Cyfweliad a cherddi: Olion - Gwynfor Dafydd
Yn Eisteddfod agored-i'r-byd Caerdydd y llynedd, bu bron i Gwynfor Dafydd o Donyrefail gipio Coron y Brifwyl, a hynny â dilyniant o gerddi yn olrhain hanes bachgen hoyw wrth iddo ddod 'mas'. Aeth y Stamp ati i'w holi ynghylch 'Olion'.
Yn gyntaf, llongyfarchiadau mawr ar dy gamp! Sut brofiad oedd clywed i ti ddod mor agos, a tithau'r ochr draw i'r byd?
GD: Rhyfedd os nad rong. Roeddwn i yn adeilad y Llysgenhadaeth Brydeinig yn Chile, yn gwrando ar y seremoni ar Radio Cymru tra’n gweithio ar fas data’r Siambr Fasnach. Dyna brofiad clywed fy ffugenw yn cael ei ddarllen gan Christine James o lwyfan y Brifwyl, yn datgan fy mod i’n un o dri a oedd yn deilwng o ennill y Goron, a gorfod eistedd yno mewn tawelwch yn parhau i weithio. Dim ond fy athrawes Gymraeg o Ysgol Llanhari oedd yn gwybod i mi gystadlu. Fe ddywedais wrth fy rhieni y noson honno.
I'r rhai nad ydynt wedi darllen y gwaith eto (os am wneud - ewch i rifyn Gaeaf 2018 Barddas) - alli di roi amlinelliad bras ohono?
GD: Mae’r gerdd yn olrhain hanes bachgen hoyw: yr arwahanrwydd a deimlai yn blentyn, y boen o orfod datgelu ei rywioldeb i’w rieni, ac yna’r broses araf o gymodi a chwympo mewn cariad. Roeddwn i am wneud hyn trwy gynnal y darlun o chwarae cwato, ac felly mae’r themâu o guddio a datgelu yn rhai amlwg trwy gydol y casgliad. Hoffwn i feddwl bod y gerdd yn ddigon cymhleth i’r rheini sy’n hoff o ddadansoddi, ond yn ddigon hygyrch i bawb fedru cael blas arni ar y darlleniad cyntaf. Cefais i fwynhad arbennig yn ei hysgrifennu, ac mae pob gair ohoni ar fy nghof.
Pe bai'r cerddi hyn wedi cael eu coroni, fe fyddai wedi bod yn garreg filltir bwysig yn hanes y gystadleuaeth, mae rhywun yn teimlo - oedd hyn ar dy feddwl wrth ymgeisio yn eisteddfod agored, ddi-ffiniau Bae Caerdydd, a phrosiect 'Mas ar y Maes' yn cynnal digwyddiadau am y tro cyntaf?
GD: I ddechrau, diolch am gydnabod hyn. Synnais nad oedd yr un o’r beirniaid yn y Cyfansoddiadau wedi crybwyll newydd-deb y thema yn hanes cystadleuaeth y Goron, tra bod dylanwad y Gymraeg yng Nghaerdydd yn cael ei hystyried fel chwa o awyr iach. Mae’n siŵr mai fy anwybodaeth i sydd ar fai am hyn, ond doeddwn i erioed o’r blaen wedi darllen cerdd yn y Gymraeg ar y thema yr ysgrifennais i amdani. Mae hi’n ddiddorol meddwl yn awr, gydag ychydig o ôl-olwg, sut yr oedd thema fy ngherdd yn cyd-fynd â’r Eisteddfod ddi-ffiniau a gawsom, a phrosiect llwyddianus ‘Mas ar y Maes’, er nad oedd hyn ar fy meddwl wrth ysgrifennu’r casgliad.
Mae'r canon Cymraeg o lenyddiaeth hoyw wedi tyfu yn sylweddol dros y degawdau diwethaf, ond efallai ei fod o'n dal i gael ei gysylltu â rhyddiaith fel cyfrwng na barddoniaeth - fyddet ti'n cytuno â hynny?
