ceisio cloi rhwng y sylliadau syn.

Y gwŷr gwrol,

‘Normal’

yn codi aeliau

a gwgu ar briodas lac ein dwylo.

Y fam sy’n troi pennau ei phlant,

i edrych ymaith,

rhag ein haint ni a’n tebyg.

Rhag ofn.

Dwy law a dwy galon,

ill dwy yn gafael mewn gwarth.

Ac wrth gerdded

un sgwrs sy’n wag o eiriau,

rhwng ein cledrau llaith.

Jacob Morris

Previous
Previous

Dangosiad arbennig: 'Diolch am eich sylwadau, David' - BITW

Next
Next

Cerdd: Jyst rhag ofn - Nerys Bowen