Cerdyn Post Creadigol: Chubut - Grug Muse
Un o'r golygyddion yrrodd y cerdyn hwn draw o ben arall y byd, lle mae hi'n wanwyn a'r dyddiau'n mystyn.
Monjas yn y tulipanes
Trevelin
Mae nhw’n felyn, coch a phinc –
yn borffor-ddu fel mwyar, lliw
bricyll, lliw sych-felys gwelw’r
gwin. Mae’n nhw’n drilliw ac yn sgarlad
ac mae’n nhw’n siglo yn y gwynt,
yn pendilio’n bendrwm chwil
ar goesau main, petalau
wedi cwpanu’n gusan.
Ac mae’r lleianod yn cysgodi
dan goed y berllan, yn eu dillad llaes
a’i sgidiau call. Maent yn chwys i gyd,
buasent allan dan danbeidrwydd haul y pnawn
yn casglu blodau. Eu sgertiau du yn baill i gyd,
eu breichiau’ n llawn o’r melyn,
coch a phinc.
Pysgotwyr
wrth borth Rawson.
Mae’r llynges wedi’w hel yn dwt i’w harbwr,
yn rhesi taclus, syth o longau llachar;
Siempre Don Vicente, El Tehuelche,
Mario, Caliz a Don Guiseppe.
Eu rhwydi wedi lapio, a’r llwyth
wedi ei gludo ar y lan a’i gario ymaith.
Am heno, maent yn llonydd.
A’r achor draw i’r afon
mae’r pysgotwyr, yn foldew ar y traeth,
yn rhochian chwyrnu.
Yn pwyso ar eu gilydd, un bach yn sugno
o deth ei fam, a’r tarw’n cysgu
â un llygad ar y llwyth.