Ysgrif: Y Beibl(au) Cymraeg | A yw pob cyfieithiad yn dal yn berthnasol? - Gruffydd Rhys Davies

Petawn yn gofyn i chi efelychu ‘iaith y Beibl’, tybed pa fath o iaith fyddech chi’n ei ddefnyddio? Yn ddiweddar, digwyddais wylio bennod o’r gyfres Americanaidd boblogaidd, Friends, pan mae un o’r cymeriadau, Monica, yn esgus ei bod yn weinidog ar eglwys er mwyn gwella’i gobeithion o gael mabwysiadu plentyn. Wrth actio’r rôl hon, honnai ei bod yn dyfynnu o’r Beibl wrth dweud ‘And behold, she did adopt unto them a baby,’ ac mae’r arddodiad hynafol ‘unto’ yn nodweddiadol iawn o gyfieithiad y Brenin Iago (the King James Version). Cyhoeddwyd y cyfieithiad hwnnw ym 1611, tua’r un cyfnod wrth gwrs â Beibl William Morgan, a gyhoeddwyd ym 1588 ond a ddiwygiwyd ym 1620. Pa eiriau fydden ni, Gymry, yn eu defnyddio wrth efelychu ‘iaith y Beibl’ felly? Yn sicr, byddai ‘canys’, ‘eithr’, ‘wele’ ac ‘oblegid’ yn codi eu pennau yn ddigon rheolaidd, ac hefyd felly gymalau megis ‘efe a aeth’ a ‘hi a ddywedodd’. Y tro nesaf y byddwch yn llenwi croesair Cymraeg a bod un o’r cliwiau yn ddyfyniad o’r Beibl, mentraf ddweud ei bod yn debygol iawn fod y cliw yn seiliedig ar gyfieithiad Morgan.

Y gwir yw ein bod yn tueddu i feddwl fod iaith Cristnogaeth yn perthyn i’r gorffennol. Gan mor amlwg fu Cristnogaeth, a’r Beibl hefyd felly, yn ein gwlad ni ar hyd y canrifoedd, mae cenedlaethau o Gymry wedi cael eu magu yn sŵn Beibl William Morgan. Roedd dysgu adnodau (o gyfieithiad Morgan) yn rhan amlwg o weithgareddau’r eglwysi yn y gorffennol, yn wir dyna sy’n dod i feddwl llawer iawn o Gymry wrth feddwl am y ffydd. Ond nid yn unig y capelwyr a’r eglwyswyr sydd wedi cael eu dylanwadu ganddo ychwaith, yn wir y mae ei ddylanwad yn fawr ar yr iaith Gymraeg yn gyffredinol. Bu’r dylanwad yn amlwg yn ein hiaith lafar, fel y dywed Huw Jones ‘Ychwanegodd y Beibl Cymraeg (cyfieithiad Morgan) yn ddirfawr at y cyfoeth o idiomau oedd yn gynhenid yn y Gymraeg. Bu’n chwarel idiomau heb ei thebyg i’r Cymro’.[1] Aiff yn ei flaen a dweud ‘daethant yn rhan naturiol o’r iaith lafar ac o iaith ein llên’ ac aiff Syr Glanmor Williams gam ymhellach gan ddweud mai cyfieithiad Morgan oedd ‘gwir sylfaen llenyddiaeth Cymru fodern’.[2]

