Cerdd: Jyst rhag ofn - Nerys Bowen

Blaenrybudd: Mae'r gerdd hon yn cynnwys cyfeiriadau at drais yn erbyn merched ac ymosodiadau rhywiol

Dwi’n hoffi mynd mas ar fy meic,

lan y mynydd, dim ond fi, yr adar a’r tywydd.

Dim sŵn ond y gwynt yn fy nghlustiau

a sŵn crenshian y gro o dan y teiars.

Teimlaf yn fyw ac yn rhydd.

Ond pan dwi’n mynd mas ar y beic,

gadawaf nodyn ar sedd y car yn y maes parcio,

gan ddweud am faint o’r gloch y gadewais i.

Ym mhoced gefn fy nghrys-t seiclo

af i â ’nhrwydded yrru,

rhag ofn i rywun ymosod arna i,

i alluogi i’r heddlu ganfod fy nghorff yn gyflym.

Jyst rhag ofn.

Weithiau, dwi’n gorffen gwaith yn hwyr,

ac yr unig beth sydd ar fy meddwl yw

paned, cinio, bath, gwely,

ac edrychaf ymlaen at gynhesrwydd y tŷ

a chysur fy ngwely.

Cerddaf i’r car gyda fy allwedd yn fy llaw

fel cyllell, ac arhosaf yn effro.

Cloiaf ddrws y car yn syth ar ôl mynd mewn

a dechrau gyrru trwy’r tywyllwch.

Jyst rhag ofn.

Yn ddiweddar, es i i gig gyda ffrind,

Noson wych oedd hi,

cerddoriaeth fyw, dawnsio,

sgwrsio yn Gymraeg gyda phobl yr ardal.

Es i i’r tŷ bach, a gofyn i fy ffrind

“Dal fy niod, wnei di?”

Des i nôl, a gweld fy niod unig ar y bwrdd.

“Dalia fe, wedais i,”

I osgoi cael rhywun yn rhoi cyffuriau ynddo.

Jyst rhag ofn.

Yn yr haf es i ar daith o amgylch gogledd Cymru,

ac am antur ges i –

olygfeydd aruthrol, traethau, llynoedd, mynyddoedd.

Ces i wir flas ar Gymru hardd

a syrthiais mewn cariad gyda 'ngwlad i

drosodd a throsodd.

Ond gwnes i’n siŵr o decstio rhywun

bob bore a bob nos,

a dweud ble o’n i.

“Conwy, Llyn Tegid, Porthmadog,

Adre ‘fory.”

A gyrrais i’r holl ffordd yno

a’r holl ffordd nôl

gyda morthwyl wrth fy ochr yn y car.

Jyst rhag ofn.

Amser maith yn ôl,

ces i lifft adre o’r dafarn gan ddyn caredig.

Stopiodd e’r car ar y mynydd

A fy ngorfodi i gyffwrdd â’i dic.

Es i yn y car gyda fe o wirfodd? Do.

O’n i wedi meddwi? Yn bendant.

Wel, beth o’n i’n ei ddisgwyl?

Lifft.

Ro’n i’n disgwyl lifft.

17 o’n i. Roedd e’n 43.

Erbyn hyn, dwi ddim yn meddwl ddwywaith

am y camau rhyfedd dwi’n eu cymryd.

Ni theimlai fy checklist gwyliau’n od –

ffôn, arian, sbectol haul, morthwyl.

Ond erbyn hyn dwi’n pwyso a mesur cynnig lifft,

Dwi’n gofyn o gwmpas am fos newydd

ac yn gwerthuso agweddau pobl tuag ato –

perfert neu ddyn teidi?

Felly i’r dynion sy’n garedig

a chwrtais ac sy’n parchu eraill,

mae’n ddrwg gen i.

Mae’n ddrwg gen i am eich amau,

Mae’n ddrwg gen i am dybio a ydych chi fel ‘fe’.

Ac i’r darlithydd a roddodd ei ddwylo

O gwmpas fy ngwast,

Ac i’r boi a ddaeth mewn i ‘ngwely ar ôl parti myfyrwyr,

Ac i’r hen gymydog a fyddai’n prynu losin i fi, ond

“Ssh, cyfrinach” oedd hi. “Paid â dweud wrth Mam.”

Stopiwch wnewch chi?

Dwi wedi cael digon.

Gallwch ddarllen ysgrif Nerys Bowen sy’n cyd-fynd a’r gerdd hon yma.

Previous
Previous

Cerdd: Llanw - Jacob Morris

Next
Next

Ysgrif: Pan fod ‘lifft’ a ‘dêt’ yn troi allan i fod yn rywbeth gwahanol - Nerys Bowen