Stori Fer: Torri Gwallt ar Fore Mawr – Dewi Alter

Edrychais ar y newyddion yn syth pan ddihunais. Arhosais i fyny’n hwyr er y bûm yn benderfynol o beidio. Mae rhywbeth am etholiadau sy’n fy nghyffroi. Honna nifer bod lleiafrifoedd yn llawer mwy effro’n wleidyddol, wn i ddim os yw’n wir ai peidio. Arhosais ar ddihun tan tua 2 o’r gloch, hanner wedi 2, efallai, yn gwylio. Yn gaeth i’r sgrin wrth i ganlyniadau ddiferu’n araf i mewn.

Pleidlais a ddeuai unwaith mewn bywyd oedd hon yn ôl y sôn, neu rybudd, mae’n dibynnu ar eich safbwynt. Er gwaethaf y canlyniad, ni fyddai pethau’n aros fel y bu.

Fel tap yn gollwng dŵr, daeth y canlyniadau.

Plannwyd syniad am ryddid go iawn mewn gardd genedlaethol o syndod. Ni fyddai rhaid cael pobl  estron yn dweud wrthym beth i’w wneud. Cael y cyfle i greu ein rheolau ein hunain. Nyni fydd yn sofran; unwaith eto. Sofraniaeth. Gair cyfarwydd i bawb bellach.

Tyfai’r syndod â phob canlyniad. Llwyddodd un o’r dynion yn y stiwdio i ysgafnhau ysgafnhau’r tensiwn a phwysigrwydd y digwyddiad tyngedfennol drwy ailadrodd ‘If I were a betting man…’ y gwnâi hwn neu’r llall. Er pleidlais unwaith ym mhob cenhedlaeth ydoedd, gwerth cadw perbectif, mae pethau wedi bod mor chwerw’n ddiweddar.

Disgwyliais ddefnyddio cwsg fel arf i ddianc o drybestodau’r byd, Addroddais fy ngweddïau, gofynnais i Dduw wireddu’i gynlluniau, ac ac yna mynd i gysgu.

Croesewais gwsg fel hen gyfaill.

Dyna neithiwr.

Daw newid â’r wawr. Os plannwyd y syniad neithiwr, yna roedd hi’n bryd iddi flaguro’n wirionedd. Gobeithiais ar ôl deffro y cytunai’r bleidlais â’m hegwyddorion i. Dihunais mewn gwlad a oedd – wrth gwrs nid yn hollol unedig – ond yn llawn digon o bobl cyffelyb i minnau. Pobl a wrthwynebai imperialaeth newydd yr unfed ganrif ar hugain, a phobl a oedd wedi colli ffydd mewn neo-ryddfrydiaeth oherwydd nad oedd yn gwneud digon ar gyfer aelodau tlotaf y gymdeithas. Roeddem am greu cymdeithas i bawb.

Am y tro cyntaf, teimlais fel yr oeddwn yn perthyn yn fy ardal fy hun. Nid dieithryn oeddwn bellach. Am y tro cyntaf, gallaf edrych ar fy nghyd-genedl, a fy nghyd-Gastell-neddwyr ac ymfalchïo yn fy mhobl. Nid deilen brin oeddwn mwyach.

Dim ond y tri ohonom oedd yn y tŷ y bore hwnnw. Aeth gŵr fy mam i’r gwaith yn gynharach, er clywais i ef pan gwyliais y newyddion. Dim ond dau gafodd frecwast. Ni ddaw fy chwaer o’i gwely yn y bore, er gwaethaf mawred y bore hwn.

Fy nhasg ar gyfer y diwrnod oedd torri fy ngwallt. Menter ddi-nod ar ddiwrnod mawr, wn i ddim paham y gadewais y dasg tan heddiw. Ers mynd i’r brifysgol mae torri fy ngwallt wedi bod yn fyrdwn. Rydw i’n mwynhau mynd i dorri fy ngwallt ond, mae’n anhawster tu hwnt i fy aelwyd am ddau reswm. Mae’r ffaith y deuai’r gost o fy mhoced fy hun tra yn y brifysgol yn un ffactor na ddylid ei anghofio. Ond yn bwysicach, Dewiswch siop dorri gwallt -barbwr yn fy achos i – ac arhoswch yn ffyddlon. Gwerthfawrogent eich ffyddlondeb. Mae cael torri dy wallt mewn dinas newydd a dieithr yn her ac yn brofiad llawn ansicrwydd. Ni wyddwch beth i’w ddisgwyl o bob man, ac fe edrychent cyn ddieithried â’i gilydd, yn yr achos hwn y barbwr lleol yw’r dewis gorau. Un peth, yn sicr, a fyddai ar feddwl pawb, a nid y barbwr yw’r lle gorau i gael sgwrs wleidyddol. Ond dyna oedd fy ffawd.

Euthum i mewn i’r dref. Tref fechan a di-nod yw Castell-nedd i’r rhan fwyaf. Nid yw gwybodaeth amdani’n hysbys, boed eich bod yn frodor o’r ardal ai peidio. Dyma yw fy nghartref, gwerthfawrogaf y lle’n eironig-ddychanol, a phwysleisiaf ei dinodrwydd, gan mwyaf, er mwyn digrifwch. Er y dof o Gastell-nedd yn wreiddiol, nid oes gennyf lawer yn gyffredin â hi. I bob pwrpas dwi’n afiach o ddosbarth canol; yn fwy cyfforddus yn y Gymraeg; ar ben hynny yn Gristion efengylaidd sy’n barod bob amser i siarad am ei ffydd. Tra llwmGesyd y tri pheth hyn fi tu hwnt i ffiniau’r dref, ac eto mae’r cwm yn ddigon llydan i ambell i ddafad ddu borthi’r bryniau. . I ddweud y gwir, uniaethaf yn â’r cymoedd lle cefais fy ngeni na bro fy mebyd, ac ymfalchiaf i mi gael fy ngeni yn Ysbyty Glowyr Caerffili – sydd bellach yn angof – a gwn i fwy am draddodiad cyfoethog y glowyr na fy nhraddodiad fy hun.

