Galwad i weithredu: Streic Cynulliad Menywod Cymru - Tessa Marshall
Bydd Streic Cynulliad Menywod Cymru yn digwydd yng Nghaerdydd ddydd Gwener yma, ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, er mwyn tynnu sylw at anhegwch sefyllfa waith menywod o bob cefndir. Un o'r trefnwyr, Tessa Marshall, sy'n egluro mwy ac yn galw ar ffeministiaid i ymuno yn y Streic.
Mae Cynulliad Streic Menywod Cymru yn benllanw diwrnod o weithredu yng Nghaerdydd ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni. Rydym yn gweithredu oherwydd ein bod yn grac. Rydym yn grac gyda’r mesurau llymder didrugaredd sydd wedi difrodi ein cymunedau gan arwain at lwgu, anobaith a salwch. Rydym yn fwyfwy pryderus ynglŷn ag effaith y polisi amgylchedd anghynnes sy’n cael ei yrru gan lywodraeth ac sy’n gweithredu ar sail ffantasïau adain-dde eithafol, gan adael mudwyr nad ydynt yn wyn, pobl LHDT+ a dioddefwyr traffig dynol yn agored i niwed drwy gyfrwng egsploetio, alltudio a thrais.
Rydym yn streicio oherwydd ein bod yn gweld sefyllfa’n parhau lle nad yw menywod yn ennill cyflog teg. Rydym yn streicio oherwydd nad oes unrhyw gamau arwyddocaol wedi cael eu cymryd gan lywodraethau i fynd i’r afael â’r epidemig trais rhywiol sy’n effeithio menywod o bob cefndir.
Rydym yn streicio mewn undod gyda’n chwiorydd sy’n gweithio yn y diwydiant rhyw. Mae angyfreithloni’r diwydiant rhyw yn gwneud y gwaith yn beryglus ac yn rhoi menywod mewn perygl o ddioddef trais gan gleientiaid, eu cyflogwyr a’r heddlu. Mae’n gwahanu menywod oddi wrth ei gilydd, gan ein darlunio naill ai fel ‘gwyryfon sanctaidd’ (menywod da) neu ‘hwrod’ (menywod drwg), ac yn bradychu ein hawliau sylfaenol o ran llafur. Mae gwneud trosedd o weithio yn y diwydiant rhyw yn ein gwneud yn agored i niwed, ac yn ein hatal rhag cymryd rheolaeth o weithleodd neu gael mynediad at wasanaethau cymorth sylfaenol yn ôl yr angen.
Rydym yn streicio i godi ymwybyddiaeth o’r ail symudiad y mae nifer o fenywod yn ymwybodol ohono. Mae disgwyl bod mamau yn gosod eu hanghenion personol i’r neilltu er mwyn derbyn rhyw fath o ‘hapusrwydd di-ildio’ sy’n dod wrth iddynt gyflawni eu tasgau. Beth sy’n digwydd pan fod gan famau ofynion personol, anghenion seicolegol a dyheadau y tu allan i’r hyn y gall teulu niwclear ei gynnig? A beth sy’n digwydd pan fod cymdeithas yn pennu mai rhyw fath o nwydd y gellir ei brynu a’i werthu yw gofal plant? Wrth i gymdeithas anwybyddu’r cwestiynau hyn, mae’r goblygiadau i famau yn andwyol: cylch o ddyled, oriau gweithio lletchwith a thoriad cyflog a fydd yn para gydol ei gyrfa.
Rydym yn gofyn i ffeministiaid o Gymry i ymuno â ni yng Nghaerdydd ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni er mwyn i ni godi llais, trafod, a dathlu’r menywod sy’n byw yng Nghaerdydd. Rydym yn awyddus i drafod ein gwaith gyda’n gilydd, a chanfod ffordd o frwydro ymlaen. Rydym wedi blino ar ddweud ein straeon drosodd a thro, dim ond er mwyn derbyn ymateb cenedlaethol digyffro sy’n addo newid ond byth yn llwyddo i gyflawni hynny. Rydym yn streicio er mwyn mynnu y caiff datrysiadau cydweithredol eu canfod ar gyfer ein profiadau go iawn o drais. Rydym yn galw ar bob menyw i ymuno gyda ni i ddatgan mai nawr yw’r amser i weithredu er mwyn sicrhau dyfodol mwy llewyrchus i’n plant.