Ar Adain - Iestyn Tyne
£7.00
Ail gyfrol o farddoniaeth Iestyn Tyne, ynghyd â brasluniau'r bardd. Gwaith celf y clawr gan Jack Ford. "Barddoniaeth y bore wedyn ydi hon - cerddi meddylgary 'pnawniau Sul dibendraw' sy'n llawn difaru, distawrwydd a difrifoldeb ... Sylwa ar bobl, a dal eu cymeriad mewn ychydig eiriau, â'r un craffter llygad a chywreinrwydd llaw ag wrth eu braslunio." - Guto Dafydd, Llanw Llŷn / "Dro ar ôl tro cawn ein hunain yn y lle sydd ar yr ymylon, y darn sydd rhwng y darnau cyfarwydd. Ond o gael mynd yno yng nghwmni Iestyn Tyne agorir ein meddwl i weld posibiliadau gwahanol ... [mae'n] llwyddo i ddal y cyffredin mewn ymadrodd cwbl anghyffredin a chofiadwy." - Mererid Hopwood, Y Ffynnon / "Afraid dyfynnu, bron, gan mor niferus yw'r disgrifiadau byw a'r cymariaethau llachar ... mae'n eglur ei fod yn feistr ar lunio delweddau cofiadwy ... clymir yr holl waith ynghyd â chyfeiriadau cynnil yma a thraw at ymylon pethau: erchwyn gwely'n aml, min ar garreg ac ochr clogwyn, ynghyd â'r llinell symudol ddisymud rhwng y môr a'r tir ..." - Eurig Salisbury
Quantity: