Dathlu: Uchafbwyntiau 2019 - Y Golygyddion

Wel, dyma 2019 yn tynnu at ei therfyn. Bu'n flwyddyn o newid mawr yn Y Stamp, wrth i ni ffarwelio efo Miriam Elin Jones fel golygydd, a chroesawu Esyllt Lewis i'n plith. Ehangwyd ochr gyhoeddi'r fenter, gyda Cyhoeddiadau'r Stamp yn mynd o nerth i nerth. Cyhoeddwyd y tri rhifyn arferol, gyda rhifyn arbennig Ty Newydd yn dod yn mis Medi. Gwelwyd y cylchgrawn hefyd yn ehangu'r ddarpariaeth gelf weledol, gyda lock-in stampus Felindre yn lansio rhifyn 8 efo cyfuniad o gelf weledol, llenyddiaeth a drama.

Celf Lleucu Non: Ailddychmygu'r Stamp. Rhifyn 8.

Dyma'r golygyddion i son am eu huchafbwyntiau personol nhw o'r flwyddyn a fu:

Grug Muse

Mi fuodd 'leni yn flwyddyn reit wyllt i'r Stamp, efo nifer o fentrau newydd, ond y cylchgrawn yn mynd o nerth i nerth. Roedd yna nifer o uchafbwyntiau, gan gynnwys rhoi rhifyn arbennig Ty Newydd at ei gilydd yn ystod ein hencil yno yn mis Medi. Roedd o'n benwythnos llawn hwyl, a chafwyd sgyrsiau difyr am gyhoeddi annibynol yn y Gymraeg.

O ran y cylchgrawn, mae hi wedi bod yn braf cyflwyno eitem newydd, sef ein heitem o gyfieithiadau o lenyddiaeth Eingl-Gymreig. Mae hwn yn gyfeiriad newydd i'r cylchgrawn, a dwi'n edrych ymlaen at weld yr eitem yn datblygu yn y flwyddyn newydd.

Menter arall a wnes i ei mwynhau yn arw oedd yr wyl Insta-farddoniaeth ym mis Hydref. Cefais flas amheuthun ar y gwaith a ddaeth i law, a rydw i wedi mwynhau parhau i ddilyn cyfrifon yn insta-feirdd gymerodd wedyn.

insta-gerdd gan Morwen Brosschot

Iestyn Tyne

Mae hi wedi bod yn fraint fawr cael Esyllt Lewis yn ymuno â ni fel cyd-olygydd eleni; ac mae hi wedi bod yn arbennig o braf gweld yr elfen gelf weledol o'n darpariaeth yn gwella ac yn cryfhau gyda'r arbenigedd y mae hi'n ei gyfrannu i'r tîm stampus, at y cylchgrawn a'r cyhoeddiadau.

Eleni y gwelwyd menter gyhoeddi annibynnol Cyhoeddiadau'r Stamp yn magu stêm o ddifri, gan gychwyn ym mis Ebrill gyda chyfrol gyntaf Caryl Bryn, Hwn ydy'r llais, tybad?. Penllanw blwyddyn o waith caled ar y cyhoeddiadau oedd gweld Morgan Owen yn derbyn cydnabyddiaeth deilwng trwy gipio Gwobr Michael Marks am Farddoniaeth yn yr Ieithoedd Celtaidd am ei bamffled, moroedd/dŵr. Roedd hi'n arbennig o braf gweld y cylch yn cyfannu yn achos Morgan a Caryl, dau fardd a gyhoeddodd eu gwaith yn ein rhifyn cyntaf erioed o'r Stamp, reit nôl yng Ngwanwyn 2017.

Uchafbwynt (cynnar) fy mlwyddyn, fodd bynnag, oedd treulio mis Chwefror yn ei gyfanrwydd yn dathlu mis hanes LHDTC+ ar ein gwefan. Anodd fyddai dewis un uchafbwynt o blith mis o uchafbwyntiau, ond rhai o'r darnau a gafodd yr argraff fwyaf arna i oedd Rhestr Ddarllen: LHDTC+ - Mair Jones, Ysgrif: Dyfodolegau ar y Cyrion - Dylan Huw, a Celf: Aralledd yn y Gymru Wledig - Heledd Williams.

Llŷr Titus

Mae meddwl am uchafbwynt yn beth anodd a hynna am fod cymaint o bethau yn aros yn y cof. Eto’i gyd mae yna ambell beth yn fymryn amlycach na’i gilydd. Yn bennaf mae’r penwythnos gwyllt a gwych yn Nhŷ Newydd lle’r ces i’r fraint o ymuno hefo criw yn llawn creadigrwydd a rhoi rhifyn dwi’n wironeddol falch ohono at ei gilydd. Mae mynd i Dŷ Newydd yn fodd o jarjio batris bob amser ond roedd y penwythnos hwn yn ffisig go iawn. Nid pawb sy’n gallu dweud iddyn nhw roi rhifyn werth ei ddarllen at i gilydd mewn noson ond mi fedrwn ni, a mi gofiai fwrlwm y penwythnos hwnnw am yn hir iawn.

