Cerdd: Bannau - Lowri Havard
Yn ystod Gorffennaf 2013, ar ddiwrnod poethaf y flwyddyn, bu farw Craig Roberts ac Edward Maher wrth ymarfer gyda'r SAS ym Mannau Brycheiniog. Bu farw trydydd milwr, James Dunsby yn yr ysbyty yn ddiweddarach. Bu beirniadaeth mawr o'r modd yr aeth yr ymarferion yn eu blaenau er gwaethaf y gwres anioddefol, a arweiniodd at farwolaethau'r tri. Mae'r drasiedi yn gefnlen i'r gerdd hon.
Bannau
‘Gwelir yr aderyn yn hedfan o gwmpas yn helbulus pan syrthio un bach allan o’r nyth. Ond er ei drallod nid yw’n cynnig porthi’r un bach ar y llawr. Caiff yr aderyn bach lwgu. Peth truenus yw gweld creadur yn dioddef am fod caethiwed greddf arno. Peth truenusach yw gweld dynion, wedi eu breintio â rheswm, yn ddiymadferth mewn sefyllfa ingol am eu bod yn gaeth i arfer.’
-‘Brenhiniaeth a Brawdoliaeth’, Waldo Williams
Hen bethau bach
mor ddi-nod
ydi morgrug yn martsio.
*
Tybed ar ordors
pa forgruges o frenhines
y maen nhw yma’n slafio
yn eu blaenau
gam wrth gam
dan grechwen
hyll
haul tanbaid haf
fel hyn?
Ac ysgwn i,
pan offryman nhw
eu saliwtiau dyletswyddol
a wêl hi fwy na rhif
a rheng
a’u ’nabod wrth eu henwau?
*
Gwranda. Gwranda. Martsia. Martsia. Dŵr? Dim Dŵr! Ymlaen! Un dau.
Dy Draed. Dy draed. Un Dau. Un Dau. Dy Draed. Dim Dŵr. Ymlaen. Un dau.
Dy Draed. Ymlaen. Ymlaen!
gwrando gwrando martsio gwrando dŵr dim dŵr ymlaen un dau
fy nhraed fy nhraed un dau ymlaen dim dŵr fy mhen fy nhraed fy mhen
fy mhen fy nhraed ymlaen
*
Pwy hidia un dim,
dwêd,
am beth bach
mor dd-inod
â morgrugyn yn martsio?
Pwy ond ei forgruges o fam,
hynny yw,
a’i teimlodd
yn drymio i’r bît
yn ei chroth
ymhell cyn iddo dynnu’r bŵts
am ei draed?
A phwy
ond ei forgrug o frodyr –
ei gymrodyr
’fu’n cyd-fyw a chyd-gerdded ag o
hyd y crugiau hyn;
cyd-grymu
dan grwbi o bac
pum deg pwys?
A phwy
ond y ddau fwch dihangol
a gafodd y bai
slap-bang
ar eu ’sgwyddau morgrugaidd nhw
pan ddaeth martsio tri aelod o’r cytref
i ben
ar Ben y Fan?
*
Anwes y tes
yn dwyll ar groen.
Pob tywyniad
yn drywaniad dirgel
tu fewn.
Pob pelydryn
yn twymo’r gwaed
ryw damaid -
yn ei dorthio
a’i droi
yn ara’
deg
bach
yn driog gludiog-glats.
*
A hidiwn ni’r neb
sy’n dal yma,
sy’n dal ymlaen i fartsio
fesul cam
i guriad cyfangiadau’r gwaed
sy’n dal i sleifio’n slywennaidd
drwy’n gwythiennau ni?
A lwybreiddiwn
yn llwythog
dan faich llonyddwch traed y tri -
Maher,
Roberts,
Dunsby?
Pydrwn arni
ym maw ein moesymgrymu -
hyd nes y sychwn ninnau hefyd
yn y man
yn saliwtiau oesol, crimp
ar y copa.
*
Hen bethau bach
mor ddi-nod
ydi morgrug yn martsio,
yn torri eu cwys
yn graith ddu drwy’r gwair.
——
Daeth y gerdd hon yn drydydd am Gadair Eisteddfod yr Urdd yn Llanelwedd eleni. Hoffai golygyddion Y Stamp estyn eu llongyfarchion i Lowri ar ei champ.