Cyhoeddiad: Ffosfforws 4 - gol. Carwyn Eckley

Daeth yn bryd cyhoeddi clawr a chyfranwyr pedwerydd rhifyn Ffosfforws, ein cyfnodolyn barddoniaeth, a olygwyd y tro hwn gan Carwyn Eckley.

Mae rhifyn yr haf yn cynnwys pymtheg o gerddi newydd sbon gan bymtheg o feirdd; rhai yn enwau cyfarwydd ac eraill yn cyhoeddi am y tro cyntaf: Aled Lewis Evans, Beca Davies, Brennig Davies, Buddug Watcyn Roberts, Dyfan Lewis, Ela Pari, Elwyn Caera, Jo Heyde, John G. Rowlands, Katie Gramich, Katrina Moinet, Llio Elain Maddocks, Mari Elen, Siw Harston, a Vernon Jones.

Mae’r rhifyn wedi’i gysodi ac yn barod i fynd, ac mae’r rhagarchebion yn awr ar agor er mwyn i chi helpu i orffen y gwaith. Fel gyda nifer o’n casgliadau amlgyfrannog, byddwn yn ariannu’r gwaith o argraffu trwy’r rhagarchebion hyn. Fel y tro diwethaf, mae opsiwn newydd yn y dewisiadau talwch-be-fedrwch-chi, sef yr opsiwn £25. Bydd cyfran o arian y sawl sy’n talu £25 yn mynd tuag at dalu un o feirdd y rhifyn nesaf, a bydd eich enw yn ymddangos fel noddwr yng nghefn y gyfrol.

Cliciwch yma i sicrhau eich copi chi.

Ffosfforws: Rhifyn 4 – Haf 2023

gol. Carwyn Eckley / Cyhoeddiadau’r Stamp 2023

argraffiad riso cyfyngedig gan Biscuits Press, Caerdydd / 36t.

pris £2.50 (digidol) / £5 (print, gostyngiad) / £10 (pris arferol) / £25 (copi o Rifyn 3 + noddi ffi un o gyfrannwyr Rhifyn 6, gyda’ch enw i ymddangos yn nhu blaen y gyfrol)

Tudalen enghreifftiol:

Previous
Previous

Cyhoeddiadau: Sgriptiau Stampus - Croendena ac Imrie

Next
Next

Cyhoeddiad: A’r Ddaear ar Ddim - Siân Melangell Dafydd