ARCHIF
~
ARCHIF ~
Cylchgrawn creadigol Y Stamp oedd man cychwyn Cyhoeddiadau’r Stamp. Cyhoeddwyd 11 rhifyn print llawn a 2 rifyn arbennig rhwng 2017 a 2021, ond roedd Y Stamp hefyd yn ofod ar-lein, a chyhoeddwyd ymhell dros 300 o ddarnau o waith ar ein gwefan yn ystod yr un cyfnod, ac yn ychwanegol at ddeunydd y rhifynnau. Er nad ydym bellach yn cyhoeddi gwaith creadigol ar lein yn wythnosol, ac yn dilyn gorfod newid darparwyr gwefannau, rydym wrthi ar hyn o bryd yn ailgyhoeddi’r archif helaeth hwn o waith, fel ei fod ar gael i bawb. Gallwch ffiltro’r cynnwys trwy glicio ar y categoriau isod, neu sgrolio drwy’r cyfan ar y dudalen hon.
Os ydych angen copi o ddarn a gyhoeddwyd ar-lein ond nad yw eto wedi ailymddangos yma, cysylltwch a ni: cyhoeddiadau.ystamp@gmail.com
POPETH / Adolygiadau / Amrywiol / Barddoniaeth / Cardiau Post Creadigol / Celf / Cyfweliadau / Rhestrau Darllen / Rhyddiaith Greadigol / Ysgrifau
CATEGORIAU ARBENNIG: MIS HANES LHDTC+ 2019 / MIS MUDO / GŴYL INSTAGERDDI 2019 / MIS BACH GWYRDD 2020

Ysgrif: Dyfodolegau ar y cyrion - Dylan Huw
Dylan Huw sy’n ystyried ffyrdd amgen o feddwl am hanes, bywyd a chelfyddyd queer mewn modd sy’n edrych tuag at y dyfodol, gan archwilio gwaith yr artist gweledol James Richards.

Cyfweliad a cherddi: Olion - Gwynfor Dafydd
Yn Eisteddfod agored-i'r-byd Caerdydd y llynedd, bu bron i Gwynfor Dafydd o Donyrefail gipio Coron y Brifwyl, a hynny â dilyniant o gerddi yn olrhain hanes bachgen hoyw wrth iddo ddod 'mas'. Aeth y Stamp ati i'w holi ynghylch 'Olion'.

Celf: Aralledd yn y Gymru wledig - Heledd Williams
Dyma gasgliad o luniau nes i ar ôl bod yn darllen am hanes y teulu ar ochor fy nhad i o Nant Peris, a hanes y brwydro caled dros y dosbarth gweithiol yr oedd y diwydiant chwarelyddol wedi ei feithrin. Bu farw taid o Silicosis yn ei 70au.

Cerdd: Cnoi - Llinos Llaw Gyffes
Ble’r wyt fy annwyl Amélie?
Mae yma wacter hebddot ti.
Nid oes pwrpas i’m gwisg ddel i
Na’m colur - heb i ti sylwi!

Rhestr Ddarllen: LHDTC+ - Mair Jones
Ers 1994, mae mis Chwefror wedi cael ei nodi fel Mis Hanes LHDT (nawr hefyd yn Hanes LHDT+ neu LHDTC+ i gynnwys a chroesawu mwy o bobl). Mae Mis Hanes LHDT felly wedi bodoli ar hyd fy mywyd i, ond sawl Chwefror a basiodd â minnau’n ymwybodol ohono? Sawl un a basiodd heb ymwybyddiaeth o hanes pobl LHDT+ Cymraeg?

Cyfweliad: Cylch - Dafydd Frayling
Yn 90au'r ganrif ddiwethaf, roedd Aberystwyth yn gynnwrf i gyd. Os na allan nhw gymryd yr holl gyfrifoldeb, yna yn rhannol gyfrifol o leia roedd y criw o lesbiaid a hoywon aeth ati i sefydlu y grŵp Cylch.

Cerdd: Mas ar y Maes - Caryl Bryn
I ddwyn y ddinas
y flwyddyn hon -
daeth 'Mas ar y Maes'
yn un don…

Ysgrif: ‘Atgof’ Dedalus - Iestyn Tyne
Yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor 1915, gosodwyd y seiliau i fath newydd o farddoniaeth yn y Gymraeg wrth i bryddest ‘Y Ddinas’ gan T H Parry-Williams gael ei choroni. Crwydrai’r gerdd honno i diriogaethau nas tramwywyd arnynt gan feirdd Cymraeg cyn hynny; ymysg pethau eraill, fe ddangosai dosturi tuag at hunanleiddiaid, ac fe drafodai themâu ‘anfoesol’ fel puteindra yn gwbl agored.

Celf: Machlud, Yr Enfys, a dathlu hunaniaeth - Gwen ap Robert
Mae gwleidyddiaeth a chyfraith cymdeithasol wedi fy niddori i ers oedran ifanc, ar ôl i fi wylio cyfweliad gydag offeiriad a oedd yn gwrthwynebu cyfreithloni priodas hoyw ym Mhrydain. O’n i erioed ’di clywed oedolyn yn mynegi barn mor gryf ar y mater a fi’n cofio teimlo'n sick.

Cyfweliad: Cyfarth a chyffroi - Elgan Rhys
“Dyna ydy o ar ddiwedd y dydd ydy stori syml am gariad. So er mai dau ddyn 'da ni’n gweld yn hwn, does 'na ddim rhwystre i unrhywun o unrhyw ryw neu unrhyw rywioldeb.”