Ysgrif: Pan fod ‘lifft’ a ‘dêt’ yn troi allan i fod yn rywbeth gwahanol - Nerys Bowen

Blaenrybudd: Mae’r ysgrif hon yn cynnwys cyfeiriadau at drais a chamdrin o natur rhywiol.

Y llynedd ges i sgwrs gyda ffrind am y pethau rhyfedd rydym yn eu gwneud fel menywod er mwyn teimlo’n ddiogel. Trafodom ystod eang o bethau, o gloi drws y car yn syth ar ôl mynd i mewn wrth yrru gyda’r nos, i fynd ar ddêt gyda sgriwdreifar yn dy fag, jyst rhag ofn. Dechreuais i feddwl am yr amseroedd dros y blynyddoedd pan deimlais dan fygythiad, neu’n anghyfforddus yng nghwmni dyn, ond hefyd am ba mor ffodus roeddwn i wedi bod, a beth allai fod wedi digwydd. Yn benodol, roeddwn yn meddwl am achlysur a ddigwyddodd pan oeddwn yn 17 oed.

Roeddwn i wedi bod allan un noson, i ryw barti neu’i gilydd. Derbyniodd fy ffrind a minnau gynnig o lifft adre gan ddyn oeddwn yn ei nabod. Ni feddyliom ddwywaith am hynny — roedd e’n barchus ac yn adnabyddus yn y gymuned. Roedd e yn ei bedwardegau, felly roedd ein rhieni yn ei nabod, a byddai dim problem. Aeth e â fy ffrind adref yn gyntaf. Pan mai ond y ddau ohonom yn y car, troiodd e bant o’r briffordd i fynd ar hyd ffordd y mynydd. Nid oeddwn yn dwp, a dywedais i rywbeth yn syth, a gofyn beth oedd yn mynd ymlaen. Dywedodd fod arno angen pisio. Diolch byth! Pa mor paranoid oeddwn i! Aeth e allan o’r car, a daeth yn ôl ar ôl munud a gorfodi i fi gyffwrdd a’i ddic! Roeddwn i wedi fy ffieiddio’n llwyr. Stopiodd e, a galwais i fe’n fastad brwnt. Roedd e’n chwerthin, a doedd dim awgrym o gywilydd neu euogrwydd o gwbl. Aeth â fi adref, ac roeddwn i’n iawn ar ôl hynny. Ni ddywedais ddim byd wrth fy mam, byddai hi wedi mynd yn nyts, gyda fe’n bendant, ond hefyd efallai gyda fi am fynd yn y car gyda fe? Doeddwn i ddim yn siŵr.

Ar y safle hwn, yn 1992…

Ysgrifennais gerdd yn ddiweddar (darllen yma) am fy mhrofiadau anghyfforddus, a oedd yn cynnwys yr un gyda’r hen ddyn brwnt. Soniais am y gerdd wrth gwpl o wahanol ffrindiau tra ein bod yn cael coffi, neu’n sgwrsio ar y ffôn, ac o hynny ymlaen, dechreuodd rywbeth ddigwydd. Darganfyddais fod gan bob un ohonyn nhw eu stori tebyg eu hunan. Ar ôl i fi rannu fy mhrofiad, roedd y menywod yn rhannu eu straeon gyda fi, rhywbeth nad oeddent erioed wedi ei wneud o’r blaen. Mae’n ymddangos eu bod yn teimlo’n ddiogel yn eu rhannu gyda fi, neu efallai ar ôl gwrando ar fy mhrofiadau i, roedden nhw'n teimlo bod hynny’n rhoi caniatâd iddyn nhw wneud yr un fath. Ymysg y straeon anhyfryd, clywais am nifer o brofiadau tebyg, am gyffwrdd di-eisiau, ac am ddynion yn manteisio ar bŵer, statws neu oedran. Hefyd, clywais rai straeon erchyll am drais a cham-drin plant yn rhywiol.

Er fy mod wedi clywed nifer o straeon gan wahanol fenywod, nid oedd y rhan fwyaf ohonynt yn fodlon rhannu eu straeon yn ehangach. Efallai oherwydd cywilydd, neu ofn cael eu hadnabod; efallai achos byddai’n well ganddynt anghofio’r holl beth, ac mae ganddynt hawl i wneud hynny, heb os. Fodd bynnag, mae un menyw sy'n fodlon rhannu ei phrofiad hi.

