Newyddion: Mari Elen - golygydd gwadd Ffosfforws 2

Ar gyfer pob rhifyn o FFOSFFORWS, cyfnodolyn barddoniaeth Cyhoeddiadau’r Stamp, rydym yn gofyn i olygydd gwadd gwahanol ymgymryd a’r gwaith o ddewis a dethol y cerddi a gyhoeddwn. Rydan ni’n falch eithriadol o gyhoeddi mai golygydd gwadd Rhifyn 2 fydd Mari Elen.

Dramodydd a Gwneuthurwr Theatr ydy Mari Elen. Hi sy’n gyfrifol am bodlediad Gwrachod Heddiw, a dderbyniodd y wobr arian yng ngwobrau’r British Podcast Awards y llynedd, gan arwain at ymddangosiad ar bodlediad The Guilty Feminist, sy’n cael ei lawrlwytho gan filiynau o wrandawyr yn wythnosol. Ers graddio o gwrs Theatr a Pherfformio Prifysgol De Cymru yn 2015, mae hi wedi gweithio gyda sawl cwmni theatr a chwmni cynhyrchu yng Nghymru yn ysgrifennu, perfformio, creu a chyfarwyddo.

Dywedodd Mari:

"Dwi’n teimlo mor freintiedig bod Y Stamp wedi gofyn i mi fod yn olygydd gwadd Ffosfforws. Dwi'n caru pobl a dysgu mwy amdanyn nhw. Mi fysa'r byd yn le lot gwell tasa pawb yn gwrando ac yn dysgu o brofiadau ein gilydd. Wrth ddethol y cerddi fydd yn cael eu cynnwys yn Ffosfforws, dwi’n gobeithio y bydd yn gyfle i mi ddysgu mwy am yr unigolion fydd yn gyrru eu gwaith mewn, wrth i mi chwilio am leisiau sy'n adrodd stori, a cherddi sydd yn dathlu hunaniaeth, pobl a chymunedau."

Bydd galwad agored Ffosfforws yn glanio dydd Gwener YMA, 15 Ebrill, ac yn aros am fis - felly cadwch lygad barcud yma ar ein gwefan ac ar y cyfryngau cymdeithasol am fwy o fanylion.

Cofiwch fod Ffosfforws 1, dan olygyddiaeth Ciarán Eynon, yn parhau i fod ar gael mewn niferoedd cyfyngedig, ewch i’r Siop os am fachu copi.

Previous
Previous

Galwad agored: Ffosfforws 2

Next
Next

Cyhoeddiad: merch y llyn / Stafelloedd Amhenodol