Mi ges i’r fraint o gynorthwyo Grug yn llywio cyfrol hardd Morgan Owen Bedwen ar y Lloer drwy’r wasg eleni hefyd. Mae Morgan wedi bod yn cyfrannu at Y Stamp ers y cychwyn cyntaf felly peth braf iawn oedd ei weld o’n cyhoeddi ei gyfrol gyntaf hefo ni. Roedd o’n brofiad gwerth ei gael a pheth braf iawn oedd cael lansio ym Merthyr, ardal yr oeddwn i wedi dod i nabod rhyw wedd arno fo drwy’r cerddi. Tra’r yda ni’n sôn am gyhoeddi mi oedd cael cyhoeddi sgript fy nrama Adra i gyd-fynd hefo perfformiad Cymdeithas John Gwilym Jones ohonni yn uchafbwynt personol iawn hefyd. Roedd hynny’n bennaf am ein bod ni fel gwasg wedi cyhoeddi sgript sydd yn beth rhy brin o’r hanner wedi mynd (a doedd o’m yn ddrwg o beth mae’n siwr mai gen i oedd o).

Profiad rhyfedd ar un wedd ond braf iawn oedd bod yn rhan o sgwrs yn ystod Eisteddfod 2019 yn trafod hunangyhoeddi hefyd. Nes i rioed feddwl pan wnaethon ni ddechrau arni hefo’r Stamp y byddai gwahoddiad yn dod i ni gynnal panel yn y Babell Lên. Nid hynny’n union oedd yr uchafbwynt chwaith ond yn hytrach cael cyfarfod hunan-gyhoeddwyr yr oeddwn i’n edmygu eu gwaith nhw a chael sgwrsio hefo nhw. Rhyw bethau felly sy’n annog rhywun i ddal ati ac mae rhannu syniadau ac ysbrydoliaeth hefo pobol o anian debyg wastad yn brofiad gwerth ei gael.


Esyllt Lewis

Mae wedi bod yn brofiad eitha anhygoel ymuno gyda chriw golygyddol Y Stamp eleni, ac mae’n sicr wedi bod yn un o’r pethe caleta ond mwya’ gwerthfawr yr wyf wedi eu gwneud erioed. Doeddwn i ddim yn llawn werthfawrogi pa mor weithgar a brwdfrydig oedd criw Y Stamp cyn dechrau golygu, brwdfrydedd sydd wedi ysgogi ffrwd newydd o gyhoeddi annibynnol creadigol Cymraeg. Diolch i’r lleill am groesawu fi a gadel i fi neud yr hyn a fynnwn gyda ’nghyfran i o’r gwaith – mae wedi bod mor braf cael y rhyddid creadigol sy’n dod gyda bod yn gyhoeddiad annibynnol.

Llun: Garmon Roberts o'i gyfres o flogiau

Peth amhosib bron yw dewis uchafbwyntiau o holl stwff 2019 sy’n cynnwys:

3 cylchgrawn swmpus;

cyfraniadau wythnosol i’n gwefan - pethe newydd, diddorol gan gyfranwyr o bob rhan o Gymru, nifer heb ysgrifennu ers dyddiau ysgol;

9 cyfrol ffres o ffwrn Cyhoeddiadau’r Stamp;

a lansiadau a gweithdai a sesiynau arbrofol, ysgogol.

Ond iawn, rhaid dewis cwpwl o bethe, dyna beth yw job golygydd lol. Felly dyma’r top three:

  1. Cydweithio gyda dros 30 o artistiaid gweledol a phobl greadigol o Gymru a thu hwnt, a datblygu’r drafodaeth am gelf yn Gymraeg. Uchafbwynt oedd ysgrif Peter Lord yn trafod darlun ‘Salem’ yn rhifyn diweddaraf Y Stamp.

  2. Golygu a churadu dau bamffled o gelf gwahanol. Y cyntaf – ‘dim eto’ - yn bamffled o gelf ‘wrthodedig’, gwaith a gafodd ei wrthod gan 13 o artistiaid gorau Cymru, ynghyd â rhagair disglair Dylan Huw am bŵer dweud ‘na’. A’r ail – casgliad o collages gwych Llinos Anwyl, ‘hen bapur newydd’, cyfle i roi bywyd ffisegol i’r delweddau radicalaidd sy’n boblogaidd yn rhithfyd instagram. Y ddau ar gael rwan.

  3. Lansiad Rhifyn 8 Y Stamp, sef lock-in creadigol dros nos yn neuadd bentref Felindre, Abertawe – lle daeth 9 o unigolion creadigol yn cynnwys cerddorion, actorion, beirdd, awduron ac artistiaid ynghyd i greu gwaith newydd dros nos i’w ddangos i’r cyhoedd mewn lansiad arbennig o’r cylchgrawn y diwrnod canlynol. Boncyff. Roedd hi’n braf gallu meddiannu gofod gymunedol er mwyn rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned.

Delwedd o Erthygl Peter Lord, 'Deffrwch y Bastads' am eiconograffi darlun 'Salem'.

Mae cymaint i ddod. Harddwch Y Stamp yw bod gofod i unrhyw un gyfrannu a bod yn rhan o’r hyn ni’n neud, felly plîs cefnogwch a chyfrannwch! Mae angen creadigrwydd yn fwy nag erioed; deffrwch y bastads at y ddegawd newydd ac yn y blaen ac yn y blaen ayyb.

Ymlaen

Previous
Previous

Wrth dy grefft: Brawddegau - Llŷr Gwyn Lewis

Next
Next

Cerdyn Post Creadigol: Chubut - Grug Muse