ARCHIF
~
ARCHIF ~
Cylchgrawn creadigol Y Stamp oedd man cychwyn Cyhoeddiadau’r Stamp. Cyhoeddwyd 11 rhifyn print llawn a 2 rifyn arbennig rhwng 2017 a 2021, ond roedd Y Stamp hefyd yn ofod ar-lein, a chyhoeddwyd ymhell dros 300 o ddarnau o waith ar ein gwefan yn ystod yr un cyfnod, ac yn ychwanegol at ddeunydd y rhifynnau. Er nad ydym bellach yn cyhoeddi gwaith creadigol ar lein yn wythnosol, ac yn dilyn gorfod newid darparwyr gwefannau, rydym wrthi ar hyn o bryd yn ailgyhoeddi’r archif helaeth hwn o waith, fel ei fod ar gael i bawb. Gallwch ffiltro’r cynnwys trwy glicio ar y categoriau isod, neu sgrolio drwy’r cyfan ar y dudalen hon.
Os ydych angen copi o ddarn a gyhoeddwyd ar-lein ond nad yw eto wedi ailymddangos yma, cysylltwch a ni: cyhoeddiadau.ystamp@gmail.com
POPETH / Adolygiadau / Amrywiol / Barddoniaeth / Cardiau Post Creadigol / Celf / Cyfweliadau / Rhestrau Darllen / Rhyddiaith Greadigol / Ysgrifau
CATEGORIAU ARBENNIG: MIS HANES LHDTC+ 2019 / MIS MUDO / GŴYL INSTAGERDDI 2019 / MIS BACH GWYRDD 2020
Ysgrif: Beth, ti'n bwyta - Bethan Sleep
Mewn caffi Ffrengig yn Melbourne, weles i eirie craff Virginia Wolf: ‘One cannot think well, love well, sleep well, if one has not dined well.’ Mae'r dyfyniad yma wedi aros gyda mi tra'n teithio.
Cerdd: Bae Onuku, Dydd Gŵyl Dewi 2019 - Elen Ifan
Cyrn carw o froc môr,
Llysywen o wymon fel lledr
a'i gwreiddiau yn grimp yn y gwres,
hanner asgwrn wedi’i dorri,
a chregyn lliwgar yn disgleirio’u glesni yn yr
haul.
Ysgrif: O dan yr awyron hyn - Sara Borda Green
Ers rhywfaint o amser, degawd efallai, rwyf wedi bod yn ymwybodol bod gennyf obsesiwn â’r cysyniad o amser a’r gwahanol brofiadau sydd yn deillio ohono. Mae’r diddordeb yn cynnwys safbwynt meicro fel y profiad o lif amser yn fy arddegau fel rhywbeth dwys a sefydlog, hyd at y teimlad o freuder neu fertigo yn ddiweddarach.
Ysgrif: 1 car, 2 ddyn, siwrne eithafol - Garmon Roberts
Ym mis Gorffennaf eleni, mi fyddai’n gyrru bron hanner ffordd rownd y byd mewn car 1000cc gyda’m ffrind Rhys. Does dim llwybr caeth, dim cymorth - jyst Volkswagen Polo ugain mlwydd oed, llawn ramen noodles.
Ysgrif: Y ddinas hir - Morgan Owen
Mae rhai profiadau mor amheuthun fel eu bod nhw’n cael eu hanghofio ar unwaith, bron, fel pe baent yn rhy beryglus o swynol i’w codi o’r gorffennol; fel pe byddent yn peri gormod o ddadrith i rywun ym mhydew ei fyd go iawn, normal.
Cyfweliad: Celf Mwydyn y Glust - Freya Dooley
Mae’n ymwneud â stori Echo o Fytholeg Groegaidd, wedi’i blethu gyda straeon eraill am fenywod mewn diwylliant cyfoes sydd hefyd wedi colli eu lleisiau, boed yn llythrennol neu’n ffigurol. Yn y prif ofod, mae yna gomisiwn ffilm newydd o’r enw ‘The Host’, gosodiad ffilm tair sianel, a phrint mawr o wm cnoi.