Ysgrif: Pêl-droed i ferched - profiad Titw - Bethan Mai Morgan Ifan

Mae Tîm Pêl-droed menywod Caerdydd, Titws Taf, yn dathlu ei phenblwydd yn 1 oed yr wythnos hon, ac i ddathlu, maent wedi bod yn rhoi gwersi Cymraeg i dîm pêl-droed menywod Cymru. Dyma Bethan Mai Morgan Ifan, un o sylfaenwyr y clwb, yn trafod beth sydd mor hynod am y titws...

Bod yn Ditw.

Pêl-droed. Gêm brydferth sy’n addas i bob siâp a maint, pob cefndir, sdim angen arian.

Ond eto, ro’n i, fel cyment arall byth wedi cael siawns i chware yn yr ysgol, mewn tîm, unrhywle.

Teimles i’r anghyfiawnder yma yn gryf yn fy mola ar ddiwrnod ola Awst 2018 wrth wylio Merched Cymru vs Lloegr yn ceisio am le yng Nghwpan y Byd, ac yn y fan a’r lle, wedi ysbrydoli dros fy mhen a nghlustie gan y merched anhygoel hyn, penderfynais i bo’ fi'n mynd i drio dechre tîm. Ar y ffordd mas o Rodney Parade, fe bostes i neges ar y gwefanau cymdeithasol, a droiodd mas i fod y neges ore i fi erioed bostio. Achos blwyddyn yn ddiweddarach, ffrwyth y neges yna yw 'Titws Taf'- y tîm mwya bendigedig a welodd y byd erioed.

Sgwn i beth yw eich profiad chi yn tyfu lan o ran merched yn chwarae pêl-droed? Mae fy un i yn gyffredin i ferched fy oed = 0 cyfle. Weithiau bydde hanes o un arwres ddewr (Debbie Griffiths I salute you) yn mynd amdani ac ymuno i chware gyda’r bechgyn ond i’r mwyafrif roedd hyn yn brospect anghroesawgar ac arswydus.

Gyda chalon lon gwelaf bod cyment mwy o gyfleoedd i ferched ifanc oedran ysgol nawr i chware, mewn timoedd cymysg neu timoedd i ferched. Dathlwn! Ac mae’n hyfryd gweld bod timoedd merched mas ’na bydde’n croesawu aelodau newydd, ond heb brofiad blaenorol mae’r weithred o ymuno gyda thîm fel dieithryn dibrofiad yn un brawychus. Felly bwriad y clwb yma oedd rhoi gofod sâff i fenywod roi cynnig arni, gan gefnogi ein gilydd; byth yn beirniadu.

Darlun: Bethan Mai Morgan Ifan

Roedd yr ymateb i’r neges gychwynnol yn eitha syfrdanol, pwy wyddai bod gyment o fobl ishe chware ond heb ffindo’r cyfle na’r gofod iawn? On i’n lwcus iawn bod Non, Titw o’n i ddim yn adnabod ar y pryd, wedi cymryd y neges o ddifri’ a fy nal i at fy ngair a helpu cychwyn y clwb.

Aethom ni ati i chwilio am le i ymarfer, a wedi bwcio lle, roedd disgwyl nerfus wedyn i weld a fydde unrhywun yn dod. Yn ffodus, daeth pobl, lot o bobl. Y mwyafrif yn ferched o’n i ddim yn adnabod. Roedd rhyw egni bach arbennig yna, rwbeth sbeshal yn egino.

Ma llefydd pêl-droed yn llawn dynion. Mae hyn yn intimidating. Ni wedi ymarfer mewn cwpwl o lefydd, ac mae un yn benodol yn sticio yn y meddwl achos roedd y bechgyn a dynion yn edrych arnom ni yn llythrennol gegagored, fel cartŵn, fel se nhw heb weld actual merch o’r blaen. Bechgyn- take note, peidiwch bod mor weird! Teimlwn ddyletswydd i neud llwybr i’r merched sy’n dilyn ôl ein traed i wneud pethau fel sicrhau bod y gofodau hyn yn lefydd saff a hapus, a bod modd creu cyfleoedd. Fi’n fam i ferch a ma’ hwnna yn ysbrydoliaeth cyson. Ma’ jyst troi lan i chware yn dodi’ch hunen mewn lle bregus, a ma’ hwnna yn eich gwneud chi’n ddewr ofnadw. (Ni yn Gôl nawr, a ma hwnna yn neis gyda llaw).

Ta beth, digon am y dechre. Pwy y’n ni nawr? Ni’n dîm cynhwysol, sy’n llawn sbri a chyfeillgarwch, a sgiliau chwil-boeth! Mae’r clwb mewn lle da.

Ni’n ffodus i gael chwip o hyfforddwraig (Gwenan ‘G-coach’ Elin Pugh) a chapteiniaid a phwyllgor ffabiwlas.

