Celf: Du a Gwyn - Aur Bleddyn
"Ma 'na ddarn yn y stori'n sôn am amser bath yn nhŷ nain, felly lluniais y ferch yn y bath 'ym mreichia du' ... fel 'se popeth yn iawn yn y bath, mae hi'n anghofio am realiti felly mae hi'n gwynebu i ffwrdd o'r du. Gwelir fod y 'du'n cael ei sugno ... mewn i 'ngwythienna', a'r unig liw ydy'r 'blew yn sythu fatha cae o wenith melyn' ar ei choesau".
Rydan ni wastad yn hoff iawn o dderbyn gwaith newydd gan artistiaid, a dyma ni wedi derbyn darn gan Aur Bleddyn sy'n ymateb i un o'r straeon a enillodd Goron Eisteddfod yr Urdd i Erin Hughes yn gynharach eleni.
Mi fydd rhifyn newydd Y Stamp, a hwnnw'n rifyn trymlwythog a llachar, ar gael erbyn diwedd yr wythnos mewn siopau ar draws y wlad ac wrth gwrs o'r wefan hon. Byddwn yn parhau i roi sylw i weithiau creadigol Eisteddfod yr Urdd yn y rhifyn arbennig yma ar fyd y theatr, gyda adolygiad o'r cyfansoddiadau llenyddol yn cadw cwmni i rai o'r campweithiau ddaeth o fewn trwch blewyn i'r brig.