FFENESTR AR AGOR!
〰️
FFENESTR AR AGOR! 〰️
Mae ffenestr gyflwyno Cyhoeddiadau’r Stamp yn agored i waith newydd rhwng 1 a 30 Tachwedd 2023.
Cyn i chi gychwyn, cymrwch olwg ar ein tudalen Cwestiynau Cyffredin er mwyn ymgyfarwyddo â’n gofynion, ein gwerthoedd a’n gweledigaeth.
Ar gyfer yr alwad hon, rydym yn gofyn i chi gyflwyno:
pamffledi barddoniaeth (hyd at 15 cerdd)
cyfrolau o farddoniaeth (dros 20 cerdd)
gweithiau rhyddiaith byr (ffuglen neu ysgrifau, hyd at 10,000 gair)
pamffledi celf (pwyslais ar waith gweledol)
Dylech anfon:
eich enw a’ch cyfeiriad e-bost; does dim angen cynnwys manylion bywgraffiadol, a pheidiwch â chynnwys eich enw o fewn y gwaith creadigol ei hun
sampl o 5 tudalen A4, naill ai o ryddiaith, o farddoniaeth, neu waith celf (neu gymysgedd o’r tri!)
dylech ddefnyddio ffont maint 12, gyda bylchau dwbl ar gyfer rhyddiaith, a chyflwyno ar ffurf dogfen Word neu PDF
hanner tudalen o ddisgrifiad o’r prosiect, neu gyfwerth ar ffurf recordiad sain neu fideo
Dylid nodi fod croeso i chi yrru mwy nag un cynnig, ond y byddwn yn darllen uchafswm o dri, ac na fyddwn yn dewis mwy nag un gyfrol gan yr un awdur o fewn rhaglen gyhoeddi un flwyddyn. Cofiwch fod gweithio ar un cysyniad cryf yn well o lawer na brysio tri gwahanol.
Gyrrwch yr uchod at cyhoeddiadau.ystamp@gmail.com, gyda FFENESTR GYFLWYNO fel pwnc, erbyn hanner nos, nos Iau 30 Tachwedd 2023.
Rydym yn ffafrio derbyn gohebiaeth e-bost, ond os dymunwch, gallwch hefyd bostio eich gwaith at Cyhoeddiadau’r Stamp Cyf., 9 Heol Elinor, Caernarfon, LL55 1PG. Ni allwn gymryd cyfrifoldeb am waith nad yw’n ein cyrraedd trwy ddamwain, felly os am sicrhau ei fod yn glanio’n ddiogel, gyrrwch e-bost i gadarnhau ac os yn bosib, defnyddio gwasanaeth postio sy’n gofyn am lofnod gan y derbynydd.
Mae’n bosib y byddwn yn cysylltu â chi i ofyn am sampl hirach cyn i ni ddod i benderfyniad terfynol.
>> FFENESTRI CYFLWYNO
Nid ydym yn derbyn gwaith y tu allan i’n ffenestri cyflwyno erbyn hyn. Mae hyn oherwydd yr angen i gynllunio ein rhaglen gyhoeddi, ac er mwyn gwneud yn siwr fod pawb sy’n cyflwyno yn cael cyfle teg.
Gofynnwn felly eich bod yn cadw llygad ar y cyfryngau cymdeithasol ac ar y wefan hon, lle byddwn yn datgan pryd byddwn yn agor ar gyfer cyflwyniadau.