*

“Cwrddon ni mewn priodas ffrind, 1984 oedd hi. Ro’n ni wedi cael amser gwych, a gofynnodd e fi mas ar ddêt. Ar y pryd mam sengl o’n i, gyda babi 6 mis oed, a fyddwn i ddim yn mynd mas yn aml. Ro’n i wedi colli pwyse ers cael y babi, a phrynais i ffrog newydd, un tebyg i beth fyddai’r Dywysoges Diana yn ei gwisgo. Teimlwn yn wych, ac roedd hi mor gyffrous. Treulion ni noson fendigedig yn y dafarn leol, yn sgwrsio a chwerthin. Dywedodd e am ei fam a’i deulu, ac roedd e’n ddiddorol, caredig a chanmoliaethus. Roedd hi’n noson wirioneddol hyfryd.

Gadawon ni’r dafarn tua 11:00, achos bod rhaid i fi fynd yn ôl at y babi. Aethon ni nôl i’r car a oedd yn y lay-by gyferbyn â’r dafarn. Aethon ni i mewn, ac estynnodd e draw i roi sws i fi, ac roedd hynny yn hyfryd. Yn sydyn, tynnodd e’r lifer ar ochr fy sedd, a syrthiodd gefn y sedd fflat i lawr. Roedd y ffrog ro’n i’n ei gwisgo yn un â ffrynt lapio, a gwnaeth rym y symudiad i fy ffrog agor ar y ffrynt a fy nghoesau’n mynd lan i’r awyr. Tynnodd fy nicers i lawr a dringo ar fy mhen i. Ro’n i mewn sioc. Do’n i ddim wedi cael rhyw ers cael y babi, ond dwi’n cofio meddwl wel efallai dyma fel y mae hi nawr, dyma beth sy’n digwydd ar ddêt. Doedd fy nicers ddim hyd yn oed oddi arna i. Roedd y cyfan mor gyflym. Soniodd e fod stretch marks ’da fi, ond dywedodd e i beidio â phoeni, achos bod stretch marks gan Jerry Hall, a model yw hi. Ro’n i wedi drysu, ond am eiliad teimlais yn ddiolchgar gan nad oedd ots ganddo fe am fy stretch marks, ac onid oedd e wedi bod yn garedig, mewn ffordd? Roedd e wedi ymddangos fel dyn neis iawn, a doeddwn i ddim wedi meddwi. Doedd fy ffrog ddim yn un slutty, un bert iawn oedd hi, a hir hefyd. Fyddai fe ddim wedi gweld fy nghoesau o gwbl yn ystod y dêt.

Gyrrodd e fi adref at fy mabi, ac at Mam a oedd yn babysitting. Gofynnodd Mam am y dêt, ac amdano fe. Roedd hi wedi cyffroi, ac roedd hi’n hapus drosto i. Ceisiais i wenu, ond ddywedais i ddim byd am beth ddigwyddodd. Gofynnodd hi a fyddwn i’n mynd ar ddêt arall gyda fe. Dywedais mod i ddim yn siŵr eto, ddim wedi penderfynu. Cyn bo hir ffoniodd e fi, credwch fe neu beidio, a gofyn i fi mas ar ‘ddêt’ arall. Gwrthodais i. Ar ôl hynny, es i nôl at fy nghyn-gariad, tad fy mabi. Do’n i ddim eisiau gwneud mewn gwirionedd, ond teimlwn ychydig yn fwy diogel o wneud hynny. Ni weithiodd pethau mas, wrth gwrs, ond ar ôl hynny, gwnes i benderfyniadau a dewisiadau na fyddwn i’n eu gwneud fel arfer, o ran cadw’n ddiogel yng nghwmni dynion. Newidiodd y peth lwybr fy mywyd.

Dim ond blynyddoedd wedyn, meddyliais i am yr holl beth. Gwnes i ddim byd i’w stopio, a gallwn i ddim gweithio allan pam. Pam na wnes i ddim byd? Ddylwn i wedi gadael iddo fe barcio yn y lay-by o gwbl? Roedd hi yn gysgodol, wedi’r cyfan, ond hefyd, ro’n ni ar ben agosaf y lay-by, ar bwys y briffordd. Gan feddwl am beth wnaeth e i fi yn y car, roedd e’n ymddangos fel ei fod o’n gwybod beth oedd e’n ei wneud. Dwi ddim yn meddwl taw hwn oedd y tro cyntaf iddo fe wneud y fath beth.”

