Ysgrif: 1 car, 2 ddyn, siwrne eithafol - Garmon Roberts

Y cyntaf mewn cyfres o flogiau a ffotograffau gan Garmon Roberts, a fydd yn mudo ar draws cyfandiroedd yr haf hwn, fel rhan o rali hynod hynod....

Ym mis Gorffennaf eleni, mi fyddai’n gyrru bron hanner ffordd rownd y byd mewn car 1000cc gyda’m ffrind Rhys. Does dim llwybr caeth, dim cymorth - jyst Volkswagen Polo ugain mlwydd oed, llawn ramen noodles.

Gelwir y ras tros-gyfandirol yma y ‘Rali Mongol’. Dechreuir ym Mhrag, Czechia ar Gorffenaf 22ain a gorffen yn Ulan-Ude, Gweriniaeth Rwsia. Ma ’na ddisgwyl i’n siwrne ni bara tua 7 wythnos. Mi fydd yna gwmni, gyda dros 400 tîm arall, pob un yn codi arian ar gyfer elusennau amrywiol. Disgwylir i bob tîm godi £1000, a bydd hanner y swm yma yn mynd at elusen dynodedig y cwmni trefnu ‘The Adventurists’, Coolearth yw’r dewis eleni. Maent yn gweithio gyda chymunedau brodorol i atal datgoedwigo coedwigoedd glaw. Yr ail elusen ydy Tŷ Hafan, elusen lleol sy’n gweithio gyda phlant mewn hosbisau yng Nghymru.

O Brague rydym yn gadael tuag at y Balkans, yna lawr at Twrci, croesi môr y Caspian o Azerbajian i Turkmenistan, trwy Uzbekistan, Tajikistan, Kyrgyzstan a Kazakhstan, wedyn drosodd i Rwsia, stepdiroedd Mongolia ac yn olaf 300 milltir i’r gogledd o Ulanbataar i Ulan Ude, De Siberia.

Ffotograffiaeth ydy fy mhrif ddiddordeb. Rydw i wedi cynnal arddangosfa yn y gorffennol ar gyfer MadeinRoath yng Nghaerdydd ac yn gobeithio nad hwnnw fydd yr ola. Wrth drafaelio, y bwriad ydy tynnu lluniau o'r cymunedau a’r diwydiannau gwahanol y byddai’n eu gweld ar y ffordd. Rwy’n cymeryd lluniau ar ffilm achos dwi’n caru’r broses; y disgwyl, y lliwiau. Rwy’n cymryd lluniau digidol achos y cyfleustra.

Y bwriad yw anfon llunie o’r trip nôl adre er mwyn gallu cario mlan gyda’r blog yma! Dyma lun a dynnais pan oeddwn ar antur o gwmpas Gogledd Cymru. Arbrofais gyda drychau i gal effaith caleidosgopig. Y flwyddyn hon, tirwedd llechi'r Gogledd ydy prif enwebiad y Deyrnas Unedig i dderbyn statws UNESCO World Heritage Site. Dwi'n methu aros i dynnu lluniau safleodd dynodedig UNESCO wrth drafeilio, gan gynnwys Cappadoccia, rhwydwaith y ‘Silk Road’.

Fel milflynydd, dwi’n awyddus i wario’r swm o arian dwi ‘di safio o weithio ar ôl coleg ar brofiadau bythgofiadwy yn hytrach nag ar wrthrychau materol. Yn sicr, trafeilio yw’r ‘in thing’ dyddie yma. Diddordeb fi a Rhys mewn daearyddiaeth sydd wedi ysgogi’r trip yn rhannol, ac mae gweld y gwledydd anadnabyddus ac astrus yma yn cyffroi’r ddau ohonom. Does dim lot o bobl yn wybodus ynglŷn ag enwe neu leoliade’r gwledydd, heb sôn am eu diwylliant.

Gall Kazakhstan gynnig gymaint fwy i ni na ffraetheb o gymeriad Sacha Baron Cohen. Ma’r wlad yn anfferth, gydag un ochr y wlad i’r llall yn ymestyn yr un pellter â Llundain i Istanbul.

Dydw i erioed wedi bod mor gyffrous am siwrne yn fy mywyd, ond hefyd heb fod mor bryderus chwaith. Poeni am golli pawb adre, gwres mis Awst yn Nhwrci, oerfel yn Siberia, y visas a’r jabs, y tollffyrdd ffug, y tollffyrdd go iawn, rhedeg mas o betrol ym mynyddoedd y Pamir, neu dorri lawr cyn cyrraedd Calais.

Ma ’na gymaint i edrych ymlaen ato gyda’r mudo hwn. Parti ym Mhrag gyda’r ~400 tîm arall ar y llinell ddechre, y basarau a’r marchnadoedd, Llyn Baikal, cantorion gwddw Tuva a ‘Giât Uffern’ Dravaza i enwi mond cwpwl. Rhwng popeth fydd angen sawl rôl o ffilm arnai!

Dilynwch @teamralirwdins am y diweddaraf o’r siwrne.Y tîm, Garmon Roberts (Chwith), Volkswagen Polo 2000 1L, Rhys Tudor (Dde).

Previous
Previous

Ysgrif: O dan yr awyron hyn - Sara Borda Green

Next
Next

Ysgrif: Y ddinas hir - Morgan Owen