Ymateb: Llyfr Glas Nebo - Sioned Haf Thomas

Fel rhan o gyfres o ymatebion i adladd Eisteddfod Caerdydd (gw. Ymateb: Golau Byw - Manon Awst, 22.08.18) dyma Sioned Haf Thomas yn bwrw ei barn at Llyfr Glas Nebo gan Manon Steffan Ros, cyfrol fuddugol y Fedal Ryddiaith eleni.

Sai eriod ’di gweld nofel Gymrâg yn cal gwmynt o ymateb cadarnhaol ar y cyfryngfe cymdeithasol â beth ma Llyfr Glas Nebo wedi’i chal ers iddi ennill y Fedal Rhyddiaith yn y Steddfod. A ma ’na rheswm pam. Alla i wirioneddol weud mai co un o’r nofele gore dw’i eriod wedi’i darllen. Es i ati i ddarllen y nofel dwrnod ar ôl i’r Steddfod feni a wên i’n gwbod ei bod hi’n un eithriadol o dda, ond sai’n credu y galle Manon ei hun fod wedi dychmygu y byse’r llyfyr yn cal y fath ymateb ar y fath sgêl chwaith. Ma Twitter ’di mynd yn hollol nyts am y nofel gyda bobol yn trydar eu rhwystredigaeth am fod y nofel, erbyn hyn, mor brin yn y siope! Diolch i’r drefen, ma nofel y Fedal Rhyddiaith yn mynd i ail-argraffiad asap.

Gath fy nghopi i rial socad yn y Steddfod tra wên i’n wotcho Candelas yng nglaw nos Sadwrn, ond ar ôl hairdryeo bob tudalen yn unigol (a dad yn gweud ’tha i y “byse fe’n costu llai i fynd i brynu copi arall o’r nofel, na iwso letric i sychu’r blydi peth”), es i ati yn eiddgar i ddarllen. Ac, o! Am nofel afaelgar, agos-atoch, annwyl, cynnil ond pwerus. Ma’r ffordd y ma’r nofel wedi ei gosod yn hynod apelgar ac yn gwneud y darllen mor rhwydd. Ma’r mab, Siôn, a’r fam, Rowenna, yn ’sgrifennu bob yn ail yn Llyfr Glas Nebo am fywyd cyn ac ar ôl ‘Y Terfysg’. Ma’r ffaith bod y stori yn cael ei hadrodd o ddau safbwynt gwahanol wir yn cadw diddordeb y darllenydd.

Iaith lafar Gogledd-orllewin Cymru sydd yma ond os i chi, fel fi, yn dod o’r De ac yn poeni y galle hyn beri probleme, peidwch â becso o gwbwl. Ma fe’n rhwydd i ddeall – hyd yn o’d i ni’r hwntws, felly peidwch â gadel i hynny’ch stopo chi rhag darllen y nofel. Os rwbeth, iwswch y nofel fel cyfle i addysgu’ch hunen am yr iaith lafar hyfryd ac unigryw sydd wedi’i chofnodi ynddi. Ma hyd yn o’d mam, sy “ddim yn deall gogs” (sori gogs, no harm intended, ma mam jyst heb fentro mas o Sir Benfro lot), wedi gafael yn y llyfyr ac yn rili joio! Hwrê!

Ma ’na neges glir iawn yn y nofel am yr hyn a alle ddigwydd yn y dyfodol yn ymwneud â damweinie ynni niwclear, ond dyw Manon Steffan Ros ddim yn pregethu o gwbwl. Dwi’n credu mai un o’r pethe gore am y nofel yw’r ffaith iddi allu drosglwyddo neges mor bendant a dealladwy heb orfod darprau pregeth. Ma’n cymryd dawn hynod i allu neud hyn.

Dwi’n teimlo fel alle’r nofel gal ei addasu’n sgript ar gyfer y gyfres ‘Black Mirror’. Ma ‘na themâu debyg iawn yn Llyfr Glas Nebo i’r hyn a welwn yn y gyfres Netflics- y mewnwelediad i’r dyfodol agos, y pethe nad inni’n credu y galle wir ddigwydd go iawn...ond a alle ddigwydd os nad i ni’n ofalus, a’r byd ôl-apocalyptaidd pan mae technoleg a datblygiadau modern wedi mynd yn rhy bell. Tybed a fydd y nofel yn cael ei addasu’n ffilm, hyd yn oed? Dwi’n sicr yn gallu gweld y potensial...

Dyma nofel arbennig iawn, ac un a wnath gydio o’r cychwyn cynta’. Alla i ddim argymell ei darllen hi ddigon – mae’n wych ym mhob ffordd a mor rhwydd i ddarllen. Mae’n nofel sy’n addas i bawb a dyw hi ddim yn hir o gwbwl ac felly mae’n bosib ei darllen hi mewn un eisteddiad! Os nad ichi ’di darllen Llyfr Glas Nebo ’to yna, da chi, ewch ati i fachu copi (hynny yw, os allwch chi ffeindio un, ma nhw’n brin iawn, a dwi ddim yn mynd i gynnig un fi ichi gan i fod e’n edrych fel rywbeth sy ‘di dod o’r byd ôl-apocalyptaidd...)

Previous
Previous

Ymateb: Awdl y Gadair - Judith Musker Turner

Next
Next

Ymateb: Golau Byw - Manon Awst