Fodd bynnag, nid cyfieithiad Morgan yw’r unig gyfieithiad Cymraeg o’r Beibl bellach. Bu sawl ymdrech ar gyfieithu rhannau o’r Beibl a llyfrau unigol ohono cyn y daeth cyfieithiad newydd o’r Testament Newydd ym 1975. Cyfieithwyd yr Hen Destament hefyd ac erbyn 1988, cyhoeddwyd y Beibl Cymraeg Newydd yn ei gyfanrwydd. Fel sy’n digwydd yn aml wrth gyfieithu’r Beibl, gwelwyd fod yn y cyfieithiad hwnnw wendidau y byddai modd eu gwella, ac felly cyhoeddwyd argraffiad diwygiedig o’r cyfieithiad hwnnw yn 2004. Cyfieithiad yw hwn mewn Cymraeg safonol, cyfoes. Ychydig dros ddegawd yn ddiweddarach, cyhoeddwyd cyfieithiad newydd arall, beibl.net (a ryddhawyd eisoes fesul tipyn dros y we); dyma gyfieithiad mewn iaith lafar sy’n gwerthu ei hun ‘yn berffaith i bobl ifanc, i ddysgwyr ac i Gymry o bob oed sydd am ddeall neges y Beibl yn well.’[3] Yn 2015 y cyhoeddwyd yr argraffiad cyntaf ohono, ac Arfon Jones oedd yn gyfrifol am y gwaith cyfieithu. Felly, a ninnau’n ddigon ffodus bellach o gael sawl cyfieithiad cyfan o’r Beibl yn y Gymraeg, sut allwn ni fanteisio ar gryfderau pob un ohonynt? A yw un wedi dod i gymryd lle’r llall, ynteu a ddylid eu defnyddio ochr yn ochr? Dyna rai o’r cwestiynau sy’n codi i eglwysi, sefydliadau Cristnogol ac unigolion y dyddiau hyn, a dyna ganolbwynt yr ymchwil yr wyf i’n ei wneud yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth ar hyn o bryd. Rwyf yn canolbwyntio ar yr argraffiadau diwygiedig o Feibl William Morgan (1620), y Beibl Cymraeg Newydd (2004) a hefyd ar beibl.net (2015) a chredaf fod gwerth cyfoes i bob un ohonynt. Y gobaith yn yr ysgrif fer hon yw rhoi syniad cryno iawn i chi o’r math o ystyriaethau sydd yn y maes hwn. Mae cymaint mwy y gallwn eu trafod, o bethau syml megis treiglo enwau a ffurfiau gwahanol berfau, i bethau mawr a dyrys sy’n hollti barn diwinyddion, [4] ond gobeithio fod yma ambell enghraifft ddiddorol.

Yn aml iawn, gwelir fod cryfder rhywbeth neu rywun hefyd yn wendid iddo, ac mae hynny yn sicr yn gallu bod yn wir am y cyfieithiadau. Byddai rhai yn dweud mai cryfder cyfieithiad Morgan yw ei fod yn gyfieithiad llythrennol – gwelir ymdrech i ddod â’r Gair o’r ieithoedd gwreiddiol i’r Gymraeg gan amharu cyn lleied â phosibl arno. Fodd bynnag, y mae hynny’n golygu nad yw ei ystyr yn cael ei gyfleu mor glir ar brydiau, yn enwedig ar yr olwg gyntaf, a gall olygu fod darllen y Beibl heb esboniad yn anodd i rai. Enghraifft o hyn yw pan mae’r Brenin Dafydd yn marw yn ôl 1 Brenhinoedd, cyfieithiad Morgan yw ‘Felly Dafydd a hunodd gyda’i dadau,’ sy’n gyfieithiad llythrennol iawn o’r gwreiddiol. Mae’r cyfieithiadau diweddarach yn llai llythrennol yn yr achos hwn, yn defnyddio’r gair ‘marw’ yn hytrach na ‘huno gyda’i dadau’, ac felly maent yn fwy cyson â’r hyn yr ydym ni’n arfer ei ddweud, ac yn cyfleu’r ystyr yn llawer cliriach. Wedi’r cwbl, a fyddech chi’n dweud fod rhywun wedi huno gyda’i dadau, ynteu ei fod wedi marw? Ar yr olwg gyntaf, mae’n ymddangos nad oes budd o gael cyfieithiad llythrennol fel un Morgan ac felly mae hynny’n wendid ynddo. Ond, nid dyna ddiwedd y drafodaeth. Fel yr eglura’r Athro Wayne Grudem:

The dynamic equivalence translation [marw] does not include the idea of sleeping as a rich metaphor for death, a metaphor in which there is a veiled hint of someday awakening from that sleep to a new life. The expression “slept with his fathers” also includes a faint hint of a corporate relationship with David’s ancestors who had previously died, something that is also missing from the dynamic equivalence translation.[5]

I rywun sydd wir yn ymddiddori mewn diwinyddiaeth, mae’n rhaid cael cyfieithiad Morgan i sylwi ar ei neges lawn, ond i rywun arall sydd heb ddod yn gyfarwydd â themâu y Beibl, nid yw ‘huno gyda’i dadau’ yn gwneud unrhyw synnwyr felly mae ‘bu farw’ yn llawer mwy addas. Yn ogystal â hynny wrth gwrs, mae gan ‘cysgu gyda’ rhywun ystyr wahanol erbyn hyn ac adlewyrchir hynny yng nghyfieithiad beibl.net, ‘Cysgodd Adda gyda’i wraig Efa, a dyma hi’n beichiogi.’ Cryfder y cyfieithiad i rai yw ei wendid i eraill.

