Cyhoeddiad: Pendil - John G. Rowlands

ô (1).png

Mae’n bleser rhannu mai pendil gan John G. Rowlands yw cyfrol unigol nesaf Cyhoeddiadau’r Stamp; dyma gyfrol o haiku, senryū a cherddi byrion eraill gan arloeswr o fardd sydd â’r ddawn i grisialu ennyd mewn amser gydag ychydig iawn o eiriau.

Gallwch bellach rag-archebu pendil o’n siop ar-lein.

Daw John G. Rowlands o Lanrhystud yn wreiddiol. Cafodd ei addysg yn Aberystwyth ac yng ngholegau celf Caerdydd, Bryste a’r Drindod, Caerfyrddin. Bu’n athro celf yn Buxton, Ystradgynlais ac Aberystwyth cyn cael ei benodi yn Swyddog Celf Adran Addysg yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd rhwng 1990 a 1996. Ers hynny, bu’n potshian â phaent a geiriau yn Nhremadog. Enillodd goron eisteddfod Pontrhydfendigaid ym 1986, a hon yw ei bedwaredd cyfrol, yn dilyn aber, Annwyl arholwr, a cylymau tywod / knots of sand.

———

Yn y dyddiau igam-ogam blin sydd ohonynt, cysur mawr ydi darganfod rhyw ‘ganol llonydd distaw’, a rhyw dawelwch meddwl braf yw hanfod casgliad John Rowlands.

Mae’r penillion byr weithiau’n ffwr-bwt, weithiau’n enigmatig; ond maent gan amlaf yn delynegol atgofus, yn galw allan o’r dirgelwch barddonol bethau megis distawrwydd eira, crawiau o dawelwch hynafol, adenydd adar to, glöyn byw yn gorffwys…

Ni wn ai dyma fwriad Mr. Rowlands ond i mi, cadarnhad ydi ei gyfrol o hyn: y tu hwnt i’r byd a’i glymau dyrys, y tu draw i’r penawdau, mae rhyw fwynach realiti.

– Jan Morris, wrth adolygu cylymau tywod / knots of sand

pendil

John G. Rowlands / Cyhoeddiadau’r Stamp 2021

ISBN 9781838198916 / £8.00

Am ragor o fanylion neu i drefnu cyfweliad, sgwrs neu ddigwyddiad gyda’r awdur, cysylltwch drwy cyhoeddiadau.ystamp@gmail.com

Previous
Previous

Newyddion: Ciarán Eynon - golygydd gwadd Ffosfforws 1

Next
Next

Cyhoeddiad: Ffosfforws