Cyhoeddiad: Gwrthryfela - Lois Medi

‘Gwrthryfela’ gan Lois Medi yw Cerdd y Gadair yn Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024, ac fe gyhoeddir pamffled o’r gerdd yn dilyn defod y cadeirio heddiw ar y maes. ‘Gwrthryfela’ yw’r ail yn y gyfres newydd hon yn dilyn ‘Amserlen’ gan Alys Hedd Jones, enillydd y Fedal Ddrama eleni.

Gallwch bellach brynu copi o Gwrthryfela ar y maes ym Meifod, mewn siopau llyfrau yn y gogledd, y canolbarth a’r de; ac yma ar-lein ar ffurf pamffled brint neu gopi digidol. Gwiriwch ein cyfrifon ar y cyfryngau cymdeithasol am fwy o fanylion am y siopau sy’n stocio.

Bydd copis o’r darnau buddugol ar gael o’r holl siopau stampus arferol wythnos nesa; ac os ydych chi’n siop sydd ddim yn stocio llyfrau Cyhoeddiadau’r Stamp fel arfer, ond am gael copis o’r rhain, cysylltwch!

Llongyfarchiadau stampus i Brifardd yr Urdd 2024, Lois Medi!

Gwrthryfela

Lois Medi / Cyhoeddiadau’r Stamp 2024

ISBN 978-1-7384794-2-9 / 12t. / £5.00

Celf y clawr: Aur Bleddyn

 

Tudalennau enghreifftiol:

Previous
Previous

Cyhoeddiad: Coch - Tegwen Bruce-Deans

Next
Next

Cyhoeddiad: Amserlen - Alys Hedd Jones