Cerdd: Sul y Carnifal - Matthew Tucker
(pob blwyddyn, yr arferiad ar y dydd Sul wedi Carnifal Porth Tywyn yw cynnal gwasanaeth ym mhrif babell y maes)
Bu awelon cred yn newid eu cwrs
y bore hwnnw.
Daethant, ar wib, i mewn dros y môr,
gan gario ei air Ef
hyd ehangder y babell.
Ac o dro’r tudalennau,
daeth Ef, â’i freichiau ar led,
i’m cofleidio, fel hen gyfaill
na welais mohono ers oes.
Dilynais Ef i drobyllau’r penillion,
gan adael iddynt fy sugno
i fêr pob adnod a dameg.
Ac wedi i mi blymio i ddyfnderoedd Ei neges,
ac ymdrochi yn awen yr efengylau,
codais i’r wyneb;
torheulais yn heulwen ffydd
gan adael i’w phelydrau fy ngolchi’n ddi-baid.
Ac wedi i mi ysgwyd Ei law
a ffarwelio ag Ef, oedais,
a meddyliais yn siŵr
y caem ni gwrdd rhywbryd eto.