ARCHIF

~

ARCHIF ~

Cylchgrawn creadigol Y Stamp oedd man cychwyn Cyhoeddiadau’r Stamp. Cyhoeddwyd 11 rhifyn print llawn a 2 rifyn arbennig rhwng 2017 a 2021, ond roedd Y Stamp hefyd yn ofod ar-lein, a chyhoeddwyd ymhell dros 300 o ddarnau o waith ar ein gwefan yn ystod yr un cyfnod, ac yn ychwanegol at ddeunydd y rhifynnau. Er nad ydym bellach yn cyhoeddi gwaith creadigol ar lein yn wythnosol, ac yn dilyn gorfod newid darparwyr gwefannau, rydym wrthi ar hyn o bryd yn ailgyhoeddi’r archif helaeth hwn o waith, fel ei fod ar gael i bawb. Gallwch ffiltro’r cynnwys trwy glicio ar y categoriau isod, neu sgrolio drwy’r cyfan ar y dudalen hon.

Os ydych angen copi o ddarn a gyhoeddwyd ar-lein ond nad yw eto wedi ailymddangos yma, cysylltwch a ni: cyhoeddiadau.ystamp@gmail.com

Ysgrif: Y Beibl(au) Cymraeg | A yw pob cyfieithiad yn dal yn berthnasol? - Gruffydd Rhys Davies
Ysgrifau, Mis Cyfieithu Cyhoeddiadau'r Stamp Ysgrifau, Mis Cyfieithu Cyhoeddiadau'r Stamp

Ysgrif: Y Beibl(au) Cymraeg | A yw pob cyfieithiad yn dal yn berthnasol? - Gruffydd Rhys Davies

Petawn yn gofyn i chi efelychu ‘iaith y Beibl’, tybed pa fath o iaith fyddech chi’n ei ddefnyddio? Yn ddiweddar, digwyddais wylio bennod o’r gyfres Americanaidd boblogaidd, Friends, pan mae un o’r cymeriadau, Monica, yn esgus ei bod yn weinidog ar eglwys er mwyn gwella’i gobeithion o gael mabwysiadu plentyn.

Read More