Blog: Prosiect/Tionsnamh: Bendigeidfran - Bethan Ruth
Bendigeidfran — camu ar bont i ddatgelu byd newydd.
73 milltir sydd rhwng Caergybi a Dulyn, ond er i ni fod yn ddaearyddol mor agos, mae’n syfrdan nad yw’r Cymry a’r Gwyddelod yn gwybod llawer am ein gilydd. Gofynnwch i Gymro cyffredin, beth yw’r peth cyntaf sy’n dod i’r meddwl wrth feddwl am Iwerddon? — Guinness, tripiau rygbi, Sant Patrick efallai. Gofynnwch i’r Gwyddel cyffredin, beth yw’r pethau cyntaf sy’n dod i’r meddwl wrth feddwl am Gymru? Corau ac emynau, Tom Jones . . .gwybodaeth arwynebol iawn ar y ddwy ochr, gan feddwl ein bod yn gymdogion!
Mae gwagle mawr ar gyfer cyfoethogi dealltwriaeth o’n gilydd gan ddangos y dyfnder sydd i ddiwylliant Gwyddeleg a Chymraeg. Mae angen agor trafodaeth er mwyn gweld y paralelau rhwng y ddau fyd. Gyda Brecsit ar y gorwel, mae’n fwy pwysig nag erioed i godi ymwybyddiaeth a chreu deialog.
Yn ôl ym mis Awst 2017, mi fynychais i ŵyl Liú Lúnasa yn ninas Belfast. Yno cefais fy nghyflwyno am y tro cyntaf i’r gymuned Wyddeleg, ac fe wnaeth y profiad agor fy meddwl. Cododd fy ysbryd â’r gallu i freuddwydio am y Gymraeg mewn cyd-destun newydd. Ar ben gwneud ffrindiau a chael llawer o hwyl, roedd cyfarfod môr o unigolion gweithgar sy’n byw mewn cyd-destun ieithyddol tebyg, unigolion creadigol sy’n creu platfformau i leisiau ein cenhedlaeth ni, yn brofiad gwbl amhrisiadwy. Mae’n teimlo weithiau fel bod y Gymraeg wedi ei hynysu mewn diwylliant mwy, ac mae’n sefyllfa debyg yn Iwerddon. Mae llawer o brofiadau tebyg gyda ni.
Penderfynais fel Swyddog Rhyngwladol etholedig Cymdeithas yr Iaith Gymraeg 2018-2019 y dylid pontio ieuenctid gweithgar, creadigol y sîn iaith Gymraeg ag ieuenctid gweithgar, creadigol sîn yr iaith Wyddeleg trwy gynnal digwyddiad yng Nghymru ar y 27ain o Ebrill. Penderfynais alw’r diwrnod yn ‘Prosiect Bendigeidfran’ (Tiosnamh Bendigeidfran yn yr Wyddeleg) — yn benodol oherwydd i Bendigeidfran yn y Mabinogi droi ei hun yn bont a'n bod ni am bontio rhwng y ddwy wlad.
Bwriad y dydd yw arddangos y diwylliant cyfoes, gyfoethog, creadigol a byrlymus sy’n perthyn i’r ddwy iaith gan hefyd ddysgu am ffyrdd newydd o greu. Dwi wir yn credu bod ’na ofod mawr i’r math yma o brosiect. Rydym ni i gyd yn ymwybodol o’r gwyliau gwerin mawr — Lorient, Interceltique, yr Ŵyl Ban Geltaidd — digwyddiadau ble mae’n rhaid i ni chwarae mewn i’r ‘Celticness’ ’ma er mwyn gwneud cysylltiad —sy’n grêt yn ei le, ond mae eisiau codi ymwybyddiaeth trwy arddangos ac adlewyrchu diwylliant siaradwyr heddiw.
Fy ngobaith yw i bobl adael y digwydd yn teimlo wedi eu hysbrydoli. Credaf y byddai profiad y dydd yn rhodd i berson — enwedig i bobl ifanc gan ddangos y Gymraeg a’r Wyddeleg ochr yn ochr yn gyfoes ac yn hyderus. Rwy’n gobeithio y bydd yn plannu hedyn a chreu fforwm ar gyfer cydweithio’n y dyfodol gan godi ymwybyddiaeth o sut mae creu a mynegi eich hun a’ch celf mewn cyd-destun iaith leiafrifol.
I gael mwy o wybodaeth am amserlen lawn y dydd (a’r gig gwych gyda’r nos!), dilynwch y linc: https://www.facebook.com/events/292746674765850/
Gobeithio eich gweld yno i ymuno yn y ‘craic’ fel dwêd y Gwyddelod!