Cyfweliad a Chelf: Cryf fel llew - Bethan Mai
Mae Bethan Mai yn arlunydd, yn actores, yn gantores, yn ddawnswraig ac yn ffeminist. Cawsom sgwrs gyda hi ynglyn a’i chredoau, ei phrofiad yn Women’s March Caerdydd ac am waith sydd ganddi ar y gweill.
Beth a’th ysgogodd fore Sadwrn i godi i ymuno gyda Women’s March Caerdydd?
Ro’n i moyn sefyll ochr yn ochr â menywod y byd yn erbyn pethau tywyll sy’n digwydd ym myd gwleidyddiaeth ar hyn o bryd, yn enwedig gan fod arlywydd gwlad mwya’ pwerus y byd yn un sydd ag amharch erchyll at fenywod ac unrywun sy ddim yn ddyn gwyn, straight a chyfoethog ac mae hefyd ganddo amharch llwyr at natur a’r amgylchedd hefyd, sy’n frawychus. Yn ogystal â hyn, roedd teimlad bod ni’n grac am bethau sy’n mynd mlaen yn ein llywodraeth ni yma, a ishe dangos bod croeso i ffoaduriaid, pobl hoyw a hawliau merched ac i ddathlu bod ni’n greaduriad anhygoel a dyle ni ymladd i gadw’n hawliau a charco’n gilydd.
Sut awyrgylch oedd yno?
Gobeithiol a gogoneddus. Teimlad calonogol ar ôl teimlo’n eitha’ trist am yr holl beth, a bod un peth posatif wedi dod o’r holl bethau tywyll gwleidyddol yma- bod ni’n dechrau codi llais ar ôl aros yn dawel am sbel. Braf teimlo bod gobaith bod newid yn bosib, gyda pob oedran yn cerdded. Golles i’n llais erbyn y diwedd.
Mae dy waith celf yn aml yn dathlu arwresau cryfion – beth a’th ysbrydolodd i greu y gyfres ‘Cryf Fel Llew’?
Dyw’r cyfryngau byd eang ddim yn neud jobyn digon da o ddangos menywod fel pobl cryf, diddorol, lliwgar gydag awch. Mewn oes lle ma cylchgronnau a’r wasg yn canolbwyntio ar sut mae’r ferch yn edrych a dim cryfder eu hysbryd, fi moyn cynnig pin-ups o fath gwahanol, rhai cryf sy’n ysbrydoli. Yn ogystal â hyn, ma’r ffaith bod cyment o arwyr hanesyddol gwrywaidd yn cael eu dathlu may na menywod yn cythruddo fi. (Mae’r gair Saesneg am hanes yn ychydig bach o give away o hyn- “his” story.)
A sut wyt ti’n dewis pwy wyt ti eisiau ei darlunio?
Fi ddim felse fi’n dewis y menywod- ma’ nhw fel bo nhw’n dewis fi! Pobl o Bjork i Malala i’r Dywysoges Gwenllian, ma’ nhw’n rhai sy wedi sticio yn fy mhen am fod yn hollwych am wahanol rhesymau, ac yn rhai fi’n mwynhau rhannu eu hanes a pobl sy ddim yn gyfarwydd. Ma cyment mwy ar y rhestr i bortreadu nesa.
Y peth fi mwya balch ohono yw gweld bachgen bach gwych 4 mlwydd oed yn cael ei ysbrydoli gan y casgliad, a fel canlyniad, rwy’n clywed hanesion amdano gan ei rhieni pob hyn a hyn ohono fe’n datgan ei ddoethinebau lu fel “dyw Kate Bush ddim yn princess, ma hi’n ddewr a cryf fel llew!” Mae pwer celf yn gallu bod yn enfawr!
Oes gennyt ffefryn?
Gwenllian. Ma’i stori hynod a’i chryfder hi wastod wedi ysbrydoli fi, a hi odd man cychwyn y project Cryf Fel Llew. Hi yw gwir ystyr tywysoges, nid y ddelwedd o dywysoges binc sy mor gyfarwydd i blant.
Sut le yw dy stiwdio a’th ofod gweithio?
Fi mewn hen container llong mewn stad bach o’r enw y “Bone Yard” yng Nghaerdydd ar hyn o bryd, ond wythnos ‘ma fi’n symyd mas i fan gwyn man draw, watch this space!
Gyda thithau’n gantores hefyd, beth yw dy hoff ffordd o fynegi dy hun, a pham?
DAWNSIO! Er bo fi ddim yn ddawnswraig brofesiynnol na unrywbeth, dawnsio yw’r ffordd gore o deimlo rywbeth!
Celf a cerddoriaeth yw’r gwrthwyneb i’w gilydd- y cynta’n dawel a mewnblyg ac un yn swnllyd ac allblyg, a gallen i ddim fod heb un ohonyn nhw – ma’ nhw’n bwydo ei gilydd.
Pa brosiectau eraill sydd gennyt ar y gorwel?
Yn gerddorol, fi’n gigio gyda Rogue Jones a Huw M, a fi newydd orffen project cerddorol solo, sy’n cael ei ôl-gynhyrchu nawr, a wedyn mynd nôl i’r stiwdio da Rogue Jones.
O rhan celf- fi mynd i wneud llyfr eleni a ‘neud mwy o grysau-t – ma nhw’n ffordd da o gael slogans a pobl cryf mas rownd y lle! A neud mwy a mwy o fenwod cryf i ychwannegu i’r casgliad.
Fi hefyd yn ‘neud ambell i jobyn actio ar y foment, ond wastod yn cadw sketch book da fi yn barod i fenywod gwych i ymddangos yn brains fi!
Gallwch weld mwy o waith celf Bethan Mai ar ei gwefan: http://morgimorgi.com a dilyn datblygiadau’r albwm newydd wrth ei dilyn ar Twitter: @Bethan_Mai