Cerdd: Orig yn y prynhawn, Lerpwl - Morgan Owen

Orig yn y prynhawn, Lerpwl

(Gwanwyn 2018)

Adar yn gân, gorwel llwydolau

  machlud drwy we pry cop,

    arogl y glaw mân clir

     ar goncrit, arlliw haf;

      ffenest ar agor, parablu

    plant y lloriau uwch

   a'u mamau'n galw;

  ceir canol y ddinas, ambell awyren

 yn rhuo, lliwiau'n eglur

      a rhwng popeth dawelwch

     heb ludw, heb garthen y nos

    i dampo'r holl sgyrsiau.

 Orig, a dyna hi: bwlch i fyfyrio,

       ac yna mae'n pasio.

Previous
Previous

Cerdd: Bannau - Lowri Havard

Next
Next

Ysgrif: Lleddfu Diflastod - Non Mererid Jones