Cyhoeddiad: merch y llyn / Stafelloedd Amhenodol

Untitled design (9).png

Mae’n bleser gennym ddwbl-ddatgelu cloriau cyfrolau newydd o farddoniaeth gan Grug Muse ac Iestyn Tyne, fydd yn glanio ar 20 Hydref.

Yn y 'bargeinio rhwng meddalwch a chadernid' y mae cerddi merch y llyn, ail gyfrol Grug Muse, yn digwydd; yn y cyrff o ddwr sy'n ddihangfa ac yn fygythiad yn un gwynt. Mae haenau daeareg yn datgelu haenau'r hunan, mewn gwaith sy'n dangos fod y ffin rhwng poen a phleser, rhwng y cignoeth a'r synhwyrus, mewn gwirionedd yn denau iawn.

Casgliad o sonedau yw Stafelloedd Amhenodol, y drydedd gyfrol o farddoniaeth gan Iestyn Tyne. Mae’n nhw’n gerddi sy’n aflonyddu ac yn cyffroi, yn fyfyrdodau tyner, chwyrn ar gyflwr cymuned, cynefin a byd. 

Gallwch bellach rag-archebu’r ddwy gyfrol o’r wefan hon, er mwyn bod ymhlith y cyntaf i dderbyn copi, a chynorthwyo ein gwasg fechan yn y gwaith o’u cyhoeddi. Cyhoeddir manylion lansiadau a digwyddiadau eraill i ddathlu’r achlysur yn ystod yr wythnosau nesaf.

merch y llyn

Grug Muse / Cyhoeddiadau’r Stamp 2021

ISBN 978-1-8381989-2-3 / 72t. / £8.00

Ffotograff y clawr: Cain Muse

Stafelloedd Amhenodol

Iestyn Tyne / Cyhoeddiadau’r Stamp 2021

ISBN 978-1-8381989-3-0 / 44t. / £7.00

Celf y clawr: Steffan Dafydd, Penglog

Previous
Previous

Newyddion: Mari Elen - golygydd gwadd Ffosfforws 2

Next
Next

Galwad agored: Ffosfforws 1