Adolygiad: Hela

Aeth un o'n hadolygwyr draw ar noson oer o Dachwedd yn y brifddinas i weld drama gyntaf Mari Izzard, 'Hela', yn theatr-dafarn 'The Other Room', Caerdydd. Dyma oedd y farn am y ddrama ddwyieithog ddystopiadd hon...

Heibio’r porthor, dyma fi’n gadael mis Tachwedd oer y tu ôl imi, ac yn dadlapio fy sgarff yng nghanol gwres y waliau rhuddgoch, sy’n ddigon i stemio fy sbectol (unwaith eto!).

Porter’s. Am leoliad da i gynnal dramâu, meddyliaf i fi fy hun wrth archebu glasiad o win coch i weddu i’r ambience. Digon byrhoedlog yw’r cysur hwn, serch hynny, gan fod lladd- dy llaith yr olwg yno i fy nghroesawu i’r ’stafell arall wrth imi ddodi fy mhen-ôl ar un o’r seddi cefn. Dwi’n cadw fy nghôt ymlaen.

Prin yr o’n i’n sylweddoli mai rhagflas fyddai hyn o bethau i ddod. Mewn gwirionedd, mae Hela gan Mari Izzard yn ddrama sy’n frith o ddeuoliaethau drwyddi. Yn atgoffa rhywun o bennod yn Black Mirror, gwelwn sgrîn swish wedi’i gosod ar wal ac arni Rhian Blythe bicselaidd. I’r dde ohoni, gwelwn ddyn chwyslyd wedi’i glymu wrth gadair.

Dyma ddrama gyntaf Mari Izzard, enillydd gwobr The Other Room i ddramodwyr, sef Gwobr Violet Burns. Yn wir, gallech daeru mai dyma yw ei hugeinfed, gan fod y dweud mor gynnil a’r cyfan yn un pecyn twt, er gwaetha’r is-destunau niferus. Yn ystod y ddrama awr o hyd, cawn hanes Erin, mam ifanc sydd wedi colli ei mab ac yn mynd i eithafion i geisio dod o hyd iddo. Mae’r Gymru a welwn yn un ddystopaidd sy’n clodfori trais a dial, lle mae cyfrifiadur ac algorithm sy’n pennu ymhle y gellir rhoi iawn.

Mae dwyieithrwydd wrth wraidd y gwaith ac fe wnes i ddwlu ar y ffordd yr oedd hyn yn plethu i’r naratif mor naturiol. Caiff y Gymraeg ei defnyddio fel rhywbeth dieithr ac anghynnes a wna i Hugh, mab i gyn Brif Weinidog Cymru, deimlo’n fregus yng nghwmni Erin ac yn euog am anghofio ei wreiddiau. Diddorol yw nodi hefyd fod y ddau gymeriad yn siarad eu hail iaith wrth iddynt ddechrau anobeithio. Yn raddol, daw Hugh i siarad mwy o Gymraeg yn niffyg dim arall, gan wneud unrhyw beth o fewn ei allu i ddianc o grafangau Erin. Gwelwn Erin, ar y llaw arall, yn defnyddio’r Saesneg yn ei gwylltineb, sy’n gwneud i’r gynulleidfa gwestiynu pwy yw’r gwir Erin mewn gwirionedd. Er bod y sgrîn yn dangos cyfieithiadau o’r hyn a ddywed Erin yn rhy gynnar ar adegau (dwi wedi pendroni dros hyn a ddim yn siŵr o hyd a oedd hyn yn fwriadol ai peidio), mae’n llwyddo i sicrhau bod y ddrama yn hygyrch i ni i gyd, p’un a ydyn ni’n siarad Cymraeg ai peidio.

Mae dehongliadau Lowri Izzard a Gwydion Rhys o’r cymeriadau yn afaelgar ac yn aml yn arswydus. Mae trais, boed hynny ar ffurf anecdot o fewn y sgript neu ar y llwyfan ei hun, yn thema sy’n treiddio drwy’r ddrama ac yn ei gyrru ymlaen. Er mai digon tywyll yw ei chyd-destun, mae natur ecsentrig Erin yn ysgafnhau pethau. Rhaid imi gyfaddef ’mod i wedi gweld y stori gefndirol braidd yn drwm ar adegau. Dwi wedi cwestiynu a oedd gormod o stori gefndirol wedi’i chynnwys yn y ddrama, ond dwi’n dod i’r casgliad bob amser fod y cyfan yn plethu’n daclus ac na fyddai modd hepgor unrhyw ddarn ohoni. Serch hyn, gyda mewnbwn Dan Jones, y Cyfarwyddwr Artistig, mae digon yn mynd ymlaen yn weledol i gadw’r gynulleidfa ar flaenau eu traed.

Gwnaeth rhai darnau imi deimlo’n annifyr dros ben. Gwnaeth rhai darnau imi biffian chwerthin. Gwnaeth rhai darnau yrru ias i lawr fy nghefn. A gwnaeth rhai darnau imi eisiau sgrensio fy llygaid ar gau. Dwi’n falch ’mod i wedi penderfynu cadw fy nghôt ymlaen neu, fel arall, dwi’n meddwl y byddwn i wedi llithro oddi ar fy sêt yn ystod y diweddglo. Yn wir, ymgorfforiad o roller coaster emotional yw’r ddrama hon.

Cyhoeddir pob adolygiad o gynnyrch newydd Cymraeg neu Gymreig yn Y Stamp yn ddienw.

Previous
Previous

Ysgrif: Pêl-droed i ferched - profiad Titw - Bethan Mai Morgan Ifan

Next
Next

Wrth dy grefft: Trawsieithu fel rhan o’r broses greadigol - Sara Louise Wheeler