Ar y safle hwn, yn 1989…

Disgrifiodd hi’r digwyddiad fel pe bai rhywun wedi mynd yn rhy bell, wedi mynd yr holl ffordd, ond wrth gwrs, beth oedd hi’n ei ddisgrifio oedd trais. Treisiodd e hi. Beth oedd yn drist iawn i fi i glywed oedd hyd yn oed ar ôl 35 mlynedd, roedd hi’n teimlo bod angen iddi esbonio i fi nad oedd hi wedi meddwi, ac i gyfiawnhau ei dewis o ffrog (“Doedd fy ffrog ddim yn un slutty”). Roedd hi hyd yn oed yn cwestiynu'r lle parcio. Ymatebais gan ddweud hyd yn oed os oedd hi wedi meddwi’n llwyr, neu hyd yn oed os oedd hi wedi gwisgo ffrog fer a thynn, doedd dim hawl ganddo ei threisio. Dyw hi ddim yn iawn i ddynion dreisio menywod, hyd yn oed os ydyn nhw wedi parcio’r car mewn lle tywyll. Arno fe oedd y bai, a nid arni hi. Ni wnaeth hi ddim byd i achosi, ysgogi, na haeddu’r ymosodiad.

Felly pam na ddywedodd hi am beth ddigwyddodd? Pam na ddywedais i, na’r menywod eraill yr wyf wedi siarad â nhw, unrhyw beth? Mae’n gyfuniad o resymau a theimladau, rwy’n credu. Cywilydd yw’r brif beth. Sioc a chywilydd. Dywedodd sawl menyw na wnaethon nhw ddim byd ar y pryd, yn ystod yr ymosodiad, ond nad oeddent yn gallu deall pam. Wedi’r cyfan, gallai’r fenyw uchod fod wedi agor drws y car a mynd mas, a gallwn i fod wedi gwneud yr un peth, ond ni wnaethom. Yn rhy aml rydym yn clywed cwestiynau fel pam na ddywedodd hi ddim byd, pam na sgrechodd neu weiddodd hi, pam na frwydrodd hi’n ôl? Mae’n eitha cyffredin i fenywod rewi mewn achlysuron o arswyd a thrawma, ond os nad yw pobl yn ymwybodol o hyn, mae’n hawdd rhoi’r bai ar y menywod.

Gan ystyried a synfyfyrio am y straeon a glywais, ac o ystyried cyd-destun ehangach symudiad #metoo, sylweddolais nad oedd ein profiadau’n rhai prin, ysywaeth. Yn anffodus, maent yn rhy gyffredin o lawer. Rhywbeth a'm tarodd oedd y ffaith nad mewn dinas fawr ddigwyddodd yr achlysuron hyn, ond yn ardal Treorci, Cwm Rhondda. Rwyf yn sylweddoli bellach nad yw’r pethau a amlygwyd gan #metoo yn digwydd dim ond i’r selebs yn Hollywood, a bod cyffwrdd anaddas, trais neu gam-drin plant yn rhywiol yn digwydd mewn trefi bach fel fy un i, ac i fenywod fel fi.

Ar ôl rhannu eu straeon gyda fi, siaradodd rhai o’r menywod am deimlo’n well, fel petai pwysau trwm wedi ei godi oddi arnyn nhw. Roedd yn teimlo fel unioni cydbwysedd pŵer. Ein straeon ni ydyn nhw, maent yn perthyn i ni, a dydyn ni ddim yn mynd i gael ein cywilyddio ganddynt bellach. Nid yw’r cywilydd yn perthyn i ni, mae’n perthyn i’r dynion a gymerodd fantais ohonom. Rydym wedi sylweddoli ein bod yn gallu rhannu’n profiadau heb gael ein barnu, ac wrth wneud hyn, efallai y bydd yn anfon neges at ddynion i beidio â ffycio gyda ni, oherwydd byddwn yn dweud ein straeon, rhannwn ein profiadau.

Beth ddywedaf innau wrth unrhyw fenyw sydd wedi cael profiad tebyg yw peidio â meddwl mai ti yw’r unig un i ddioddef y fath brofiad. Fel yr wyf wedi dysgu, yn anffodus, mae’n eithaf cyffredin. Siarada gyda rhywun, boed yn heddlu, wasanaethau i fenywod, ffrind neu rhywun arall yr wyt ti’n ymddiried ynddynt. Cofia, wnest ti ddim byd i haeddu’r ymosodiad. Mae gen ti hawl i fod wedi meddwi, neu i wisgo ffrog fer, a hefyd i gyrraedd adref yn ddiogel ar ddiwedd y noson. Dim ond un person sydd ar fai – yr ymosodwr.

Mae cymorth ar gael gan Gymorth i Ferched Cymru, trwy’r Llinell Gymorth Byw Heb Ofn ar 0808 80 10 800, ebost info@livefearfreehelplinewales, neu drwy decstio 078600 77 333. (Mae gwasanaethau ar gael yn Gymraeg, Saesneg ac ieithoedd eraill.)

Previous
Previous

Cerdd: Jyst rhag ofn - Nerys Bowen

Next
Next

Galwad i weithredu: Streic Cynulliad Menywod Cymru - Tessa Marshall