Cerdd: Ti, hedyn bach - Ffion Bryn
Mae hi bob tro yn beth braf cael cyfraniadau gan bobl newydd ar Y Stamp a heddiw pleser o'r mwyaf ydi cynnig gwaith Ffion Bryn ger bron ein darllenwyr ffyddlon. Un o Lŷn ydi Ffion ac mae blas y pridd ar ei gwaith hi'n aml, a tydi'r gerdd hon ddim yn eithriad.
Ti, hedyn bach.
Ti, hedyn bach,
wedi dy blannu mor ddwfn yn y ddaear ddu,
paid â phoeni,
paid ag ofni,
gan mai ti yw fy hedyn bach i.
Swatia di yng nghrombil y clydwch
a gad y gweddill i mi.
Mi garia i’r bwyd i ti,
y maeth a’r dŵr,
i’th helpu i egino.
Hyn i gyd,
fy hedyn bach,
wneith dy helpu di i greu gwreiddiau
cryf
i chdi allu tyfu.
Pan wyt ti wedi tyfu digon,
paid ag ofni, hedyn bach,
cyn mentro allan i’r byd.
Ydi, mae o’n fawr,
ond wna’i dy warchod di
rhag y chwyn a’r drain a’r gwynt.
Wna’i ddim gadael i neb dy frifo,
na dy sathru na dy rwygo,
gan mai chdi, fy hedyn bach,
yw fy hedyn bach i.
Ond,
pan wyt ti’n ddigon hen
i’th betalau flaguro’n dlws
ni fyddi di f’angen i mwyach,
ddim cymaint beth bynnag.
Ond,
mi fydda i yma’n gyson,
os bydd y byd yn frwnt
a chdithau angen cymorth.
Gan mai chdi, fy hedyn bach,
Yw fy hedyn bach i.