Cerdd: Torrydd Eisteddfod - Rhys Trimble

yr eira a riraist

yr ia yn para

rhew yn rhigwm

eirlaw yn llawer

cenllysg ymhysg mwg

yn iasoer o blisgyn

yn toddi

ar y

tyddyn

hwn,

faith ogystal

i gysylltu a lludw

ymerodraeth

bylchau rhwng cerddi

dyhead i ddinistrio

bylchau rhwng dihuno a phleidio

chwyldroadau yn cyferbynnnu

gwrthrych ac goddrych

drych drycin

i rannu’r trigfannau hynny

dyst o grefft

plant ysgolion yn bennaf

ddi-dôr

drosglwyddwyd yr aderyn i’w feddiant

cofio

symudiadau llawr-gwlad Llyward

ddi-ynatod

sgrech yr isymwybod

lluched y camera

dinc rhwydd

crafanc a ffurfio

proestio’n atgyfnerthu

be fu ‘fleina

darn

dirdynol

ymyl

ffiniau

duon

pendantrwydd

a phoerau

ton o goronau

Previous
Previous

Cyfweliad a Chelf: Cryf fel llew - Bethan Mai

Next
Next

Cerdd: Kalamari - Caryl Bryn