GD: Fel ddywedais i, doeddwn i erioed o’r blaen wedi darllen cerdd yn y Gymraeg ar y thema hon. Dwi’n dal heb wneud. Bu’n rhaid i mi droi at farddoniaeth – ac yn wir at farddoni yn – Saesneg am sbel er mwyn ffeindio fy llais. Mae rhai o’r cerddi yn y casgliad bron a bod yn gyfieithiadau o rai o’r cerddi Saesneg a ysgrifennais, er nad oes dim diddordeb o gwbl gen i yn eu cyhoeddi nhw. Cerdd, wrth gwrs, yw fy nghasgliad i, ond gellir dadlau ei bod hi’n darllen mwy fel darn o lenyddiaeth ar adegau. Adrodd stori mae hi, wedi’r cwbl.
Diolch i ti am gymryd amser i ateb cwestiynau'r Stamp. Beth sydd nesaf i ti o ran dy sgwennu?
GD: Roeddwn i’n gobeithio y byddai’r flwyddyn dramor yn rhoi mwy o gyfle i mi ganolbwyntio ar fy sgwennu. Yn anffodus, mae’r gwrthwyneb wedi bod yn wir – roeddwn i’n ei chael hi’n llawer haws ysgrifennu pan oeddwn i’n fyfyriwr nag ydw i nawr gyda swydd llawn amser. Felly wn i ddim. Y Talwrn, am wn i.
-----
Dyma ddwy gerdd o ddilyniant Gwynfor - 'Whilo' o'r caniad cyntaf, a 'Ffeindio' o'r trydydd caniad. Fel y crybwyllwyd eisoes, gallwch ddarllen y dilyniant yn ei gyfanrwydd yn Barddas y Gaeaf.
Whilo
O'n i wastad bach yn od, sbo.
Wastad jyst tam' bach yn queer.
Ond o'n i'n lico pêl-dro'd,
yn union fel y lleill,
fel Dad,
fydde'n mynd â fi i'r parc
bob dydd Sadwrn i whare,
a'r gêm yn dod i ben
pan ele'r bêl i berfedd y llwyni.
Dyddie creu pyst â siwmperi o'dd rheini
cyn i Dad gilio fel gwallt at ochr y cae,
ei wên yn wannach na'r rhieni eraill,
ac ynte'n rhedeg ar ôl ei fab o hyd
trwy stadiyme pell ei lyged,
siom yn rhwyd am ei dra'd
a baner wen ei henaint yn chwifio ...
Dyddie a doddodd fel loli pop
ar fy nhafod, a'n gadael ni'n dau
yn dal i gipedrych tua'r llwyni.
Ffeindio
Glaniaist yn iaith nas medrwn ar femrwn gwyn y gwely
a hollti dy hun yn llafariaid blêr dros fy nghorff;
fy mhlygu, wedyn, fel tudalen, i stwffio berf rhwng
cromfachau tyn (sibrydaist yn fy nghlust mai fel hyn
y llenwir sangiad) gan adael ôl dy atalnodi'n gleisiau
am fy mraich - fe'u deallais - eu derbyn - a thwrio'n galed trwy
rym dy ramadeg nes ffeindio cynghanedd yng ngorfoledd dy lef;
nes i Dwr Babel ildio'n gain, a'n harwain ni at huodledd nef.
Bron i mi anghofio, a ninnau'n chwysu mewn oriel chwilboeth,
fod y bore'n pipio drwy'r ffenest agored, yn smyglo
ein serch fesul sill i'r stryd. 'Sdim ots. Gad i'r byd dy glywed,
fy artist eofn, yn troi rhegfeydd yn orchmynion
pert. Achos, onid gwraidd pob celf
yw mympwy crefft? Ie. Ie. Ie.
Cynhaliwyd y cyfweliad uchod trwy gyfrwng e-bost gan Iestyn Tyne ar ran Y Stamp.