Wedyn, ymunom ni gyda Chlwb Cymric, oedd yn ddigon meddwl agored i groesawu ni i fodoli fel rhan o’r clwb ond gyda’n hunanieth gref ni’n hunen o fewn y clwb. Braint bod yn rhan ohono, braf bod yn rhan o rywbeth ehangach a braf cael ochr gymdeithasol Clwb Cymric.

Mae aelodau Titws Taf yn garedig, yn gryf, yn amrywiol, yn ffeministaidd, yn unigryw ac yn sbri. Fi’n browd i fod yn rhan o ni.

Felly dyma ni, ar ein pen-blwydd cyntaf. Be ni’n neud i ddathlu? Wel ni’n lawnsio ein cit hollol bendigedig, sy’n adlewyrchu ein personoliaethau lliwgar, ein sass unigryw a chreadigol - (Pleser rhoi cip ecsgliwsif i ddarllenwyr Y Stamp o’n kit arbennig a’n noddwyr!)

A chawsom y profiad hollol anhygoel o ymarfer gyda thîm Merched Cymru yn gyfnewid am wersi Cymraeg ar ddiwrnod ein pen-blwydd! Ymarfer gyda’r tîm nath ysbrydoli dechreuad y clwb yn uniongyrchol...

Ac wrth gwrs, bydd noson mas llawn drygioni.

Gyda’r holl ddatblygiade yma, ni dal yn dryw i’n harwyddair “Pŵer i Bob Menyw” - hynny yw, y peth pwysica’ un i ni o’r cychwyn cynta’ tan nawr ac i’r dyfodol yw bod croeso i BOB SAFON! (Bob Nos Fercher. Dewch! Croeso mawr i ddysgwyr hefyd)

Mae’n destun balchder bod lot mwy o bwyslais o fewn Titws Taf ar gefnogi’n gilydd nac ennill. Ond mewn gwirionedd, ma’r gofod saff a hapus hyn i chwarae yn amlwg wedi bod yn dacteg ffrwythlon, ac wedi talu ar ei ganfed, achos o’r 5 gêm ry’n ni wedi chwarae hyd yn hyn, ni heb golli un!! (Mae’n flin da fi os fi wedi jinxo'r rhediad da o lwc drwy dynnu sylw at hyn, Titws!)

Ry’n ni wedi ymuno â chyngrair, a rhwng y timoedd benywaidd ysbrydoledig yma, mae bwrlwm a balchder i’w deimlo. Yn ogystal â’r cyffro am ba bynnag gêm sydd o’n blaenau, ma’ cyffro hefyd am yr hyn y'n ni’n cyflawni fel merched, a theimlwn y parch mwya’ at ein gilydd am fentro, mewn byd lle odd e ddim yn rhwydd i fentro.

Mae chwaraeon i BAWB, mae’r un perffaith mas ’na i chi, chi jyst angen chwilio. Fi’n addo, bydd e’n hudolus.

Dydw i ddim yn byw yng Nghaerdydd bellach, ac mae’n dipyn o her i gyrraedd ymarfer a gêmau, yn enwedig gyda phlentyn a chi in tow, ond byddai dal yn trio gwneud ymdrech i ddod nôl ar gyfer y Titws. Ma’ rhwbeth am y tîm ’ma. Ni’n sbeshal, a super powers ni yw sbri, cariad a rhoi Pŵer i bob Menyw.

Credu bod y gerdd yma gan Dyfan Lewis fel rhan o hashtag her 100 cerdd, yn esbonio’ be fi’n trial gweud i’r dim. Lot gwell na fy sgwennu i actually, gallech chi di jyst skippo i’r darn yma rili. Rhy hwyr nawr sori.

Pen Blwydd Hapus Titws. Chi werth y byd.

Titws Taf

gan Dyfan Lewis (brawd i Esyllt - Titw Taf)

Ymateb i gais Rhiannon M Williams (Titws Taf)

Bob wythnos maen nhw’n

hel at ei gilydd,

y titws hynod o Gaerdydd

digwydda rywbeth.

Rhwng y taclo, cicio

a’r sgorio gôls

daw chwerthin gan y titws

wrth iddynt ddod at eu coed

a phrofi bob Mike, John a Dafydd

yn anghywir am bêl-droed:

Fod yna le i ferched ar y cae

Mwy na’ lle;

mae angen dau, tri chan mil o gaeau

i ddal egni’r titws.

Does dim gwadu eu hafiaith

na’i chwaeroliaeth, chwaith.

Beth am ddechre chware chwaraeon? Dyw e byth rhy hwyr.

Ymunwch â Titws Taf Cymric (manylion isod), neu os nad ydych chi’n byw yn agos, beth am ymuno ag un o’r timoedd eraill arbennig sydd o’ch cwmpas chi? Neu creu un eich hun?

Amdani!

Twitter: @PDMenywodCymric

Instagram: pdmenywodcymric

Facebook: Titws Taf (Pêldroed Menywod Cymric)

Previous
Previous

Wrth dy grefft: Brawddegau - Llŷr Gwyn Lewis

Next
Next

Adolygiad: Salacia - Mari Ellis Dunning