Newyddion: Cyfres bamffledi Eisteddfod yr Urdd
Mewn cydweithrediad ag Eisteddfod yr Urdd, mae Cyhoeddiadau’r Stamp yn falch o gyhoeddi cyfres newydd o bamffledi blynyddol fydd yn rhoi llwyfan teilwng i waith enillwyr y prif wobrau llenyddol – y Fedal Ddrama, y Gadair a’r Goron.
Os bydd teilyngdod, bydd y pamffledi hyn ar gael yn syth wedi’r defodau dyddiol – y Fedal Ddrama ar ddydd Mawrth 28 Mai, y Gadair ar ddydd Iau 30 Mai, a’r Goron ar ddydd Gwener 31 Mai. Mae’r wasg wedi comisiynu’r artist o Faldwyn – ac un o guraduron Gŵyl Triban 2024 – Aur Bleddyn, i ddylunio cloriau i’r pamffledi mewn ymateb i’r waith yr enillwyr.
Dywedodd Iestyn Tyne o Gyhoeddiadau’r Stamp:
‘Nid syniad newydd ydi hyn, wrth gwrs, ac rydan ni’n cymryd llawer o ysbrydoliaeth ar gyfer y gyfres o’r pamffledi yr arferai’r eisteddfod eu cyhoeddi rhwng y 50au a’r 70au; pamffledi oedd ar gael ar ddiwedd pob seremoni fel bod modd darllen y gwaith yn syth’.
‘Mae’n hawdd anghofio yng nghanol y cyffro mai’r gwaith llenyddol ei hun sydd wrth graidd y cyfan, ac mai cyrraedd cynulleidfa gyda’r gwaith hwnnw ydi un o brif fanteision ennill gwobr o’r fath.’
Bydd pamffledi hefyd yn cael eu dadfocsio yn dilyn cyhoeddi enw’r enillydd o’r llwyfan yn siopau stampus Palas Print, Caernarfon; Awen Meirion, Y Bala; a Cant a Mil, Caerdydd. Byddant ar gael o’r holl siopau eraill ble caiff Cyhoeddiadau’r Stamp eu stocio yn ystod yr wythnos ddilynol.
Bydd enillwyr prif gystadlaethau llenyddol Eisteddfod yr Urdd yn derbyn y cyfle i fynychu Cwrs Olwen yng nghanolfan ysgrifennu Tŷ Newydd. Ar gwrs o’r fath y daeth criw’r Stamp at ei gilydd am y tro cyntaf a chyd-dynnu dros y freuddwyd o greu gofod amgen i lenyddiaeth Gymraeg.
‘Mae’n gyffrous iawn cydweithio gyda Cyhoeddiadau’r Stamp i sicrhau fod gwaith ein prif enillwyr yn cyrraedd y silffoedd llyfrau’, meddai Llio Maddocks, Cyfarwyddwr Celfyddydau’r Urdd, ‘rwy’n annog pawb i fynd a phrynu’r cyfrolau hyn, a dathlu pwysigrwydd geiriau ein pobl ifanc’.