Cerddi: Lansiad Caryl Bryn - Beth Celyn ac Osian Owen
Prin ein bod yn medru coelio fod Y Stamp bellach yn cyhoeddi llyfrau! (a hynny heb ddima o bres cyhoeddus) Fel rhywun sydd wedi bod yn Stampus hefo ni ar hyd y daith peth braf iawn oedd mai cyfrol gan Caryl Bryn oedd y gyntaf i ddod o'r stabl. Mae 'Hwn ydy’r llais, tybad?' ar gael i'w brynu ar y wefan ac mewn siopau llyfrau.
Anodd ydi disgrifio pa mor hapus ydi'r Stampwyr oll ar achlysur fel hwn ac anos ydi disgrifio sut beth oedd y lansiad ond i'r anffodusion rai na allodd ddod draw i rannu yn y miri dyma gip i chi heddiw hefo dwy gerdd gyfarch, un gan Beth Celyn a'r llall gan Osian Owen.
Carmelyn
Rhwng y siocled cynnes
sgyrsiau hir a
siwrneau car hirach,
daethom ni'n ffrindiau,
yn crwydro Cymru
o Fangor Uchaf i
donnau uwch Llangrannog,
ein trydar trydanog
yn annog creadigrwydd,
bodlonrwydd,
a'r hyfdra i rannu
ein lleisiau'n gywiog,
yn gegog,
yn amherffaith
ond yn llawn,
a'n dawn i ddawnsio
i bob melodi a dafla
bywyd atom ni
yn ein cario
o leuad i leuad,
a phob troad newydd,
annisgwyl, yn ein
harwain ni nôl
i gyd-drydar yn eiddgar,
ein geiriau'n inc
yn gadael eu marc,
fel tatŵ parhaol,
yn treiddio'n ddyfn.
Beth Celyn
I gyfarch Caryl
Yng ngwaddol dy beint olaf,
mae agor briw, mae gwawr braf
bore’n hoes, a’r briwiau’n iach
oll, ac o’u gwneud nhw’n hyllach
drwy eu hagor, drwy regi
ar ddalen, dy awen di
heno sy’n cael ei geni.
Yn y gân mae blas y gwin,
hafau o grwydro pafin
y dre, a sodro awen
yr hwyr ar y muriau hen.
Tusw’n lludw. Lleuadau’r
bore gwyn a’r bar ar gau
ac yma’n oriau’r giamocs
‘os mêts, mêts’, mae ogla smôcs
dy Awst. Mae delwau distaw
ar lan môr llan, law yn llaw.
Mae troi’r rhod. Mae twrw’r ha’,
neu ysu am ’rha nesa’n
atgofion sydd yn cronni
yn win da’n dy wydryn di.
Dyna ni, dau gi â’u gwên,
yn hawlio un dudalen.
Dau di-ofn, dau ystyfnig
yn oriau mân chwarae mig.
Yn nhir neb tafarnau hen,
dau wobli, a dau’n dablen.
Sylwaist ar y gwir solet,
y gwir rhydd dros sigaret.
Un nos olau, fe sylwais,
draw i’r lloer…mai ‘hwn di’r llais…’
Osian Owen
A chofiwch gysylltu os oes gennych chi syniad am gyfrol a/neu bamffled!