Cerdd: Traeth Cariadon - James Horne

'Un diwrnod, mi fûm ar draeth Llanddona efo fy nghariad, achos roedd o eisiau dangos ei bentref i mi ac fe wnaeth o ddweud bod y traeth yn bwysig iawn iddo. Y noson honno breuddwydiais i 'mod i ar y llwybr pren ac yntau ar y traeth y tu draw i'r gwair. Roedd y gwair yn ymddangos fel ffin rhwng y byd dynol a byd yr ysbrydion, ac felly ro’n i’n edrych ar ei enaid cyn croesi’r gwair i'w weld yn gorfforol ar ddiwedd y gerdd.'

Traeth Cariadon

Dwi'n gallu gweld y môr,

Gall enaid hefyd,

Dwi'n gallu teimlo’r ddaear oddi tanof,

Gall enaid hefyd,

Dwi'n gallu chwarae yn y glaswellt,

Gall enaid hefyd,

Dwi'n gallu dychmygu byd newydd,

Gall enaid hefyd,

Dwi'n gallu gweld ffigur,

Gall enaid hefyd,

Dwi'n gallu teimlo'r cysylltiad,

Gall f'enaid hefyd,

Dwi'n gweld cariad,

Gall ei enaid hefyd.

-----

Daw James Horne o Swydd Efrog ac mae'n astudio Ffrangeg ac Almaeneg ym Mhrifysgol Bangor. Dechreuodd ddysgu Cymraeg ym mis Mai 2019 ar ôl cael ei gyflwyno i'r iaith gan ei gariad. Ers hynny, ei ddymuniad yw dod yn athro ieithoedd trwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae'n ysgrifennu barddoniaeth i'w helpu wrth ddysgu'r iaith.

Llun: Steve Parkinson

https://creativecommons.org/licenses/by-nc-nd/2.0/legalcode

Previous
Previous

Cerdd: Prexit - Llio Heledd Owen

Next
Next

Stori fer: Y Goeden - Eluned Winney