Cerddais o’r car at Dai’r Barbwr. Roedd yr awyrgylch yn rhyfedd. Canodd gôr mud o bobl yr un gân noder yn niogelwch eu pennau, yn ceisio dyfalu harmoniau’u cyd-drefolion. Gwybûm sut oedd fy ardal i wedi pleidleisio, er mawr syndod, a gwybu pawb arall. Oherwydd ni wybûm pwy oedd wedi pleidleisio dros beth, ceisiais gadw fy nheimladau i fi fy hunan, fel y gwnaeth pawb arall.

Eisteddais.

Arhosais.

Roedd y newyddion ymlaen.  Wrth gwrs roedd y newyddion ymlaen. Er mai tref anadnabyddus ei gwleidyddiaeth yw hon, ffrwydrodd diddordeb gwleidyddol o ganlyniad i’n Vesuvius cyfoes – gwleidyddiaeth-un-mater. Gwyliodd pawb y newyddion. Roedd pawb yn arbenigwyr bellach, a barn gref oedd yr unig gymhwyster oedd ei angen. Cil-wyliodd pawb, mewn gwirionedd, er mwyn peidio â bradychu unrhyw wybodaeth am eu teimladau mewnol. Roedd ofn ar bawb yn gyhoeddus, ond yn breifat hyderus oedd pawb. Pleidlais ffyrnig oedd hon, a amlygodd ddiffyg undod ein cymdeithas.

Ceisiais beidio a thynnu sylw at y  ffaith fy mod i’n gwylio’r newyddion yn fanwl, rhag ofn i rywun ofyn cwestiwn felly cil-wyliais. Deuthum i dorri fy ngwallt. Gallaf edrych ar y newyddion wedyn yn ddidrafferth.

Arhosais i glywed ‘Next please’ yn dod o ochr arall y drysau pren steil western.

i mewn, ac eistedd yn y set. Gofynnai’r barbwr beth oedd angen arnaf eglurais, ‘Short back and sides please.’ Chwarae’n saff. Be’ yw’r ots? .

Un o’r manteision o gael dy wallt wedi’i dorri gan y dynion yma yw na falent awyr â gwagsiarad. Maen nhw yna i ennill arian. Os siaradent am unrhyw beth, pêl-droed neu banter gyffredinol y siop yw hwnnw. Mae’n gweddu i mi. I dorri fy ngwallt y deuthum, nid i ennill ffrind.

Ond, nid dyna oedd y drefn y bore hwnnw. Roedd heddiw yn fore newydd. Yn fore gwahanol i’r arfer. Pleidlais fwyaf eich bywyd? Roeddech yn mynd i drafod y canlyniad. Eisteddodd bleidlais ar flaen tafod holl bobl y dref, yn barod fel llew yn dilyn gasel; i neidio.

Gofynnodd barbwr: ‘So, what do you make of the result then?’

Oedais.

Ystyrir ffŵl tawel yn ddoeth, ond roedd rhaid ymateb, roedd ganddo siswrn a llond bwrdd o eitemau miniog, fel cyllyll ac un offeryn ac iddo fin awchlym eillio blew oddi ar groen yn ôl Geiriadur Prifysgol Cymru.

‘Well, I don’t really know, we’ve just got to see what happens.’

Mewn gwirionedd dweud dim byd.

Saib.

‘How about you?’

Cwrteisi yn fwy na dim. Ond roedd ychydig o chwilfrydedd yn y cwestiwn. Edmygais ddewrder y bonheddwr am godi pwnc mor ddadleuol.

‘Yeah, it’s a bit all up in the air at the moment.

Saib.

‘Nobody knows what’s going to happen now.’

Saib.

‘I didn’t vote for this, but I have to accept it.’

Saib.

Ceisiem ni’n dau osgoi dweud mwy, rhag ofn achosi storm.

Yna, dywedodd: ‘I guess I should maybe start learning Welsh.’

Ni ddisgwyliais weld ffrwyth fy ngobaith mewn lle torri gwallt.

Deuthum i dorri fy ngwallt unig, nid ennill cymrodyr. Roedd rhywun mor ddi-nod â barbwr o Gastell-nedd wedi sylweddoli bod angen dysgu Cymraeg i fod yn rhan o Gymru fydd, Cymru rydd. Wn i ddim sut y daethai i’r casgliad. Ond roedd rhyw ddewin a dieflig hud wedi gwneud iddo sylweddoli fod yr iaith yn werthfawr i’r wlad.

‘I’m glad to hear it. There are classes all over the place, and there are even a few thing online.’

‘I didn’t know that. I’ll probably have a look later.’

Gwenodd.

Gadewais y barbwr yn llon.

Mor debyg i’r gwir yw’r sgwrs hon. Cofiwch nad yw Cymru’n dueddol o bleidleisio o’i budd.

Estron wyf ar dir cyfarwydd; byth i ddychwelyd am hir. Efallai y dylwn ddarllen Camus.

Previous
Previous

Cerdd: Sul y Carnifal - Matthew Tucker

Next
Next

Adolygiad: Rhywbeth i’w Ddweud