Cyhoeddiad: A’r Ddaear ar Ddim - Siân Melangell Dafydd

Egin nofel gan Siân Melangell Dafydd yw cyfrol ryddiaith gyntaf Cyhoeddiadau’r Stamp. Cyhoeddir A’r Ddaear ar Ddim i godi arian ar gyfer ymgyrch Choose Love i gefnogi dioddefwyr daeargryn Twrci a Syria yn Chwefror 2023.

Stori fer o agoriad nofel arfaethedig a geir yma, a honno’n chwaer-nofel i Filó, a gyhoeddwyd gan wasg Gomer yn 2020. Ystyr filó yw ‘ymgynnull i adrodd stori’ yn nhafodiaith gogledd Veneto, yr Eidal; yn ysbryd hynny, mae’r darn hwn yn ymroi’n llwyr i’r syniad fod rhannu stori yn medru bod yn beth pwerus, ac y gall fod yn ddull o ymgynnull o hyd.

Digwydd y stori yn gyfan o fewn cyfnod o ddwy eiliad yn gynnar ar fore 20 Mai 2012, wrth i ddaeargryn daro rhanbarth Emilia-Romagna yng Ngogledd yr Eidal. Mewn ystafell ddiarth yn Pieve di Soligo, Veneto, mae merch ynghwsg mewn gwely mawr gwyn, a grym yr ysgydwad yn carlamu tuag ati. Dyma ddweud sy’n pefrio yn ei fanylder disgrifiadol, a stori sy’n crwydo rhwng hunllef ac effro ar ei hyd.

Mae Siân yn awdur, yn fardd ac yn gyfieithydd o droed y Berwyn. Enillodd ei nofel gyntaf, Y Trydydd Peth (Gomer 2009) y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Y Bala. Cafodd ei nofel ddiweddaraf, Filó, ei chynnwys ar Silff Lyfrau Cyfnewidfa Lên Cymru ar gyfer 2020-21 ac mae eisoes wedi’i chyfieithu i’r Albaneg. Bu’n gyd-olygydd ar gylchgrawn llenyddol Taliesin ac mae bellach yn olygydd Cymraeg Modron, cylchgrawn llenyddol ecolegol. Mae’n golofnydd natur i O’r Pedwar Gwynt, yn athrawes yoga, a chyhoeddodd gasgliad o farddoniaeth ar y cyd ag Anitha Thampi o Kerala, India, sef Dŵr Arall / A Different Water (Poetrywala, 2018). Mae’n gweithio fel darlithydd Ysgrifennu Creadigol yn The American University of Paris a Phrifysgol Bangor, Cymru.

Mae’n ychwanegu at fraint y Stampwyr o gael cyhoeddi’r gyfrol hon mai gwefan Y Neuadd, dan ofal golygyddol Siân ac Angharad Elen, oedd un o’r mannau y bu rhai ohonom yn cyhoeddi ein gwaith sgwennu am y tro cyntaf.

Gallwch ragarchebu A’r Ddaear ar Ddim heddiw trwy glicio yma.

 

A’r Ddaear ar Ddim

Siân Melangell Dafydd / Cyhoeddiadau’r Stamp 2023

ISBN 978-1-8381989-6-1 / 32t. / £6.00*

 

*i’r rhai hynny sy’n dymuno rhoi mwy at yr achos, ceir opsiynau ychwanegol o ran talu yn y siop ar-lein. Cydnabyddir rhagarchebwyr sy’n cyfrannu mwy ar restr yng nghefn y gyfrol. Rhaid rhagarchebu cyn 30 Ebrill 2023 i sicrhau’r gydnabyddiaeth hon yn yr argraffiad cyntaf.

 

Tudalennau enghreifftiol:

Previous
Previous

Cyhoeddiad: Ffosfforws 4 - gol. Carwyn Eckley

Next
Next

Galwad Agored: Ffosfforws 4