Pwnc trafod amlwg yn y maes hwn hefyd yw absenoldeb ambell air technegol yn rhai o’r cyfieithiadau. Un o’r enghreifftiau amlycaf yw absenoldeb ‘gras’ yn beibl.net. Dyma air pwysig yn y Testament Newydd; mae’r cysyniad y mae’n ei ddisgrifio yn gwbl ganolog i neges y Beibl. Diffiniad Thomas Charles ohono yw: ‘Daioni, cariad, caredigrwydd, cymwynasgarwch Duw tuag at ddynion, neu ddynion tuag at ei gilydd – a hynny yn hollol rad, wirfoddol, ac anhaeddiannol yn y gwrthrych o’r daioni hwnnw.’[6] Defnyddir y gair yn y ddau gyfieithiad hynaf mewn adnodau megis Effesiaid 2:8, ‘Trwy ras yr ydych wedi eich achub, trwy ffydd.’ Fodd bynnag, penderfynwyd hepgor y gair yn beibl.net felly cyfieithir yr adnod hwnnw fel hyn: ‘Haelioni Duw ydy’r unig beth sy’n eich achub chi wrth i chi gredu.’ Dyma rywbeth i chi fyfyrio arno – a ydyw’r haelioni a ddisgrifir yma yn llawn gyfleu’r ystyr? A oes gwahaniaeth rhwng gras a haelioni? Ai hael ynteu graslon ynteu’r ddau ydyw rhywun pan maent yn cyfrannu at achos da? Yn wir, credaf fod i’r gair ‘gras’ ystyr ddyfnach, yn arbennig oherwydd yr elfen ‘anhaeddiannol’ ac felly mae’r gair hwnnw yn gymorth i werthfawrogi llawnder ystyr yr adnod. Fodd bynnag, nid yw’r gair ‘gras’ yn golygu dim i lawer iawn o bobl, ac nid ydynt ond wedi ei glywed yng nghyd-destun ‘gras bwyd’. Iddynt hwy, y mae defnydd beibl.net o ‘haelioni’ yn gymorth ac yn caniatáuiddynt gael dealltwriaeth sylfaenol o’r cysyniad. Rwyf yn hoff o ddefnyddio darlun o goffi. Petawn yn cynnig ichi gapuccino a’ch bod yn gonnoiseur coffi, byddech yn deall yn iawn beth yr wyf yn ei gynnig. Ond byddai rhai heb unrhyw glem, a mwy addas fyddai ei labelu fel coffi iddynt hwy. Nid ydynt yn medru llawn werthfawrogi yr hyn yr ydw i’n ei gynnig iddynt, ond eto mae’n rhoi iddynt syniad da o’i natur. Ac wrth gwrs, o ymweld â siop goffi’n rheolaidd, y mae pobl yn ymgyfarwyddo â’r termau dieithr ar y gwahanol ddiodydd nes eu bod yn y pen draw yn gyfforddus yn eu defnyddio.

