Cyhoeddiad: Coch - Tegwen Bruce-Deans

Llun: Eisteddfod yr Urdd

‘Coch’ gan Tegwen Bruce-Deans yw Stori Fer y Goron yn Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024. Cyhoeddir pamffled o’r stori fer, y drydedd yng nghyfres Cyhoeddiadau’r Stamp ac Eisteddfod yr Urdd, ar y maes bnawn heddiw (dydd Gwener 31 Mai) yn dilyn defod y coroni.

Gallwch bellach brynu copi o Coch ar faes yr wyl ym Mathrafal (o ganolfan groeso’r Urdd, o stondin Cyhoeddiadau’r Stamp ac o stondin Siop Cwlwm) mewn siopau llyfrau yn y gogledd, y canolbarth a’r de; ac yma ar-lein ar ffurf pamffled brint neu gopi digidol. Gwiriwch ein cyfrifon ar y cyfryngau cymdeithasol am fwy o fanylion am y siopau sy’n stocio.

Bydd copis o’r darnau buddugol ar gael o’r holl siopau stampus arferol wythnos nesa; ac os ydych chi’n siop sydd ddim yn stocio llyfrau Cyhoeddiadau’r Stamp fel arfer, ond am gael copis o’r rhain, cysylltwch!

Llongyfarchiadau i Tegwen Bruce-Deans, Prif Lenor Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024; a llongyfarchion dwbl ar fod yr ail erioed i fod wedi ennill Cadair a Choron yr Urdd!

Coch

Tegwen Bruce-Deans / Cyhoeddiadau’r Stamp 2024

ISBN 978-1-7384794-3-6 / 16t. / £5.00

Celf y clawr: Aur Bleddyn

 

Tudalennau enghreifftiol:

Previous
Previous

Newyddion: Gŵyl Arall 2024

Next
Next

Cyhoeddiad: Gwrthryfela - Lois Medi