Cyhoeddiad: Cân y Croesi – Jo Heyde
‘Nid y bont sy’n bwysig’, medd Jo Heyde yn ei phamffled cyntaf o gerddi, ‘ond cân y croesi’. Dyna grynhoi ysbryd y casgliad tlws a myfyrdodus hwn sy’n croniclo teithiau’r bardd yn ôl a blaen o dde Lloegr i orllewin Cymru, gan gasglu tameidiau o’i hiaith newydd ar ei hynt, ei byd newydd yn ennill lliwiau gyda phob croesi.
Mae dweud Jo Heyde yr un mor ystwyth mewn vers libre ac yn y wers rydd gynganeddol; a’i barddoniaeth yn symud rhwng telynegu uniongyrchol cerdd fel ‘Meudwy, ydw i’ a chwareustra ffurf doredig cerddi fel ‘Sglefrod Môr’. Sylwa ar bethau cyffredin mewn modd anghyffredin, yn enwedig wrth ddisgrifio creaduriaid byw, megis y pry cop ar y wal sy’n rhyddhau ‘plethwaith / un edefyn gwyn / y gwaith / o harddwch / bale gwehydd’. Dychwelir rhwng y myfyrio agos a phersonol hwn o hyd at gerddi am y bont ei hun, sydd bron yn ffurfio cyfres o bileri trwy’r gyfrol i gludo trywydd y teithiwr.
O Lundain y daw Jo yn wreiddiol, ac erbyn hyn mae’n treulio rhan helaeth o’i hamser yn Ninbych-y-Pysgod. Daeth at y Gymraeg yn 2018 ac at ei barddoniaeth yn fuan wedyn. Mae’n aelod o Ysgol Farddol Caerfyrddin a thîm Y Derwyddon ar gyfres Y Talwrn, ac yn gydlynydd prosiect Bardd y Mis BBC Radio Cymru ar ran Barddas. Mae’n cyhoeddi ei gwaith yn gyson yn Ffosfforws, cyfnodolyn barddoniaeth Cyhoeddiadau’r Stamp; yn wir, mae ‘Sglefrod Môr’ o drydydd rhifyn Ffosfforws (Gaeaf 2022-23, gol. Llinos Anwyl), yn un o gerddi Cân y Croesi. Mae ganddi hefyd gerdd newydd sbon yn y rhifyn diweddaraf, rhifyn Gwanwyn 2024 dan olygyddiaeth Miriam Elin Jones.
Gan mai gwasg annibynnol, wirfoddol yw Cyhoeddiadau’r Stamp, rydym yn gofyn i’r sawl sydd â’r modd ystyried rhagarchebu ein cyfrolau er mwyn helpu gyda’r costau cynyddol o gynhyrchu a chyhoeddi deunydd print. Mae rhagarchebion Cân y Croesi bellach ar agor yma.
Cân y Croesi
Jo Heyde / Cyhoeddiadau’r Stamp 2024
ISBN 978-1-7384794-5-0 / 24t. / £6.50
Celf y clawr: Esyllt Angharad Lewis
Tudalennau enghreifftiol