Felly, beth am ein perthynas â’r cyfieithiadau Cymraeg o’r Beibl? Sut ddylai hi fod? A ddylem ddechrau gyda beibl.net, cyn graddio fel petai a mynd at y Beibl Cymraeg Newydd a chyrraedd brig yr ysgol Feiblaidd gyda Beibl William Morgan? Nid dyna fy nadl. Fy nadl yw mai iach yw derbyn cryfderau pob un, a gobeithio fod hynny wedi cael ei wneud yn eglur. Mae’n wir fod dechrau gyda beibl.net yn haws ac mai cyfieithiad Morgan yw’r mwyaf dieithr. Ond mentrwn ddweud fod beibl.net hefyd yn addas i’r ysgolhaig diwinyddol pennaf ac yn yr un modd y gall y cyfieithiadau hŷn ddatguddio neges Duw i rywun sydd erioed wedi darllen y Beibl o’r blaen. Bydd rhai wedi eu magu â chyfieithiad William Morgan ac yn ddigon bodlon i barhau i’w ddefnyddio yn eu defosiwn personol. Ond hefyd gall ddarllen cyfieithiad gwahanol daro goleuni newydd ar adnod weithiau ac mae hynny’n rhywbeth i fanteisio arno. A beth am yr adegau hynny pan maent eisiau rhannu rhyw adnod â’u plant, neu eu hwyrion a’u hwyresau? Nid yw cyfieithiad hynafol Morgan yn addas o reidrwydd at bob sefyllfa. Yn yr un modd, o ddarllen y Beibl Cymraeg Newydd neu beibl.net yn unig, gallwn gael dealltwriaeth dda o neges y Beibl ond gall ddarllen cyfieithiadau eraill o dro i dro ddod â bendith hefyd. Mae rhagymadroddion y Beibl Cymraeg Newydd a beibl.net yn dweud mai cyfieithiadau ydynt i fynd law yn llaw â’u hynafiaid, a chredaf mai doeth ydyw’r cyngor hwnnw. Gweddi cyhoeddwyr beibl.net wrth ei gyhoeddi oedd y byddai’n dod yn ‘bont i lawer elwa maes o law ar gyfoeth y cyfieithiadau clasurol Cymraeg.’[7] Mae’n anorfod fod gan bobl ffefrynnau amrywiol, mae sefyllfa pawb yn wahanol, ond yr wyf yn hyderus fod gan bob un o’r cyfieithiadau y gallu i gyfathrebu Gair Duw gydag unrhyw un ohonom ni.

Os oes gennych ddiddordeb yn fy ymchwil, gwerthfawrogwn yn fawr petaech yn medru llenwi’r holiadur isod, ac mae croeso cynnes i chi gysylltu â mi i ofyn cwestiwn neu gynnig sylwadau: grd7@aber.ac.uk. Diolch.

https://forms.office.com/Pages/ResponsePage.aspx?id=Dgl71Fo_oEyE0J-J0mnxdYn45wO9L8JEllMhFAbelG9UMlg1VkhIWlRGNlRGTlEwVzBYVFlVN1RSWS4u

-----

Gellir cael mynediad at y Beibl Cymraeg ar-lein trwy ddilyn y ddolen hon:

https://www.bible.com/cy/bible/394/MAT.1.BCND?parallel=329&fbclid=IwAR0NWEpVKMAyqeOvQAhm3RYceJDaVId0GOYGwXakff62i9-BbF7-Avq-VBc

Cyfeiriadau

[1] Huw Jones, ‘Rhagair’, Y Gair yn ei Bryd, Caernarfon (1994). Os hoffech allu gwerthfawrogi dylanwad Beibl William Morgan ar yr iaith yn fwy, awgrymaf eich bod yn darllen y gyfrol hon.

[2] Syr Glanmor Williams, ‘William Morgan’, Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940, Llundain (1953).

[3] Broliant clawr cefn beibl.net (2015).

[4] Cyfrol ddefnyddiol er mwyn sylweddoli cynifer o ystyriaethau sydd, a pha fath o rai ydynt, yw Dave Brunn, One Bible, Many Versions, Nottingham (2013). Cyfrol dda yw hon gan nad yw’r ystyriaethau yn cael eu cyfyngu i’r iaith Saesneg yn unig fel llawer iawn o’r gweithiau sydd ar gael; cyfieithodd yr awdur y Beibl i iaith frodorol Papua Gini Newydd.

[5] Wayne Grudem, ‘Are only some words of Scripture breathed out by God?’, Translating Truth, Illinois (2005).

[6] Thomas Charles, ‘Gras’, Y Geiriadur Ysgrythurol, Wrecsam (1805).

[7] ‘Rhagair’, beibl.net (2015).

Previous
Previous

Cerddi: Gweithdy cyfieithu Ulysses x Y Stamp

Next
Next

Ysgrif: Diogelu Ysgolion Cymraeg - Angharad Dafis